Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd - Creu Cenedl

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Twf Democratiaeth
David Lloyd George
David Lloyd George

Rhagor o ddiwygiadau
Yn 1867 mae’r Ceidwadwyr o dan Disraeli yn sicrhau ail fesur diwygio sy’n rhoi’r bleidlais i bob gwryw sy’n talu trethi yn y bwrdeistrefi. Yn 1871, yn rhannol am fod y Rhyddfrydwyr Cymreig yn cael eu herlid gan y tirfeddianwyr Ceidwadol, sefydlwyd trefn y bleidlais gudd. Yn 1884 mae’r Rhyddfrydwr yn sicrhau mesur arall sy’n rhoi’r un hawliau pleidleisio i’r siroedd ag sydd gan y bwrdeistrefi. Yn y flwyddyn ganlynol o dan y Ddeddf Ailddosbarthiad mae ardaloedd trefol a diwydiannol Cymru’n cael rhagor o seddau yn y Senedd ar draul y siroedd gwledig a’r trefi marchnad bychain. O ganlyniad mae gan Gymru 34 o aelodau seneddol, 12 yn y gogledd, 14 ym Morgannwg a Sir Fynwy ac 8 yng ngweddill de Cymru.

Yn 1918 rhoddir yr hawl i bleidleisio i bob dyn dros un ar hugain oed, ag eithrio gwrthwynebwyr cydwybodol. Y mae gwragedd dros ddeg ar hugain oed yn cael yr un hawl. Yn 1928 mae pob menyw yn cael yr un hawliau pleidleisio a’r dynion. Yn 1948 mae’r hawl i fwy nag un bleidlais - drwy fod yn berchen ar fusnes neu fod â gradd prifysgol - yn cael ei ddiddymu. Etholiad Cyffredinol 1950 felly yw etholiad gwir democrataidd cyntaf Prydain. Mae llywodraeth leol hefyd yn cael ei democrateiddio, yn bennaf o ganlyniad i Ddeddf Cynghorau Sir 1888 a ffurfio cynghorau dosbarth a phlwyf etholedig yn 1894.

Y newid yn natur cynrychiolaeth seneddol
Yn y 1850au yr oedd pob aelod seneddol yng Nghymru fwy neu lai yn perthyn i’r dosbarth tiriog; erbyn 1906 mae’r landlordiaid bron wedi diflannu o Dy’r Cyffredin. Digwyddodd y newid yma yn bennaf yn etholiadau 1868 ac 1885. Yn y naill sicrhaodd Henry Richard fuddugoliaeth ddramatig ym Merthyr Tudful, ac fe gollodd nifer o landlordiaid eu seddau, teuluoedd megis Douglas-Pennant o Gastell Penrhyn. Yn y llall trechwyd perchennog Wynnstay ac etifedd Gelli Aur, y mwyaf a’r ail fwyaf o’r stadau Cymreig. Er bod rhai o’r teuluoedd sy’n berchen tir yn cefnogi plaid y Chwigiaid, Torïaid yw’r mwyafrif. O ganlyniad i hynny, mae Cymru’n cael ei chynrychioli yn y senedd gan aelodau adain dde yn bennaf. Ond yn 1880, dim ond pedwar Ceidwadwr sy’n cael eu hethol, a dim un yn 1906.

Goruchafiaeth y Rhyddfrydwyr
David Lloyd George a Winston ChurchillY Blaid Ryddfrydol sy’n elwa fwyaf o’r diwygiadau - y brif blaid wleidyddol yng Nghymru rhwng y 1860au a 1922. Mae’r blaid yn llwyddo i ddenu cefnogaeth o bob dosbarth a haen o gymdeithas. Mae diwydianwyr yn hoffi polisi marchnad rydd y blaid, mae’r dosbarth proffesiynol yn hoffi’r pwyslais ar hunangymorth, fel mae’r dosbarth gweithiol ar y dechrau; mae tenantiaid ffermydd yn cefnogi mesurau diwygio’r tir, ac mae’r Anghydffurfwyr yn gweld mai dyma’r gobaith gorau i ddatgysylltu’r Eglwys. I ganol llwyfan Rhyddfrydol diwedd y 19eg ganrif y daw David Lloyd George. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol ryfeddol pan gafodd ei ethol yn aelod seneddol Caernarfon yn 1890. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif mae’n ymddangos bod yna wrthdaro rhwng yr hen ddaliadau Rhyddfrydol a’r galw am ddiwygiadau cymdeithasol. Ond mae Lloyd George, a’i gynlluniau pensiwn i’r henoed ac yswiriant cenedlaethol, yn llwyddo i roi i’r blaid ddelfrydau radicalaidd newydd. Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ergyd farwol i ragolygon Rhyddfrydiaeth.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys

  15. Twf Democratiaeth
    Tud 1, Tud 2,

  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
Â鶹ԼÅÄ
© MM
Ìý Ìý


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy