Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Sian James

Hwb gan Siân i daith feithrin

Cyhoeddi CD ar faes yr Urdd

Rhoddir hwb arbennig i daith gan y Mudiad Ysgolion Meithrin ar faes yr Eisteddfod heddiw. Ac ar gyfer cychwyn Taith Gŵyl Feithrin bydd plant bach yn ymuno â'r gantores Siân James i ganu ac actio a chyhoeddi CD newydd.

Bydd y cyfan yn digwydd am 1.00 yn Stiwdio 5.

Yn rhan o'r daith yn ystod tair wythnos olaf mis Mehefin bydd y Mudiad yn ymweld ag ugain o leoedd ar hyd a lled Cymru ac yn ddiddanu tua 7,000 o blant a'u rhieni.

Mae Siân James wedi cynhyrchu CD o ganeuon gwerin yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac yn rhan o becyn adnoddau'r ar y thema Adar ac Anifeiliaid a bydd hwnnw ar werth yn yr Eisteddfod.

. "Dwi wirioneddol wedi mwynhau cynhyrchu'r CD yma. Roeddwn i wedi bod yn chwarae efo'r syniad o gynhyrchu CD o ganeuon gwerin i blant ers blynyddoedd, ac mae'r cais a gafwyd gan Mudiad Ysgolion Meithrin wedi rhoi hwb i mi i wireddu hyn," meddai Sian.

Mae'r CD yn gymysgedd o hen ffefrynnau fel Gee Ceffyl Bach a chaneuon llai cyfarwydd fel Aderyn Bach Syw yn ogystal â threfniannau newydd.

"Pan gytunodd Siân James i greu'r CD yma roeddem ni wrth ein boddau gan mai hi yw'r amlycaf ymhlith cantorion traddodiadol modern yng Nghymru," meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata'r Mudiad Ysgolion Meithrin.

Yn dilyn y digwyddiad yn yr Eisteddfod bydd y daith ei hun yn cychwyn fore Llun, Mehefin 11 ym Merthyr Tudful

Derbyniodd y Mudiad £5,000 gan raglen grantiau loteri 'Arian i Bawb Cymru' ar gyfer talu am leoliadau.


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý