Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Efa Gruffudd Jones

Cytundeb 'arwyddocaol'

Arwyddo cytundeb ar faes y Steddfod

Disgrifiwyd partneriaeth newydd rhwng yr Urdd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel un "arwyddocaol" a fydd yn gymorth i ddiogelu dyfodol y mudiad.

Arwyddwyd dogfen yn selio'r bartneriaeth ar faes yr Eisteddfod heddiw gan y Cynghorydd Meryl Gravell, Llywydd Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru, a Carol Davies, Cadeirydd yr Urdd.

Mae'r gymdeithas eisoes wedi dod i gytundeb gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ynglÅ·n a chyfraniad ariannol blynyddol gan awdurdodau lleol Cymru a disgrifiwyd y cytundeb diweddaraf hwn gyda'r Urdd fel "partneriaeth wir arwyddocaol" gan Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.

Dan y cytundeb newydd dywedodd y bydd gweithgareddau'r Urdd yn cael eu hystyried gan awdurdodau lleol wrth ddatblygu polisïau a strategaethau cenedlaethol. "Hefyd bydd ymwybyddiaeth o waith yr Urdd yn uchel o fewn awdurdodau lleol Cymru," meddai

"bydd rôl yr Urdd wrth ddarparu cyfleoedd hamdden a diwylliant i blant a phobl ifainc trwy Gymru gyfan yn cael ei hyrwyddo yn effeithiol," ychwanegodd.

Dywedodd y bydd cydweithrediad ffurfiol o'r fath yn esgor ar effeithiolrwydd ac yn osgoi dyblygu dianghenraid.

"Mae y cytundeb hwn yn gam mawr ymlaen er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau anghenion plant a phobl ifainc Cymru yn cael eu diwallu," meddai Carol Davies.

"Mae'n bwysig fod yr Urdd a Chymdeithas Lywodraeth leol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ar lefel strategol i sicrhau fod y ddarpariaeth yn ddigonol ac yn cael ei datblygu i roi cyfle i blant a phobl ifainc gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol, hamdden a diwylliannol," meddai Meryl Gravell.


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý