Â鶹ԼÅÄ

Abertawe - 'Llwyddiant er gwaetha'r ffigurau'

04 Mehefin 2011

Er bod rhai miloedd yn llai na'r llynedd wedi ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, disgrifiodd pennaeth yr Urdd y digwyddiad ar faes y tu allan i Abertawe fel "steddfod fendigedig arall" ac un lwyddiannus.

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, nad â ffigurau mynediad yn unig y mae mesur llwyddiant Eisteddfod.

Yr oedd hon yn Eisteddfod o arwyddocâd personol iddi hi a ddechrau'r wythnos yr oedd yn ymhyfrydu bod prif ŵyl ddiwylliannol y mudiad y mae'n ei arwain yn ymweld â'i bro enedigol.

Ond gyda glaw cyson wedi tarfu ar weithgareddau bore Llun a gêm bêl-droed bwysig Abertawe yn Wembley yn siŵr o fod wedi 'dwyn' ambell i steddfodwr achlysurol yr oedd nifer yr ymwelwyr â'r Wyl gryn dipyn llai nag yng Ngheredigion y llynedd.

Ond meddai Efa Gruffudd Jones:
"Dydym ni ddim yn mesur llwyddiant yr Eisteddfod yn ôl faint sy'n dod trwy'r gât - y mae'n un o nifer o ffactorau ond yn amlwg yr ydym ni mewn ardal eleni wahanol i ardal Ceredigion.

"Mi gawsom ni dywydd gwael ar ddechrau'r wythnos. Yr oedd pawb o fy nheulu i yn y Liberty lle bydden nhw fel arall wedi bod yn yr Eisteddfod, a phan ydych chi'n meddwl bod deugain mil wedi mynd o'r Liberty ac Abertawe ddydd Llun [i Wembley] fe allem fod yn weddol ffyddiog y byddai canran wedi dod i'r Steddfod - ond rwy'n falch iawn bod cymaint wedi dod a bod cymaint wedi cystadlu a'r cystadlu i gyd wedi mynd yn esmwyth," meddai.

Ar ben yr anawsterau hynny; gyda'r eisteddfod wedi trefnu yr oriel fwyaf llachar o lywyddion y dydd ers rhai blynyddoedd methodd y ddau mwyaf llachar o'r rheini a bod yn bresennol, Joe Allen y pêl-droediwr a Shane Williams y chwaraewr rygbi.

"Yr oedd amgylchiadau eithriadol, personol, wedi bod yn achos un ohonyn nhw," meddai, "ac rydym yn deall fod gan y llywyddion fywydau prysur ond yr ydym yn falch eu bod nhw wedi gallu anfon negeseuon i'r Eisteddfod," meddai.

"Ac yr ydw i yn meddwl ein bod ni wedi cael llywyddion eleni sydd yn role models da i bobl ifainc," meddai.

Ac mi dreuliodd, Cerys Matthews, Lowri Morgan a Gwyn Jones amser ar y maes gan ganu yn eu tro glodydd yr Urdd a diolch am bob cyfle roddodd y mudiad iddynt.

Gan gyfeirio at hynny, dywedodd Efa Gruffudd Jones mai un o nodweddion yr Eisteddfod yw nad oes neb yn gwybod, yn y presennol, beth fydd ei heffaith ar ddyfodol y gwahanol rai sy'n cymryd rhan.

"Fe gawsom sawl un cyfeirio at wahanol weithgareddau yr Urdd - heb i'r Urdd ddweud wrthyn nhw beth i'w ddweud! - felly dydy ni ddim yn gwybod heddiw beth yw'r effaith fyddwn ni'n gael ar bobl ugain mlynedd yn ddiweddarach," meddai

Cyfeiriodd hefyd at arwyddion eraill o lwyddiant Abertawe.

"Dwi wedi cael sylwadau fod pobl gynnes y fro hon wedi croesawu pawb, y stiwardiaid wedi bod yn hynod o gyfeillgar, y sioeau nos wedi bod yn arbennig o addas a bod pobl ifainc wedi gwerthfawrogi y cyfleoedd maen nhw wedi'u cael gan fod yr Eisteddfod wedi dod yma," meddai.

O holl weithgaredd yr Eisteddfod dywedodd mai'r 'un peth' fydd yn aros yn ei chof hi am yr wythnos fydd y Sioe Gynradd lle'r oedd cant o blant ar y llwyfan drwy'r amser.

"Plant o gymysgedd o gefndir ieithyddol wedi dod at ei gilydd i berfformio'n Gymraeg i safon hynod o uchel a'r plant a'r gynulleidfa wrth eu boddau."

Ond gyda'r sioe hon hyd yn oed, bu'n rhaid bodloni ar un perfformiad yn hytrach na'r ddau a fwriadwyd.

Ar ddiwedd wythnos dywedodd hefyd fod arwyddion y bydd yr Eisteddfod "ar gyllideb" - heb wneud colledion.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.