Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


TG4 Gaeleg ar y teli

Dydd Sadwrn, Medi 5, 2000

Yr wythnos diwethaf gwelwyd sefydlu sianel deledu ddiweddaraf y gwledydd Celtaidd - yn Llydaw. Bu un yn Iwerddon er 1996. Diarmuid Johnson sy'n son am y derbyniad cymysg yno.

Ffermwyr cefn gwlad, ysgolheigion, athrawon a gweision sifil oedd swmp y siaradwyr Gwyddeleg ers oes.

Wedyn, wrth gwrs, pobl y pethe.

Fel ag y mae cerdd dant, bara brith a'r Ysgol Sul yn rhan o'r pethe Cymreig mae'r un parchusrwydd yn perthyn i'r pethe Gwyddelig.

Rhyw pendramwnwgl ac arno flas Piwritanaidd te parti Victorianaidd, angerdd geidwadol yr Eglwys Gatholig, iaith a bro a Brits Out fu rhai o'r pethe Gwyddelig hyd yn gymharol ddiweddar.

Chwa cyntaf o awyr iach

TG4 yw'r sefydliad cyntaf i ddod â chwa o awyr iach, o gyffro ac o ieuenctid i'r iaith Wyddeleg.

Cyntaf neu beidio, TG4, ers ei sefydlu yn 1996, sydd wedi llwyddo i roi gwisg newydd - siaced ledr neu grys-t - ar ysgwyddau'r iaith.

There was literally, if not idiomatically, a baptism of fire for Teilifs na Gaeilge last night. Telling the tale of her engagement with the Irish language, to children seated a round a blazing fire, President Robinson, as is her wont, lit a candle,' meddai'r Irish Times.

Ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu TG4 y mae cynulleidfa'r sianel wedi cyfarwyddo a phêl-droed Sbaen, dilyn hynt a helynt cyfreithwyr Amsterdam, a chael blas ar haute cuisine y gwledydd pell.

Bu defnydd brodorol a lleol hefyd: C.U. Burn, cyfres am ddau frawd yn rhedeg amlosgfa. Dywedodd un colofnydd teledu mai'r corff oedd yr actor gorau yn un o'r penodau.

Gwrthwynebiad a beirniadaeth

Y
n Iwerddon, fe fu gwrthwynebiad, beirniadaeth, a gwatwar y sianel newydd-anedig. Pam?

Yn gyntaf, oherwydd fod yr Wyddeleg wedi gorfodi i'r cyfryngau dderbyn datganoli. Er yn sianel genedlaethol nid yn y brifddinas ymhlith y crach - a'r tinlyfwyr - ond ym mhen draw'r byd yng Ngonnemara mae'r pencadlys.

Yn union fel pe byddai S4C yn Nhregaron.

Daeth dan feirniadaeth hefyd oherwydd "gwastraff arian" gyda chyfaill o'r enw Kevin Myers, colofnydd gyda'r Irish Times, y beirniad halltaf a mwyaf huawdl.

"Dydym ni ddim yn byw mewn bythynnod to gwellt yn byseddu ein gramadegau Gwyddeleg. Yr ydym yn byw mewn byngalos mawr, hyll, gyda llestri lloeren sy'n gallu casglu cant o sianelau ac nid yw'r awydd yn bodoli i wylio rhaglenni Gwyddeleg ar TnG yn y babel sianelog hon.

"Faint o arian sydd wedi ei afradu ar TnG? £20 miliwn? £30 miliwn? £40 miliwn? Yn ôl £2,000 ceidwadol y pen mae hynny yn waeth na gwaradwyddus gyda wardiau ysbytai yn parhau ynghau oherwydd prinder arian er gwaethaf y miloedd o gleifion sy'n disgwyl oddi allan. Y mae hynny'n sgandal gwirioneddol," meddai.

A oes ateb? Anodd ymatal. Ond gwyr y Cymry fod y gelyn yn fyddar yn y glust agosaf ato.




ewrop

Iwerddon
Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Diffodd fflamau'r Sipsiwn

Blagur gwyrddion ar y lleiniau newydd

Gêm y Gwyddyl

Harddwch a hanes yn cael ei guddio gan dristwch

Adlais o'r hen drefn Saesnig yn Iwerddon

Gaeleg ar y teli

Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy