Βι¶ΉΤΌΕΔ

Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage
Cymru'r Byd

Β»
Βι¶ΉΤΌΕΔ Vocab
OFF / I FFWRDD
Β» Turn ON
Troi YMLAEN
Β» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Μύ

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Μύ

Straeon

Crwydro'r maes

Traffig - wedi gwella

Trafnidiaeth steddfod yn llifo'n rhwydd

Wedi dau ddiwrnod trafferthus roedd y drafnidiaeth yn llifo'n rhwydd i ac o faes yr Eisteddfod ddoe (Mercher).

Fore heddiw hefyd dyw neb yn wynebu problem i gyrraedd y maes mewn pryd.

Bu pryderon y gallai dydd Mercher fod yn hunllef gan fod marchnad anifeiliaid ar ran arall o'r safle.

Ond mewn glaw a chyda llawer iawn llai o ymwelwyr na'r diwrnodau cynt aeth pethau yn rhwyddach na'r disgwyl.

"Mae'n bleser cael dweud fod y drafnidiaeth yn rhedeg yn rhwydd a didrafferth," meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, a ymddiheurodd i Eisteddfodwyr y diwrnod cynt oherwydd iddynt fod yn sefyll mewn tagfeydd am awr a hanner a mwy ar gyrion y maes.

Gyda chawodydd wedi mennu rhywfaint ar y diwrnod ddoe, 13,346 a ymwelodd ΓΆ'r Eisteddfod - 4,500 yn llai na'r llynedd - ond er gwaethaf y glaw roedd y maes yn dal yn hwylus i gerddwyr a oedd yn canmol y llwybrau caled rhydd o fwd.

  • Ymwelodd 22,340 a'r Eisteddfod ddydd Llun (1,000 yn fwy na'r llynedd) a 21,580 ddydd Mawrth (1,500 yn fwy na'r llynedd).



  • About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Μύ