Â鶹ԼÅÄ

Llywydd dydd Mawrth - Elin Jones

Elin Jones AC

24 Mai 2010

Dydd Mawrth Elin Jones AC

Llywydd dydd Llun yw'r gweinidog cefn gwlad yn y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones, merch leol a fagwyd ar fferm yn Llanwnnen, ger Llambed.

Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbed. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Caerdydd gyda BSc mewn Economeg cyn dilyn ôl-radd MSc mewn Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Am bedair blynedd bu'n ymchwilydd mewn Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym 1991, dechreuodd weithio ar gyfer Bwrdd Datblygu Cymru Wledig ac yna i Asiantaeth Datblygu Cymru yn Aberystwyth.

Etholwyd hi i gynrychioli Ceredigion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 ac fe'i hail etholwyd yn 2003 ac eto yn 2007.

Yng Ngorffennaf 2007, penodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig yn Llywodraeth Cymru'n Un yn dilyn clymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur.

Dywed fod ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn dyddio'n ôl i 1992 pan gafodd ei hethol yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth ac ymysg ei diddordebau fel gwleidydd mae'r economi wledig, cynllunio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Y tu allan i'r byd gwleidyddol, mae ei diddordebau yn cynnwys teithio a cherddoriaeth. Mae'n canu gyda Chôr ABC - côr cymysg lleol yn Aberystwyth - sy'n canu mewn cyngherddau lleol ac eisteddfodau.

Elin Jones.


Lluniau'r Maes

Cymerwch olwg ar y luniau dydd Llun a Mawrth o faes Llanerchaeron.

C2

Huw Stephens Yn ei Grŵf!

Gêm: Yn y Grŵf

Gêm newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.