Â鶹ԼÅÄ

Llywydd dydd Gwener: Eleri Sion

Eleri Sion

24 Mai 2010

Llywydd dydd Gwener yn yr Eisteddfod fydd y ddarlledwraig Eleri Siôn.

Ganwyd a magwyd Eleri Siôn ar fferm yn Nyffryn Aeron. Dechreuodd ei gyrfa ym myd teledu fel cantores ar raglenni adloniant ysgafn cyn symud ymlaen i gyflwyno nifer o raglenni chwaraeon plant a oedd yn cynnwys gohebu o Gwpan Rygbi'r Byd yn Ne Affrica yn 1995.

Yn yr un flwyddyn ymunodd Eleri â chriw Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru gan ohebu'n gyson ar gemau rygbi ac o ganlyniad, hi oedd un o'r merched cyntaf i ohebu ar rygbi yn y Gymraeg.

Mae gan Eleri hefyd brofiad o weithio y tu ôl i'r camerâu fel is-gynhyrchydd gyda Sky Sports ar chwe Phencampwriaeth Darts y Byd, Pencampwriaeth Pŵl y Byd a Phencampwriaeth Snwcer Prydain.

Ym 1997 ymunodd â thîm Y Clwb Rygbi fel is-gynhyrchydd a chyflwynydd. Mae Eleri wedi cyflwyno o rai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd megis tîm Rygbi Cymru'n curo'r gamp lawn yn 2005 a 2008, tair Twrnament Cwpan Rygbi'r Byd (Cymru 1999, Awstralia 2003, Ffrainc 2007) ac ymunodd â'r Llewod ar gyfer eu taith o amgylch De Affrica y llynedd.

Gyda phrofiad eang o gynyrchiadau, mae Eleri wedi dangos ei hyblygrwydd gan weithio ar raglenni gwahanol gan gynnwys Wawffactor, Jonathan, Y Briodas Fawr, Cadair Fawr Eleri Siôn, Bwrw'r Bar, Eisteddfod yr Urdd, Cân i Gymru a Sioe Amaethyddol Cymru.

nes iddi gael babi yn ddiweddar cyflwynai raglen foreol Radio Cymru gyda Dafydd Du. Fe'i dewiswyd hefyd yn wyneb newydd rhaglen Noson Lawen ar ei newydd wedd ar S4C.


Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.