Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Codi pontydd Nicaragua - cynhaeaf y corwyntoedd
Cyfraniad cyntaf Dafydd Tudur yn dilyn ei ymweliad â Nicaragua

Nicaragua fydd un o'r gwledydd dan sylw yng ngweithgareddau wythnos Cymorth Cristnogol, 14-20 Mai 2006.
Ym Mawrth 2006, bûm yno am wythnos er mwyn cyfarfod tri o bartneriaid Cymorth Cristnogol a gweld rhai o'r prosiectau sydd ar droed yno.

Lleolir Nicaragua yn rhan ddeuehol y gangen sy'n uno Gogledd a De America. O ran arwynebedd, mae'r wlad tua'r un maint â Chymru a Lloegr, ac y mae ganddi boblogaeth o tua phum miliwn.

Tlodi cyffredinol
Daeth dau beth yn amlwg i mi yn fuan wedi glanio ym Managua, prifddinas Nicaragua. Y cyntaf oedd y tlodi cyffredinol gydag oddeutu 70 y cant o'r bobl yn byw mewn tlodi, a bron i hanner o'r rheini mewn tlodi enbyd.

Nicaragua yw un o wledydd tlotaf Hemisffêr y Gorllewin.

Yr eilbeth y sylwais arno oedd cynifer o blant a phobl ifanc sy'n byw yn Nicaragua.
Mae 72 y cant o'r boblogaeth o dan 30, a 40 y cant o dan 15.

Gwelir plant a phobl ifanc ymhob man, yn aml yn gwerthu nwyddau neu fyrbrydau ar y stryd er mwyn ychwanegu at incwm y cartref.

Corwyntoedd
Un o'r ffactorau sydd wedi cyfrannu at sefyllfa economaidd pobl Nicaragua yw trychinebau naturiol. Mae'r boblogaeth wedi dioddef droeon o dan effeithiau corwyntoedd, tirlithriadau a daeargrynfeydd.

Y drychineb fwyaf adnabyddus i daro'r wlad mewn blynyddoedd diweddar oedd Corwynt Mitch yn Hydref 1998.

Bob blwyddyn, ceir corwyntoedd garw yn ystod y tymor gwlyb - Ebrill i Hydref ac yn 2004-5, cafwyd 14 o gorwyntoedd a disgwylir yr un faint eto y flwyddyn hon.

Yn ôl pob tebyg, bydd nifer y corwyntoedd a geir bob blwyddyn yn cynyddu dros y degawd nesaf.

Pob math o beryglon
Yn ystod ein hymweliad, gwelsom ddau brosiect yn ymwneud â gwaith atal a lleihau effeithiau trychinebau naturiol, y naill ym mhentref El Molino Sur a'r llall ar gyrion tref San Dionisio.

Pan ddaw'r tymor gwlyb, gall lefel yr afon sy'n rhedeg trwy bentref diarffordd El Molino Sur godi tua tair metr. Arweiniai hynny at bob math o beryglon ac anghyfleusterau i'r gymuned.

Pont Grog El Molino Sur Gydag arian Cymorth Cristnogol a chyd-lyniant Movimiento Comunal Matagalpa (MCM), mae pobl y pentref wedi cynllunio ac adeiladu pont grog i groesi'r afon.

Dŵr glân
Clywsom hefyd am bwysigrwydd dŵr glân i gymunedau cefn gwlad.
Mae tua 50 y cant o boblogaeth y wlad yn gorfod cerdded ymhell er mwyn cael dŵr glân. Nid yw dŵr yr afonydd yn ddigon glân i'w yfed am ei fod wedi eu llygru gan blaladdwyr.

Yn ystod y tymor gwlyb, bydd y daith at y ffynnon agosaf yn arbennig o galed.



Ymgasglu wrth y ffynnon yn San Dionisio Ym mhentref San Dionisio, gwelsom ffynnon a adeiladwyd gyda nawdd Cymorth Cristnogol i ddarparu dŵr glân i bymtheg o deuluoedd a oedd cyn hynny wedi bod yn cerdded tua 8km at y ffynhonnell agosaf.

Paratoi
Er na ellir gostegu'r corwyntoedd sy'n taro Nicaragua bob blwyddyn, gwelais fod gwaith a wneir o dan nawdd Cymorth Cristnogol yn caniatáu i gymunedau fel El Molino Sur a San Dionisio i baratoi am y tywydd garw, a thrwy hynny leihau ei ddylanwad ar eu bywydau.

  • Cliciwch i ddarllen erthyglau eraill gan Dafydd Tudur.





  • cysylltiadau


    de america

    Nicaragua
    Nicaragua - wedi'r corwynt

    Plant y stryd

    Nicaragua - brwydr economaidd

    Nicaragua - cynhaeaf y corwyntoedd




    About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy