Â鶹ԼÅÄ

Darlledu o'r Eisteddfod

Mari Lovgreen

Manylion darlledu ar Radio Cymru ac ar S4C yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Ar radio ...

Bydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn darlledu yn fyw o faes Eisteddfod yr Urdd Eryri drwy gydol yr wythnos, o ddydd Llun Mehefin 4 tan ddydd Sadwrn Mehefin 9, gan ddod â'r seremonïau a'r cystadlu yn fyw i'r gwrandawyr.

Rhwng 10.30am - 1pm a 2pm-5pm bob dydd bydd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn sylwebu'n fyw ar gystadlaethau'r llwyfan.

Bydd rhaglen o uchafbwyntiau'r cystadlu ddydd Sul, Mehefin 10, am 10.30am.

Bydd rhaglenni arbennig o yn dod yn fyw o'r maes hefyd nos Wener, Mehefin 8 a nos Sadwrn, Mehefin 9, am 7pm.

Caffi Mr Urdd fydd cartref fore ddydd Llun o 8am, wrth iddynt gychwyn dathlu'r wŷl mewn steil. Yn ymuno â nhw fydd y band Brigyn i berfformio cân y babis yn fyw ar y rhaglen.

Yn crwydro'r maes bydd Mari Lovgreen, wrth i Iwan Griffiths roi blas o'r cyffro cefn llwyfan. Hwn fydd y tro cyntaf i'r darlledwr Newyddion ymuno a thîm Radio Cymru yn yr Urdd: "Ar ôl cystadlu am flynyddau yn yr Urdd, dwi 'di mwynhau'r fraint o arwain yr Eisteddfod o'r llwyfan dros y tair blynedd diwethaf, ac eleni, yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael ymgymryd â rôl wahanol!" meddai Iwan.

"Mae gwasanaeth Radio Cymru o'r Eisteddfod yn werthfawr, a dwi yn y gorffennol wedi ei fwynhau a'i werthfawrogi'n fawr, felly mae'n gyffrous meddwl y bydda i'n rhan o'r gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf eleni."

Ac i gloi'r wythnos bydd y cyflwynydd Dylan Jones a thîm yn cymryd rhan mewn gornest bêl-droed nos Wener, Mehefin 8, ar Faes Dulyn ym Mhenygroes, yn erbyn timau Sgorio, Rownd a Rownd ac eraill.

Cynhaliwyd yno 20 mlynedd yn ôl pan fu Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon ddiwethaf.

Ar deledu ...

Bydd holl fwrlwm yr ŵyl i'w weld ar S4C yn ystod yr wythnos ac ar eu gwefan. Ewch i am fwy o wybodaeth.


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.