Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Caroline

Ennill lle nad yw'r Gymraeg yn cŵl

Tecstio ffrindiau mewn ysgol arall

Merch sy'n mynychu ysgol lle nad yw'r Gymraeg yn "cŵl" ymhlith y disgyblion eraill a enillodd Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Shir Gâr.

Wedi ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg dywedodd Caroline McManus ei bod yn tecstio ffrindiau mewn ysgol arall er mwyn defnyddio ei Chymraeg.

Yn dod o Aberteifi dywedodd Caroline, yn dilyn prif seremoni yr Eisteddfod heddiw:
"Mae nifer o oedolion yn siarad Cymraeg yn Aberteifi ond dim llawer o bobl ifainc - dydi hi ddim yn cŵl siarad Cymraeg yn fy ysgol i," meddai.

Awgrymodd mai un rheswm am hynny yw nad oes digon o "selebs Cymraeg" ond ychwanegodd i Glyn Wise fod yn rhywfaint o ddylanwad.

Ychwanegodd mai mewn ysgol arall y mae ei ffrindiau sy'n siarad Cymraeg.

fgh "Ac fe fydda i'n eu tecstio nhw yn Gymraeg," meddai.

Ond yr oedd ganddi air o ddiolch i dair athrawes yn yr ysgol a fu'n ei helpu ar gyfer y gystadleuaeth.

Meddai Caroline: "Roedden nhw wedi rhoi eu hamser rhydd i fyny ar gyfer fy helpu, ac yn syml, dwi eisiau dweud diolch iddynt am eu gwaith caled dros y misoedd!" meddai.

Yn rhan o'r gwaith a anfonodd i'r gystadleuaeth yr oedd sgwrs â Cherie Blair wedi i Caroline ei chyfarfod ar ôl ennill cystadleuaeth yn 2004.

Yn dilyn ei champ yr wythnos hon bydd yn dychwelyd i ysgol Uwchradd Aberteifi yr wythnos nesaf i sefyll ei arholiadau Ffrangeg, Eidaleg a Chymraeg gan obeithio wedyn mynd i astudio'r gyfraith.

Rhoddwyd Medal y Dysgwyr eleni gan Ferched y Wawr, Rhanbarth Sir Gaerfyrddin ynghyd â £200 o gymorth ariannol i loywi iaith yr enillydd er cof am y diweddar Greville James, Cwmafan. Noddwyd y seremoni gan Gyrfa Cymru.


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý