Â鶹ԼÅÄ

Tlws John a Ceridwen Hughes

Y ddau enillydd

Un o'r pethau cyntaf y bu'n rhaid i enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes eleni ei wneud oedd egluro nad ydyn nhw yn ŵr a gwraig!

Cyflwynwyd y Tlws, sy'n cael ei roi'n flynyddol am gyfraniad nodedig i ieuenctid Cymru, i Ifan Alun Puw ac Ann Jones o Lanuwchllyn ar lwyfan yr Eisteddfod heno.

Enwebwyd y ddau gan eu hardalwyr a oedd yn awyddus i ddangos eu diolchgarwch am weithgarwch a brwdfrydedd y ddau yn arwain Adran Bentref Llanuwchllyn er 1974.

Dan gysgod O M a Syr Ifan

Ifan yw prifathro'r ysgol bentref ac Ann yn athrawes yno a dywedodd y ddau iddynt fod yn cydweithio mor agos dros y blynyddoedd fod nifer yn tybio eu bod yn ŵr a gwraig!

Cyfeiriodd y ddau hefyd pa mor ymwybodol oeddynt o gysylltiad Syr O M Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards a'r ardal gyda chofgolofn y ddau dros y clawdd i'r ysgol.>/p>

Ers ffurfio Adran o'r Urdd yn Llanuwchllyn 35 mlynedd yn ôl mae cannoedd o blant wedi elwa o ddoniau'r ddau gydag Ifan yn canolbwyntio ar weithgareddau celfyddydol ac Ann ar bethau awyr agored.

Dan eu harweiniad enillwyd Tlws Treuddyn i'r adran bentref uchaf ei marciau yn Eisteddfod yr Urdd bedair gwaith yn olynol yn yr Wythdegau.

Daeth yr Adran i'r brig droeon hefyd gydag Ifan Alun Puw a'i briod Rhian yn hyfforddi'r parti llefaru ac Ann Jones yn gyfrifol am y parti dawnsio. Bu'r ddau hefyd yn arweinyddion yr Eisteddfod leol am nifer o flynyddoedd gan annog yr ieuenctid i gymryd rhan mewn sawl agwedd ohoni ac maent hefyd yn athrawon Ysgol Sul.

Dringo a chwarae

"Oni bai am y ddau mae'n debyg na fyddai rhelyw o aelodau'r Adran wedi profi'r hwyl o aros yng Nghanolfan Rhyd Ddu a dringo'r Wyddfa a hefyd aros yng ngwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Phentre Ifan.

"Gofalodd yr arweinyddion fod yr aelodau yn cael y cyfle i gymryd rhan yn chwaraeon yr Urdd ar bob lefel ac maent yn parhau i gynnig rhaglen amrywiol o weithgareddau i'r aelodau pan fo'r Adran yn cwrdd yn wythnosol," meddai datganiad gan yr Urdd yn cyhoeddi'r wobr.

Cafodd y ddau wybod eu bod wedi ennill y Tlws mewn noson yn yr Aelwyd yn Llanuwchllyn ddechrau'r mis a mawr oedd y dathlu gyda chenedlaethau o aelodau hen a newydd wedi dod yno i'w llongyfarch ac meddai Siôn Aran Jones, 12 oed o Lanuwchllyn:

Cynnig profiadau

"Mae Mr Alun Puw a Mrs Ann Jones wedi rhoi llawer o brofiadau gwerth chweil i ni yn yr Adran o deithiau cerdded, noson chwist, cyfle i actio yn yng Ngŵyl Ddrama Llanuwchllyn a thripiau i sglefrio iâ yng Nglannau Dyfrdwy. Mae'r ddau wedi bod yn sglefrio cymaint o weithiau, maen nhw'n ddigon da i fynd ar Dancing on Ice erbyn hyn!

Mae'r ddau bob amser yn glên ac yn hwyliog ac rydw i a fy ffrindiau yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am drefnu'r holl bethau diddorol ar ein cyfer ac am roi gymaint o amser i blant Llan."

Dywedodd Ifan Alun Puw fod derbyn y Tlws yn anrhydedd o'r mwyaf.

'Llu o garedigion

"Mae hi wedi bod yn fraint cael bod â rhan yn arwain yr Adran Bentref yn Llanuwchllyn hefo Ann. Ond fyddai arwain ddim wedi bod yn bosib heb gymorth llu o garedigion a chefnogwyr ac yn sicr fyddai hi ddim wedi bod yn bosib heb aelodau ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Felly mae'r tlws hefyd yn cydnabod yr holl aelodau hynny ar draws y blynyddoedd," meddai.

Ac meddai Ann Jones: "Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi cael y cyfle i arwain plant Llanuwchllyn mewn amrywiol weithgareddau yn enw'r Urdd. Mae cynnig gweithgareddau hamdden o bob math drwy raglen yr Adran wedi bod yn hobi pleserus iawn ers dros ddeng mlynedd ar hugain!

"Rwyf wedi cael andros o lot o hwyl efo'r aelodau oherwydd iddynt fod yn ffyddlon a gwerthfawrogol bob amser. Diolch yn fawr iawn am yr anrhydedd."


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.