Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Coroni y llynedd

Seremonïau'r wythnos

Seremoni ar gyfer pob diwrnod

Mae prif seremoni bob diwrnod yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin gan gychwyn gyda seremoni i gyflwyno prif wobrau y cystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg dan arweiniad Heledd Cynwal yn ystod y seremoni agoriadol fore Llun.

Wedyn bydd seremoniau fel a ganlyn:
Dydd Llun - Y Fedal Lenyddiaeth
Rhodd Clwb Cinio Caerfyrddin. Meistr y Ddefod eleni yw Betsan Williams a'r beirniaid yw Ifor ap Glyn a Karen Owen.

Dydd Mawrth - Medal y Dysgwyr
Rhodd Merched y Wawr, Rhanbarth Sir Gaerfyrddin ynghyd â £200 o gymorth ariannol i loywi iaith yr enillydd, rhoddedig gan y teulu er cof am y diweddar Greville James, Cwmafan. Meistr y Ddefod eleni yw Ion Thomas a'r beirniaid yw Euros Jones Evans a Lisa Jane Davies.

Dydd Mercher - Y Fedal Ddrama
Rhodd Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Meistr y Ddefod yw Elin Llwyd a'r beirniaid yw Siwan Jones ac Ian Staples.

Dydd Iau - Cadeirio
Rhodd Manon, Heledd, Matthew, Anona a Tom Talog Davies er cof am Caryl Mai, a chan Melingoed Cyf, Castell Newydd Emlyn. Meistr y Ddefod yw Tudur Hallam a'r beirniaid yw Emyr Davies a Mari George.

Nos Iau -
Cyflwyno Medal John A Ceridwen Hughes, Uwchaled

I gydnabod cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid yng Nghymru. Cyflwynir gan Dewi a Gerallt Hughes. Meistr y Ddefod, Gareth James, Llywydd yr Urdd.

Dydd Gwener - Coroni
Rhoddir replica o'r goron eleni gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Meistr y Ddefod yw Fflur Dafydd a'r beirniaid yw Dylan Iorwerth a Mari Stevens.

Fel rhan o'r wobr cynigir lle ar gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu TÅ· Newydd, Llanystumdwy, i'r cyntaf, ail a thrydydd yng nghystadlaethau'r Gadair, y Goron, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Lenyddiaeth, a'r Fedal Ddrama.

Nos Wener - Defod Tlws y Prif Gyfansoddwr
Cyflwynir Medal Grace Williams gan Ysgol Bro Myrddin ynghyd â Gwobr Glynne Jones (£600) gan Ymddiriedolaeth Pendyrus. Meistr y Ddefod fydd Rhian Mair Lewis a'r beirniad yw Dr Lyn Davies.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý