Βι¶ΉΤΌΕΔ

Y gwynt yn chwythu dros wyddoniaeth

Aled Sion

Mae'r Urdd wedi cychwyn ar gyfnod o roi pwyslais newydd ar wyddoniaeth fel rhan o weithgareddau'r mudiad ac fe fydd cystadlaethau gwyddonol newydd yn Eisteddfod y flwyddyn nesaf yng Ngheredigion.

Ond cyn hynny, o gwmpas Caniolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yr wythnos hon tynnodd 'arbrawf' Bysgio Ffiseg - Physics Busking dipyn o sylw.

Newydd yng Ngheredigion

Ac mewn cydweithrediad ΓΆ Science Made Simple a'r Sefydliad Ffiseg cyhoeddwyd cystadlaethau gwyddoniaeth ac amgylcheddol newydd ar gyfer Eisteddfod Ceredigion.

"Roedd pwyllgor lleol Ceredigion yn awyddus i gyflwyno cystadlaethau newydd gwyddonol ac amgylcheddol fel bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ymchwilio syniadau newydd i leihau cynhesu byd eang, ond hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau ar ffurf newydd yn yr Eisteddfod," meddai Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.

Cefnogir y fenter gan Gwmni Ynni Gwynt sy'n eiddo i amaethwyr a busnesau gwledig yn sir Conwy a bydd yr ymgeision buddugol yn cael eu harddangos yn y Babell Wyddoniaeth newydd yn Llanerchaeron 2010.

Y math o gystadlaethau

Ymhlih y math o gystadlaethau sy'n cael eu hystyried mae cynllunio a chreu melin wynt sy'n cynhyrchu trydan a chreu ffilmiau byr sy'n egluro i bobl gyffredin brif egwyddorion ffiseg mewn ffordd ddifyr.

"Mae dod ΓΆ gweithgareddau gwyddonol i'r cyhoedd yn fenter newydd i'r Eisteddfod ac rydym yn gobeithio ei bod hi'n dod ag agwedd newydd i'r gweithgareddau y tu allan i'r prif gystadlu ar lwyfan y Pafiliwn," meddai Akled Sion.

Mae manylion y cystadlaethau newydd ar wefan


Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.