Â鶹ԼÅÄ

Triongl dathlu

Owain Rhys

I'r rhai hynny sy'n hiraethu am yr Urdd fel ag yr oedd mae arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn olrhain hanes y mudiad - Urdd.org.

Mae'n cynnwys caban o Langrannog a nifer o wrthrychau.

Bu'r Amgueddfa Werin a'r Urdd yn cydweithio ar sawl cynllun eleni gan gynnwys un gyda'r enw Triongl, a noddwyd gan y Principality.

Mae'r cynllun yn mynd law yn llaw ag 'Urdd.org' sydd yn Sain Ffagan tan 11 Gorffennaf 2009.

Tri phegwn

Tri phegwn y triongl yn yr enw yw cymdeithasu, cystadlu a chasglu a chlymwyd tri gweithgarwch celfyddydol â'i gilydd i gyfleu hynny. Bu criw o feirdd ifanc o Feirionnydd yn llunio cerdd ar y thema 'Triongl' gyda Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn ym mis Rhagfyr.

Yna crëwyd darn o gelf yn seiliedig ar y gerdd gan ddisgyblion Lefel A Ysgolion Penweddig a Dyffryn Teifi dan arweiniad yr arlunydd Mary Lloyd Jones sy'n wreiddiol o Bontarfynach ger Aberystwyth.

I gloi'r gadwyn, bu disgyblion Ysgolion Plasmawr a Fitzalan yng Nghaerdydd, dan arweiniad Cerdd Gymunedol Cymru, yn recordio gwahanol synau o amgylch yr Amgueddfa Werin gan gynnwys synau adar yn canu, coed yn llosgi, a'r gof yn gweithio - â'u plethu i greu cyfansoddiad cerddorol unigryw wedi'i ysbrydoli gan y gerdd a'r gwaith celf.

Rhannu syniadau

Dywedodd Elin Lambie o Ysgol y Berwyn a fu'n rhan o'r gweithdy cyntaf iddi fod "yn grêt " cael rhannu syniadau a chlywed beth oedd gan bobl o ysgolion eraill i'w ddweud.

"Ac mae'n dda meddwl y bydd y gerdd yn rhan o rywbeth mwy ac yn rhan o arddangosfa'r Urdd yn Sain Ffagan yn yr haf," meddai.

Disgrifiodd Mary Lloyd Jones y syniad fel un cyffrous iawn.

"Roedd yn wych cael gweithio â'r bobl ifainc i greu cywaith yn defnyddio lliwiau sy'n gysylltiedig â thirwedd Cymru. Fe fuon ni hefyd yn dilyn y traddodiad clytwaith oedd yn rhoi cyfle i chwarae â thrionglau a chynnwys geiriau'r gerdd a gyfansoddwyd gan y beirdd ifanc yn y gogledd," meddai.

Ac am y casglu seiniau yn Sain Ffagan dywedodd Owain Rhys, Curadur Bywyd Cyfoes yr Amgueddfa:

"Roedd yn gyfle gwych i'r plant brofi awyrgylch unigryw Sain Ffagan tra'n dysgu am greu cerddoriaeth drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Roedd yn dipyn o sialens asio'r darn gyda'r farddoniaeth a'r gwaith celf, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cywaith terfynol."

Penllanw'r cydweithio fydd dau ddiwrnod o ddathlu gweithgareddau'r Urdd ar ddiwedd cyfnod arddangosfa Urdd.org, Gorffennaf 9 a 10 2009 gyda phedair mil o blant yno.

Dyma'r gerdd

Gweithdy'r Urdd 2.12.08

Triongl

Mae'r seren ar ei hanner
A'i sŵn sydd ynom ni

Y brefu o'r cae dan tÅ·
A Morys y gwynt drwy'r coed
Neu gyrn y ceir ar strydoedd y Bae
A dwndwr draen yn byrlymu i'r môr

Cariwn y cyfan mewn potel â ni
I'n cynnal wrth gamu yn betrus i'r maes
Ac wrth droedio llwyfan y cyd-ddyeu

Cyd-symudwn yn osgeiddig
Cyd-gordiwn yn ddeheuig
Nes fod efydd ein hymdrech
Ac arian ein dawn
Yn creu awyrgylch newydd aur

Ac yna'r ymlacio, rhoi'r baich heibio
Rhannu profiad, rhannu gair
rhannwn ffaith, a barn a chlecs,
yn dorf neu'n griw neu'n bâr

ac wrth anelu am adre'n falch
a phawb wedi gwneud eu rhan
mae'r seren yn gyflawn
a'i golau'n disgleirio
a'i sŵn yn atseinio ymhob man.

Tomos Gerallt, Ruth Jones, Grisial Pugh, Owain Rowlands, Iwan Evans, Haydn Jenkins, Cybi Williams, Megan Glyn Jones, Elin Lambie, Joseff Edwards, Garmon Lewis, Finn Price, gydag Ifor ap Glyn


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.