Â鶹ԼÅÄ

03 Mehefin 2011

Bydd 21 o Gymry ifanc yn mynd i Batagonia fis Mehefin i wneud gwaith gwirfoddol

Datgelwyd pwy fydd y bobl ifanc mewn cyfarfod ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Yrdd Abertawe, for Gwener.

Byddant yn cychwyn ar Hydref 18 ac yn aros yno tan Tachwedd 1.

Maen nhw'n gobeithio codi £2,000 yr un tuag at y costau.

Mewn cynhadledd i'r Wasg ar faes yr Eisteddfod eglurwyd y bydd y criw yn cyfarfod dair gwaith, er mwyn dod i adnabod ei gilydd gan gynnwys taith gerdded i fyny Carnedd Gwenllïan a mynychu asado, barbaciw Archentaidd, yn Nyffryn Conwy.

Y 21 yw:

  • Manon Elwyn Hughes, Bronwen Price a Gethin Griffiths o Ysgol Brynrefail, Llanrug ger Caernarfon
  • Sian Parry a Sioned Wyn Jones o Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn
  • Anest Evans, Manon Roberts, Ceri Lewis a Lora Thomas o Goleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli
  • Catrin Euron Lewis, Catrin Eilwen Davies a Beca Glyn o Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst
  • Bethany Juckes-Hughes a Steffan Rhys Hughes o Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy
  • Lois Morus o Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
  • Nia Shaw, Erin Owain, Ifan Dafydd Jones, Rhiannon Thomas a Catrin Donnelly o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
  • Angharad Bryant o St Paul's Girls School, Llundain

Dyma'r pedwerydd tro i'r Urdd a Mentrau Iaith Cymru gydweithio yn trefnu'r daith hon i Batagonia, gyda chymorth swyddogion y Fenter Iaith ym Mhatagonia.

Y ddau swyddog sydd wedi eu cyflogi allan yno eleni yw Lois Dafydd a Iwan Madog, a hwy fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i'r bobl ifanc eu gwneud tra ym Mhatagonia.

"Mae'r ffaith fod yr iaith Gymraeg yn bodoli mewn gwlad mor bell yn Ne America yn codi blys arnaf i fynd yno ac i gael y profiad o weld drosof fy hun pa mor wahanol yw hi yno i Gymru fach," meddai Manon Elwyn Hughes o Fethel ger Caernarfon.

"Rwy'n hoff o ieithoedd felly mi fydd cymharu sut mae'r bobl o Batagonia'n siarad ein hiaith ac sut mae'r iaith wedi datblygu yno o gymharu â ni yn ddiddorol iawn."


Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.