Â鶹ԼÅÄ

Gwyn Jones - nerth o chwaraeon

02 Mehefin 2011

Bu Gwyn Jones yn sôn am y ffordd y bu'r profiadfau a gafodd yn cystadlu ar feysydd chwarae gyda'r Urdd pan yn blentyn yn gefn iddo pan fu'n rhaid iddo ddygymod a'r anaf a gafodd ar y maes rygbi yn 1997.

Yn un o'n sylwebwyr rygbi uchaf ei barch erbyn heddiw yr oedd Gwyn Jones yn chwaraewr cenedlaethol gyda'r mwyaf addawol nes iddo gael ei anafu a gorfod gadael y gêm.

Yr oedd ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau yn llywydd y dydd gan ddwyn i gof sut y bu'n aelod o barti dawnsio gwerin buddugol mewn eisteddfod yn Yr Wyddgrug .

Aeth ymlaen I ddweud iddo ymuno â gweithgareddayu chwaraeon yr urdd hefyd.

"Fe fues i'n ffodus yn y maes chwaraeon i gystadlu ac i ddysgu sut i gystadlu a bod yn rhan o dîm ac I dderbyn colli ac ennill a'r ymdrech a'r brawdgarwch sy'n cael ei greu mewn sefyllfaoedd tebyg ," meddai.

"Rydw I wedi cymryd lot allan o hynny yn fy mywyd wedyn - cryfder i wella ar ôl yr anaf a hyn a'r llall," ychwanegodd.

"Dwi'n credu bod yr Urdd yn cynnig yr un math o brofiadau i bobl sydd ddim yn gwneud rhywbeth yn y maes chwaraeon. Bod yn rhan o dîm a chydweithio'n galed er mwyn llwyddiant ond hefyd yn gorfod delio gydag ennill a cholli ac anghyfiawnder ydych chi'n deimlo weithiau ac mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o hynny; mae wedi rhoi lot o nerth wrth gefn imi," meddai.

"Ac wrth wneud hynny mae'n rhoi cysylltiad gyda'r traddodiad a'r etifeddiaeth a hanes a'u cadw i fynd ar gyfer y genhedlaeth nesaf," meddai.

Yr oedd gwyn yn ddisgybl yn ysgol Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin ac wedyn Ysgol Gyfun Gŵyr pan ddaeth I gysylltiad â'r Urdd.

"Ro'n i'n arfer cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau gyda'r Urdd pan oeddwn i'n blentyn," meddai.

"Ro'n i'n aelod o'r côr, yn aelod o'r parti dawnsio gwerin ac fe gawsom ni lwyddiant sawl gwaith yn y genedlaethol. Fe wnes i gystadlu ar y ddawns glocsen unigol hefyd ond chefais i ddim llwyfan!"

Erbyn heddiw mae'n feddyg, yn ohebydd rygbi uchel ei barch ac fin dechrau swydd mewn meddygfa yn Nhre-gŵyr yn ei fro enedigol.

Dywedodd fod y gefnogaeth I'r Urdd yn rhywbeth teuluol gyda'i, sydd hefyd yn feddyg, wedi seiclo o Gaernarfon i Gasllwchwr i godi arian.

"Rwy'n teimlo'n fraint i gael cynrychioli'r ardal drwy dderbyn y gwahoddiad i fod yn Llywydd y Dydd ac yn edrych ymlaen at gael blas ar yr amrywiaeth o weithgareddau sydd gan yr Eisteddfod i'w cynnig."


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.