Â鶹ԼÅÄ

Cadair er parch i'r ifanc

Saer a'i gadair

03 Mehefin 2010

Mae bardd cadeiriol Eisteddfod yr Urdd 2010 wedi ennill cadair sy'n nodedig am y ffaith fod y diweddar Brifardd Dic Jones yn symbolaidd blygu ei ben mewn parch iddo.

Ar gefn y gadair a wnaed gan Glan Evans gwelir trwy ffenest storws dywysen a'i phen i lawr.

"Dic oedd eisiau y dywysen yna a'i phen i lawr fel arwydd o'i barch o tuag at y bobl ifainc sy'n mynd ati i farddoni," meddai Tudur Dylan Jones, cadeirydd pwyllgor eisteddfodau yr Urdd, fore Iau.

"Meddyliwch, ennill cadair felna edo y dywysen yna yn symboleiddio Dic yn plygu ei ben i ddawn ein ieuenctid ni heddiw," ychwanegodd.

Rhodd gan deulu'r diweddar Dic Jones, a fu farw yn ystod ei dymor yn Archdderwydd Cymru, yw'r gadair a bu ganddo ef ran yn ei chynllunio gyda'i ffrind mawr, y saer, Glan Rees.

"Roedd Dic yn bendant iawn mai cadair syml, fodern ddylai hon fod," meddai Glan sy'n byw yn Nhreftraeth ac yn gyn brifathro Ysgol Bro Ingli.

Ond ychwanegodd bod delweddau cryf a phendant iawn ynddi hefyd gan gynnwys y 'ffenestr' o wydr lliw yn edrych i'r dyfodol.

"Mae'r gwydr yn dangos delweddau amaethyddol, megis tywysen yn ogystal ag arfordir Sir Aberteifi, oedd oll mor bwysig i Dic," meddai.

Gwelir hefyd farcud coch.

Cyfeiriodd yntau hefyd at ddelwedd y dywysen blygedig:

"Roedd yn aml yn dweud wrtha'i gymaint o barch yr oedd ganddo at y beirdd ifanc a'r hyn y maent yn ei gyflawni," meddai.

Ar gefn y gadair, mae cwpled o eiddo Dic o'i gerdd, 'Y Gamp'.

"Mae'r gadair wedi ei gwneud o barch a chariad at Dic," meddai Jean, gweddw Dic Jones.

"Roedden ni'n ffodus fod Glan wedi dod i'n gweld pan ddaeth e. Roedd Dic yn ei bethe ac fe gawsom ni drafod y steil a'r delweddau a dwi'n gwybod y bydde Dic wrth ei fodd efo'r gadair orffenedig."

Jean, ail o'r chwith, a'r teulu ar y maes

Ychwanegodd, y byddai'r gadair wedi golygu llawer i'w gŵr a enillodd bump o gadeiriau'r Urdd i gyd.

"Bydde fe'n browd iawn. Erth ei fodd," meddai. Ac ychwanegodd Rhian, ei merch, pe na byddai'r gadair wedi ei hennill na fyddai anhawster cael cartref iddi o fewn y teulu.


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.