Βι¶ΉΤΌΕΔ

Aled Haydn Jones

Llywydd dydd Gwener - Aled Haydn Jones

Llywydd dydd Gwener ydi Aled Haydn Jones.

Yr oedd cyrraedd yr Eisteddfod heddiw yn atgiffa Aled Haydn Jones o'r adeg yr oedd e'n cystadl;u yn yr Urdd pan yn ifanc.

"yr oedd cerdded yma heddi a chlywed plant yn canu, roeddwn i'n teimlo'r nerfs unwaith eto," meddai.

Daeth atgofion hefyd amdano'i hun yn gwneud dawns ddisgo ar adeg pan nad oedd hynny mor dderbyniol ag yw heddiw.

"Rpeddwn i'n teimlo fel rhyw Michael Jackson Cymreig ac roeddwn i'n ceisio perswadio pobl ei bod hi yn weddol cΕµl i fechgyn wneud dawnsio disgo," meddai gan ychwanegu i'r Eisteddfod ei helpu ef gyda'i yrfa yn ddiweddarach.

"I mi mae hwnna lawr i'r Eisteddfod. Ac yr ydych chi heddiw yn gweld rhaglenni fel Britain's Got Talent y mae cymaint o bobl yn ei gwylio a meddwl ei fod yn rhywbeth newydd iawn ac rydych chi'n syklweddoli ein bod ni wedi bod yn gwneud peth felna ers blynyddoedd ac mae'n syndod bod gwlad fel Cymru yn gallu cael Eisteddfod bob blwyddyn," meddai.

Wedi'i eni a'i fagu yn Aberystwyth, mae Aled bellach yn byw yn Llundain lle'n mae'n aelod o dΓ®m cynhyrchu The Chris Moyles Show ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio 1.

Ef hefyd yw cyflwynydd newydd The Surgery on Radio 1 bob nos Sul.

Yn un o feirniaid CΓΆn i Gymru 2009 mae hefyd wedi cyflwyno sioe wleidyddol i bobl ifanc Tell It Like It Is fydd i'w gweld ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru fisoedd yr haf.

Daeth yn ail ar raglen realaidd Βι¶ΉΤΌΕΔ3, Celebrity Scissorhands ar gyfer Comic Relief ac roedd i'w glywed yn gyson yn sΓ΄n am raglen Big Brother a Fame Academy fel rhan o'i waith ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio 1.


Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.