Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Olwen - Culhwch ac Olwen

Agor gyda'r Llyfr Du

Cychwyn ar garlam gyda sioe Cefin

Yr oedd pafiliwn yr Eisteddfod bron a bod yn llawn ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007.

A chafodd y sioe am lyfr enwocaf Caerfyrddin - a Chymru - dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa.

  • Oriel luniau o'r sioe

    Ac yr oedd y ddau awdur, Mererid Hopwood a Tudur Dylan, hwythau hefyd wedi eu plesio gyda'r ffordd y trowyd eu geiriau yn sioe lwyfan llawn bwrlwm gan Cefin Roberts, y cyfarwyddwr.

    Stamp Cefin
    Yr oedd stamp Cefin yn drwm ar y cynhyrchiad wrth iddo wneud yr hyn y mae'n ei wneud (a'i fwynhau) orau yn y theatr: rhoi sioe llawn rhwysg a bwrlwm ar lwyfan.

    Nid bod hynny'n plesio pawb, wrth gwrs, gyda'r holl osgoeuon corfforol, chwifio breichiau a symudiadau wyneb weithiau mewn peryg o syrthio ar yr ochr oractio i bethau.

    Ond rhoddwyd hwb i'r cast i gyd ar ddiwedd ymarferiadau munud olaf pnawn Sadwrn pan gamodd Tudur Dylan a Mererid Hopwood i ganol yr actorion ar y llwyfan i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.

    Hanes ac atgof
    Wrth sôn am y cynhyrchiad wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd dywedodd Mererid Hopwood iddi hi a Thudur Dylan fod yn awyddus i bwysleisio nad hanes ond atgofion fyddai ar y llwyfan.

    "Nid hanes yw atgofion. Mae atgofion yn rhan ohonom. Hanes yw rhywbeth sy'n digwydd i rywun arall ond mae atgofion yn rhywbeth sydd wedi digwydd i ni," meddai.

    Chwifio cledd "Atgof y genedl yw Y Llyfr Du nid ei hanes," ychwanegodd gan ddweud mai dod a'r profiad hwnnw yn fyw oedd eu bwriad wrth lunio'r sioe.

    Lleol a chenedlaethol
    Y ddau ohonynt eu hunain a benderfynodd ar y Llyfr Du fel testun.

    "Yr oeddem eisiau rhywbeth yn gysylltiedig â Chaerfyrddin, yn amlwg," meddai Tudur Dylan, "ond a oedd hefyd o arwyddocâd cenedlaethol gan mai Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw hon.

    "Yn ffodus iawn, yr oedd Mererid wrthi'n gweithio ar ei rhaglen deledu am y Llyfrgell Genedlaethol ac wedi cael gweld Llyfr Du Caerfyrddin a chael holi arbenigwyr amdano," ychwanegodd.

    Ac mor naturiol a hynna daeth y ddau beth at ei gilydd.

    "Ac wrth gwrs," meddai Mererid Hopwood, "does yna yr un arbenigwr yn unman yn y byd yn gwybod pwy yn union oedd y mynach bach a fu'n sgrifennu'r llyfr ac yr oedd hynny yn rhoi rhwydd hynt i'n dychymyg ni ei ddarlunio fel yr oeddem ni eisiau."

    A'r Mynach - dienw mewn hanes ond a fedyddiwyd yn Iago yn nychymyg y ddau brifardd, oedd y ddolen a gysylltai'r holl straeon o'r llyfr sy'n dod yn fyw ar y llwyfan.

    Clytwaith lliwgar
    Yr oedd y cyfan yn glytwaith lliwgar a charlamus nid yn unig o chwedlau fel Culhwch ac Olwen a boddi Cantre'r Gwaelod ond hefyd gip ar fywyd y priordy yng Nghaerfyrddin a golygfa gyfareddol yn ymwneud â'r emyn hynaf yn yr iaith Gymraeg.

    Mewn rhai golygfeydd yr oedd yr iaith a'r idiom yn fodern a'r olygfa rhwng Olwen (Culhwch ac Olwen) a'r tair hoeden, Drwg, Gwaeth a Gwaethaf Oll, yn gyfle am ychydig o iniwendo rhywiol gyda phorthor o'r enw Gafaelfawr - wel fe allwch ddychmygu!

    Ond bu'n rhaid wrth gwrs ystyried na fyddai pawb yn y gynulleidfa yn gwybod beth yn union yw Llyfr Du Caerfyrddin ac i'r diben hwnnw cyflwynwyd gwers amdano yn ystod ymweliad criw o blant ysgol a'r Llyfrgell Genedlaethol lle mae'n cael ei gadw a'i drysori.

    Golygfa agoriadol hynod o nawddoglyd a wnaeth i rai ohonom ofni am weddill y cynhyrchiad.

    Ond wedi cael y wers allan o'r ffordd buan iawn y chwalwyd yr ofnau hynny.

    Doedd o ddim yn gynhyrchiad heb ei hiwmor gyda golygfeydd bywiog iawn rhwng Iago y mynach bach a'r Brawd Emyr a ofalai amdano ac a'i dysgodd sut i sgrifennu yn y lle cyntaf.

    Efallai nad oeddynt yn Ryan a Ronnie ond roeddent yn ddigon cofiadwy serch hynny!

    Cymerwyd rhan gan gymysgedd o actorion proffesiynol a ddisgrifwyd fel talentau y mae'r Urdd wedi eu meithrin - Catherine Ayres, Deiniol Wyn Rees, Dylan Williams, Catrin Evans, Emyr Gibson, Llinos Thomas, Simon Watts, Paul Morgans, Bethan Wyn Hughes, Elin llwyd, Iwan John, Rhys Parry Jones, Huw Euron, Mirain Haf ac Elan Isaac - a doniau amatur lleol ac ni ellir ond canmol y cyfle hwn a roddwyd iddynt rannu llwyfan.

    Cymerwyd rhan hefyd gan Gôr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cynnwys disgyblion o ysgolion Maes yr Yrfa, y Strade a Bro Myrddin.

    Weithiau doedd y sain ddim yn taro'n berffaith gan wneud i rai o'r lleisiau swnio'n rhy gras.

    Croesdynnu
    Elfen ddiddorol yn y 'stori' oedd y croesdynnu rhwng Iago a'r Abad - a gynrychiolai awdurdod ceidwadol diweledigaeth - gyda'r Brawd Emyr yn cael ei ddal yn y canol rhwng y ddau.

    Yr Abad yn gwarafun croniclo chwedlau neu atgofion bydol fel Culhwch Olwen ac heb weld eu gwerth fel pethau sy'n allweddol i gof ein cenedl.

    "Ym mhob oes mae yna Abad sy'n ceisio cael gwared â'r cof hwn ac mae yna her i bob un ohonom i'w warchod a'i drosglwyddo'n drysor i'r genhedlaeth nesaf," meddai nodyn yn rhaglen y sioe.

    A dyna gyfoeth Y Llyfr Du a sgrifennwyd mewn ffordd digon anghelfydd (yn ôl y wers ar y cychwyn) mewn priordy yng Nghaerfyrddin ond sydd heddiw yn bennaf trysor ein Llyfrgell Genedlaethol.

    Aeth y cynhyrchiad hwn gam tuag at ddangos pam mewn ffordd digon diddan a difyr a apeliai i deulu cyfan.



  • About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý