Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Hywel Griffiths

Ennill cadair trwy Ffenestr

Crys T yn ymestyniad o'r gerdd . . .

Yr oedd y crys T a wisgai bardd cadeiriol Eisteddfod Sir Gâr ar y llwyfan yn ymestyniad meddai o'r gerdd a enillodd y gadair iddo.

Ac yr oedd wedi ei smwddio ar gyfer y diwrnod ganddo ef - a'i fam wedyn!

"I wneud yn siŵr ei fod yn edrych yn wyn, wyn," meddai Hywel Griffiths am y crys Cymdeithas yr Iaith â'r geiriau "Deddf Iaith Newydd".

Gareth Rees, saer y gadair Hanfod ei gerdd fuddugol ar y testun 'Ffenestr' oedd bod yn rhaid wrth ddulliau gweithredol i chwalu difaterwch a newid cymdeithas.

Dywedodd fod y ffenestr yn y gerdd, y mae person yn edrych trwyddi ar y byd yn drosiad o'r apathi sydd rhyngddo a'r byd go iawn.

"Gan fod y gerdd yn sôn am wleidyddiaeth ac yn sôn am apathi roeddwn i eisiau cyfeirio at y ffaith fod apathi cyffredinol yn thema i'r gerdd a bod y gerdd yn awgrymu mai gweithredu anghyfansoddiadol yw'r ffordd i dorri ar yr apathi," meddai wrth egluro pam y gwisgodd y crys T arbennig hwn.

"Dyna yw pwynt y gerdd a dweud y gwir ac roeddwn eisiau gwisgo i wneud datganiad clir," ychwanegodd.

Yr oedd hon yn gystadleuaeth lle'r oedd y tri a ddaeth i'r brig yn gyfeillion agos sy'n cystadlu'n gyson yn erbyn ei gilydd.

Roedd Hywel yn fuddugol ddwy flynedd yn ôl a threchu ei athro barddol Eurig Salisbury oedd yn fuddugol y flwyddyn ganlynol ond a wthiwyd i'r ail safle eleni eto.

Iwan Rhys oedd yn y trydydd safle eleni, a'r tri yn gwybod eu bod yn cystadlu.

"Yn amlwg gyda phobl roeddwn yn eu gweld yn eithaf aml fel nhw fe fuom ni'n trafod y gystadleuaeth ond doedd yna ddim llawer o drafod pynciau na beth oeddem ni'n mynd i sgrifennu," meddai.

Dywedodd mai astudio barddoniaeth yn yr ysgol a'i fwynhau fu'r symbyliad cyntaf iddo ef ddechrau barddoni ei hun.

"Ac roedd barddoniaeth, llenyddiaeth a llyfrau bob amser yn bwysig adref ac rwy'n darllen ers yn ieuanc iawn - ac wedyn rydych yn meddwl, 'Wel wnâi drio'i wneud e'n hun'," meddai.

Ond dywedodd ei bod yn cymryd "dipyn o ymdrech" iddo gyfansoddi a bod beirdd eraill yn cyfansoddi'n gyflymach nag ef.

Ar gyfer y gystadleuaeth hon dywedodd iddo ddechrau meddwl am y testun tua Thachwedd diwethaf a'i droi a'i drosi yn ei feddwl dros y Nadolig.

Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod, a Tom Defis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn edmygu'r gadair"Yna fe gymerodd rhyw ddau fis a hanner i'w sgrifennu a'i gael yn barod. - ac hyd yn oed wedyn yr oeddwn yn dal ati ddau o'r gloch y bore y diwrnod cyn ei anfon," meddai.

Ac yntau wedi ennill un o'r cadeiriau eisteddfodol harddaf ers blynyddoedd yr oedd yn hael ei ganmoliaeth iddi gan gyfaddef iddo oedi rhywfaint i'w hedmygu pan oedd yn cael ei harddangos mewn ffenest siop yng Nghaerfyrddin

"Fe fues i'n cerdded heibio yn syllu - ond wnes i ddim aros o gwmpas!" meddai.

  • Rhoddwyd y gadair eleni gan Manon, Heledd, Matthew, Anona a Tom Talog Davies er cof am Caryl Mai, a chan Melingoed Cyf, Castell Newydd Emlyn. Fe'i gwnaed gan Gareth Rees, saer o Hermon, Cynwyl Elfed.


  • About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý