Â鶹ԼÅÄ

Canmol llwyddiant

05 Mehefin 2010

Gyda thrigolion Ceredigion wedi codi £60,000 o bunnau yn fwy na nod y gronfa leol o £300,000 cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llanerchaeron gychwyn da.

Bu canmol hefyd ar barodrwydd cwmniau lleol i noddi'r ŵyl.

"Mae'r gymuned fusnes yng Ngheredigion wedi cefnogi'r Eisteddfod i'r carn. Heb gefnogaeth ein noddwyr fyddai cynnal gŵyl lwyddiannus bob blwyddyn ddim yn bosib. Gobeithiwn adeiladu ar y llwyddiant yma yn Abertawe'r flwyddyn nesaf," meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau.

O dda i well i gwelwyd pethau'n mynd wrth i'r wythnos fynd rhagddi ac ni tharfodd dydd Mawrth digon annifyr o ran tywydd ddim ar hwyliogrwydd yr achlysur gyda nifer yr ymwelwyr, hyd yn oed y diwrnod hwnnw yn agos iawn i'r hyn oedd y llynedd.

Erbyn dydd Iau yr oedd Llanerchaeron 5,000 ar y blaen.

Y diwrnod cyntaf ymwelodd 22,834 â'r maes ar gaeau braf plasdy Llanerchaeron - mil yn fwy na'r un diwrnod yng Nghaerdydd y llynedd.

Ac er gwaethaf ofnau y byddai trafnidiaeth yn tagu'r ffyrdd culion arweiniai at y safle ychydig iawn o gwyno fu yna o'r safbwynt hwnnw hefyd.

Ond, i aralleirio y cyn Arlywydd Clinton, "Y tywydd, sili" sy'n cario Steddfod a bu'r twydd yn hynod gydol yr wythnos gydag un o'r gwerthwyr hufen iâ yn gwerthu mil o gornetau rai diwrnodau.

Ac ar y diwrnod cyntaf ni allai Merched y Wawr ddal i fyny â'r gofyn am lefrith i'w roi ym mhaneidiau ymwelwyr â'u pabell!

Jean Jones yn llongyfarch y bardd a enillodd y gadair er cof am ei gwr

Yn dilyn y siom y llynedd o neb yn deilwng o'r gadair bu buddugoliaeth - a chanmoliaeth - ym mhob un o'r prif seremonïau gyda'r gadair y daethpwyd i gyfeirio ati fel 'Cadair Dic Jones' yn cael ei hennill gan Llyr gwyn Lewis er mawr lawenydd i deulu'r diweddar brifardd.

Ychwanegwyd at y pleser lleol o weld dau gystadleuydd o'r ardal yn cipio prif wobrau; Jack Pulman-Slater yn ennill Medal y Dysgwyr a Catrin Haf Jones yn ennill y Goron.

Llwyddiant nodedig, hyd yn oed cyn i'r un o'r 100,000 o ymwelwyr gyrraedd y maes, oedd y sioe ieuenctid Plant y Fflam - sioe gerdd yn cael ei chyfarwyddo gan Jeremy Turner o gwmni theatr Arad Goch wedi ei sylfaenu ar ganeuon Edward H Dafis y bu'n rhaid cynyddu nifer ei pherfformiadau o ddau i saith.

Ac fel pe'n hufen ar y gacen honno, wele gyhoeddi ddydd Mercher mai Dewi Pws fyddai Bardd Plant newydd Cymru - aelod blaenllaw o'r Edward H chwedlonol.

Heb os yr oedd trigolion y fro wedi ymroi i'w heisteddfod gyda baneri coch, gwyn a gwyrdd yn tyfu mewn gardd ar ôl gardd a baneri lleol eraill du a gwyrdd - arddangosiad a fydd yn her i Abertawe y flwyddyn nesaf.

A chyda rhwydd hynt i eisteddfodwyr grwydro i erddi a fferm y plasty gerllaw o eiddio'r Ymddiriedolaeth gwelwyd cynnydd o 20% yn nifer yr ymwelwyr â'r tŷ o gymharu a blwyddyn arferol.

"Mae hi wedi bod yn wythnos anhygoel yn Llanerchaeron. Ma'r tywydd wedi bod o'n plaid ni, ond yn bwysicach na hynny, mae' croeso'r ardal wedi bod yn ddiguro," meddai T udur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod.

"Mae safon y cystadlu wedi bod gyfuwch ag erioed ac mae gallu'r bobl ifanc ar y llwyfan ac yn y testunau gwaith cartref yn destun rhyfeddod o flwyddyn i flwyddyn," ychwanegodd.

Deian Creunant

Ac meddai Deian Creunant, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol:

"Rwy wrth fy modd fod Eisteddfod yr Urdd Ceredigion wedi bod mor llwyddiannus. Mae cymaint o wirfoddolwyr lleol o bob rhan o'r sir wedi gweithio'n ddiflino ers tair mlynedd a mwy i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn rhwydd, ac mae'r gwaith caled wedi bod yn werth bob eiliad.

Roedd y cyfleoedd gwych i blant a ieuenctid y fro gymryd rhan yn y cyngherddau a'r sioeau gwych, y seremonïau, y gwasanaeth ddydd Sul ac ar y Maes. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd i sicrhau bod hon yn wythnos fythgofiadwy."

Gwaraidd sipian cwrw a gwin . . .

Dros y misoedd nesaf bydd yr Urdd yn astudio canlyniadau arolwg a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos i weld beth weithiodd a beth fyddai angen ei newid yn dilyn Llanerchaeron.

Un o'r pynciau heb os fydd Y cwestiwn cwrw a gwin ar y maes

.

Mae'n wir na fu unrhyw gwffio meddw yn y Y Bwyty ac na fu'n rhaid taflu llafnau lagyr allan drwy'r drws ac na welwyd neb yn chwydu yn ei ddiod dros steddfotwyr bach diniwed.

Yn wir, yr oedd pob ymweliad â'r bwyty yn brofiad gwaraidd ddigon - ond y mae rhai o gefnogwyr selog yr Urdd yn dal yn anesmwyth gyda'r syniad.

Bydd edrych ymlaen yn awr i weld sut y bydd yr Urdd ei hun yn mesur llwyddiant neu aflwyddiant yr ymarferiad.

Mae rhywun yn amau mai mwy o'r un peth fydd hi yn Abertawe er i swyddogion yr Urdd osgoi nodi beth yn benodol fyddan nhw'n ei gyfrif yn arwyddion o lwyddiant y fenter.

Cawn weld

Iechyd Da.


Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

C2

Huw Stephens Yn ei Grŵf!

Gêm: Yn y Grŵf

Gêm newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.