Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Dyddiau cystadlu - Fflur Wyn gyda Helen Wyn  yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi

Llywydd dydd Iau

Fflur Wyn - cystadlu ers yn chwech!

Dydd Iau Fflur Wyn Mae'r gantores glasurol Fflur Wyn yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd a ledled y byd erbyn hyn.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol y Gwynfryn Pontyates, Ysgol Gynradd y Glyn Brynaman, ac Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn mynd i'r Royal Academy of Music yn Llundain rhwng 1999 a 2006, gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn cerddoriaeth ac yna DipRAM fel ôl-radd.

Mae hi wedi canu'n broffesiynol yn The Magic Flute gan Mozart gydag Opera North, Le Nozze di Figaro gan Mozart gyda Garsington Opera a Jane Eyre gan Michael Berkeley gyda Music Theatre Wales.

Mae hi wedi ymddangos yn y Royal Albert Hall, St John's Smith Square, Palas Buckingham ac mewn cyngherddau yn Yr Almaen, America, Ffrainc a Sbaen.

Mae hi wedi cydweithio gydag arbenigwyr fel Colin Davis, Charles Mackerras, Paul McCrees a Richard Hickok, a chyda nifer o gantorion- a cherddorfeydd - o fri, fel Bryn Terfel, Neal Davies, Mark Padmore, Jennifer Larmore, Royal Philharmonic Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, Gabrielli Consort, a Cherddorfa Cymreig y Â鶹ԼÅÄ.

Ar y gweill
Mae ganddi nifer o bethau ar y gweill, gan gynnwys cyngherddau yn Chaise Dieu ac Utrecht, cyn dychwelyd i Opera North i chwarae rhan Clerida yn yr opera Croesus gan Kaiser.

Yn syth wedi'r eisteddfod bydd Fflur yn chwarae rhan Gretel yn Hansel & Gretel gan Humperdink, ac yna yn haf 2008 bydd yn chwarae rhan Pamina yn The Magic Flute gan Mozart gyda chwmni opera Holland Park yn Llundain gyda'r actor enwog Simon Callow yn cyfarwyddo.

Y mae hithau yn un a fu'n cystadlu ar lwyfan yr Urdd.

'Mi fuais i'n cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd ers yn chwech oed - a chael fy llwyddiant cyntaf 13 ar yr unawd merched 12-15 yn Eisteddfod yr Urdd Bro'r Preseli, 1995," meddai.

"Bûm yn ddigon ffodus i ennill saith neu wyth tro dros y blynyddoedd ar yr unawd, yr alaw werin, neu gerdd dant a dwi'n siŵr fod y profiad yma, a'r profiad o golli sawl tro hefyd, wedi bod o fudd mawr i mi wrth i mi fynd i'r byd proffesiynol," meddai.

Talent a brwdfrydedd
Dywedodd ei bod yn hynod falch i'r Eisteddfod ddod i Sir Gaerfyrddin.

"Mae'r sir yma yn hynod gyfoethog o ran talent a brwdfrydedd ac hefyd yn llawn prydferthwch natur. Mae'n ardal hynod o Gymreig, ac mae'r bobl i gyd yn groesawgar iawn.

"Dwi'n siŵr y bydd hon yn Eisteddfod i'w chofio. Pan ofynnwyd i mi fod yn Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod hon, mi deimlais anrhydedd mawr. Mae'r Urdd wedi rhoi gymaint i mi dros y blynyddoedd ac mi fydd yn bleser cymryd y cyfle i roi rhywfaint yn ôl i'r Eisteddfod ac i'r ardal.

"Mae'r Urdd yn arbennig am gefnogi ei hieuenctid, ac rwyf innau'n hynod o werthfawrogol am yr holl gyfleoedd a'r gefnogaeth a gefais dros y blynyddoedd," meddai.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý