Â鶹ԼÅÄ

Mr Picton a Wali nôl ar gyfer gêm arbennig

Golygfa o'r gyfres C'mon Midffild

06 Mehefin 2012

Fel yr , un o greawdwyr y gyfres gomedi C'mon Midffild, rai wythnosau yn ôl bydd Mr Picton a Wali Tomos yn gwneud ymddangosiad ar nos Wener Eisteddfod yr Urdd ar gyfer gêm bêl-droed arbennig iawn.

Byddan nhw'n rhan o gêm i ddathlu brwydr fawr Maes Dulyn, sef gêm a gynhaliwyd rhwng tîm Pobol y Cwm a thîm C'mon Midffild yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle ac Arfon yn 1990.

Y tro hwn bydd y ddau eicon comedi yn mynd ben-ben â'i gilydd gyda thîm Arthur Picton yn wynebu Tîm Wali Tomos. Bydd Tecwyn 'Tecs' Parry yn dychwelyd i'r maes am y tro cyntaf ers ugain mlynedd fel Capten Tîm Arthur Picton, a Malcolm Allen, y cyn bêl-droediwr proffesiynol a sylwebydd Sgorio yn gapten y tîm arall.

Mae eraill o'r timau gwreiddiol yn gobeithio ymddangos ar y cae, ond bydd criw Rownd a Rownd a Sgorio yn rhan o sgwad enfawr Tîm Mr Picton. Criw Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru - Dylan Jones, Meilir Owen ac eraill - fydd yn helpu Wali Tomos.

Bydd y cyfan yn digwydd nos Wener, 8 o Fehefin 2012 ar gae pêl-droed Nantlle Vale ym Mhenygroes ger Caernarfon.

Bydd gêm 1990 yn cael ei chwarae ar sgrîn fawr a bydd maes Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle yn cael ei agor yn swyddogol ar ei newydd wedd fel rhan o ddathliadau'r noson.

Yn ôl Aled Jones Griffiths, Rheolwr y Clwb, mae hi'n fraint gwahodd ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd a phobl leol i'r maes newydd: "Rydyn ni wrth ein boddau bod digwyddiad mor fawr yn digwydd eto yma yn Nantlle Vale. Nôl ym 1990, pan oedd Steddfod yr Urdd yma ddiwethaf, roedd 3,000 o bobl yn gwylio'r gêm rhwng Bryn Coch United a Phobol y Cwm. Doedd dim modd symud yma, roedd ceir ym mhobman, ac roedd hi'n orlawn. Fe gawson ni amser gwych!

"Bydd cyfle nos Wener yma i ddathlu penllanw'r gwaith buddsoddi sydd wedi bod yn y Clwb, diolch i nawdd hael, a chyfle i ni nodi'r digwyddiad gyda noson hwyliog. Bydd gemau i'r plant, bwyd a diod a sgrin fawr ar y cae i wylio gêm 1990. Gobeithio'n wir y bydd torf fawr yma eto i greu awyrgylch hwyliog i blant, pobl ifanc, teuluoedd a'r to hŷn sy'n ddigon hen i gofio miri gêm y gorffennol. Mae'n braf iawn croesawu'r Urdd yn ôl i'r ardal, ac rydym yn dymuno'n dda i'r Eisteddfod gydol yr wythnos," eglura Aled Jones Griffiths.

Y dyfarnwr, fel yn y gêm wreiddiol yn 1990, fydd y Barnwr Nic Parry.

Mae'r gêm i ddechrau am 6.45 o'r gloch, gyda digwyddiadau eraill ar y maes ynghynt. Tâl mynediad yn £3 a phlant am ddim.


Dysgu

Merch yn adolygu

Bitesize TGAU

Nodiadau adolygu, gweithgareddau a phrofion i fyfyrwyr TGAU.

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.