Â鶹ԼÅÄ

Cymru a'r Rhufeiniaid

Ail-gread o'r hen Rufain

gan Catrin Stevens

Er i Iŵl Cesar ymosod ar Brydain ddwywaith, yn 55 a 54CC, yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Claudius yn OC43, dan arweiniad Aulus Plautius a'i fyddin o 40,000 o filwyr, y dechreuodd y goresgyniad Rhufeinig go iawn. Gwrthryfelodd y brodorion nifer o weithiau, fel y mae hanesion yn eu dangos.

Erbyn OC49 roedd y fyddin Rufeinig wedi cyrraedd tir Cymru heddiw. Yno, roedd pedwar prif lwyth Celtaidd: y Silwriaid, y Demetae, y Deceangli a'r Ordofigiaid, yn byw.

Sut ydyn ni'n gwybod?

Ail-gread o gaer Rufeinig Segontium ger Caernarfon © Cadw. Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron).
Caer Segontium ger Caernarfon © Cadw

Yn anffodus, gan nad oedd y Celtiaid yn cofnodi'u profiadau ar bapur, rydym yn ddibynnol ar weithiau unochrog awduron Rhufeinig, fel yr awdur Lladin, Tacitus, a'r Groegwr, Dio Cassius, am hanes blynyddoedd cynnar goresgyniad y Rhufeiniaid. At hyn, mae archaeolegwyr wedi dehongli hanes caerau fel Caerllion ac wedi darganfod olion a gwrthrychau diddorol. Bellach defnyddir lluniau o'r awyr a geoffiseg i adnabod safleoedd i'w harchwilio, fel ym Mharc Dinefwr, Llandeilo, lle cafodd dwy gaer Rufeinig eu darganfod mor ddiweddar â 1979 -2003.

Natur y goresgyniad:

Y drefn filwrol

O fewn ychydig flynyddoedd, roedd y Rhufeiniaid wedi sicrhau presenoldeb milwrol, trwy godi lleng-gaerau yn Isca (Caerllion) a Deva (Caer); ac is-gaerau ar draws Cymru, yn eu plith Moridunum (Caerfyrddin); Segontium (Caernarfon); Gobannium (Y Fenni); Llanio (Ceredigion); Pennal (Meirionnydd) a Thomen-y-Mur (Meirionnydd).

Amffitheatr Rhufeinig
Amffitheatr Rhufeinig Caerllion (Llun: Nick Morgan)

Nid barics milwrol yn unig oedd prif gaerau'r Rhufeiniaid. Roedd gan Gaerllion, er enghraifft, faddonau moethus ac amffitheatr drawiadol ar gyfer 5,000 o filwyr yr Ail Leng, yn ogystal â'r adeiladau milwrol arferol - pencadlys (principia), ysbyty, ysguboriau, meysydd ymarfer a vicus, sef tref i gartrefu'r rhai oedd yn darparu gwasanaethau i'r gaer.

Roedd rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig yn cysylltu'r caerau hyn. Un o'r enwocaf oedd Sarn Helen, yn rhedeg o Gaernarfon, tua'r de i Geredigion, ac yna i'r dwyrain i Aberhonddu. Roedd ffyrdd gwych o'r fath ymhlith gwaddol pwysicaf y Rhufeiniaid.

Cyswllt â'r brodorion

Wedi cyfnod o frwydro, mae'n bosibl nad oedd y brodorion yn byw yn y gorllewin yn cael cymaint â hynny o gyfathrach â'r Rhufeiniaid.

Ond mewn ambell ardal, daeth y brodorion o dan ddylanwad romanitas, a datblygodd diwylliant Brythonig-Rufeinig, yn enwedig yn y civitas, neu'r canolfannau gweinyddol a gafodd eu creu ar sail y llwythau Celtaidd. Cafodd dwy eu sefydlu yng Nghymru - Venta Silurum (Caer-went), sef canolfan llwyth y Silwriaid, a Moridunum (Caerfyrddin), canolfan y Demetae.

Brithwaith
Brithwaith o fila Rhufeinig

Mae'n rhaid bod Bro Morgannwg yn bur sefydlog, oherwydd cafodd nifer o filâu, neu ffermydd sylweddol, eu codi gan ffermwyr cyfoethog yno, e.e. yn Nhrelái, Llandochau a Llanilltud Fawr. Yno, cafodd cnydau newydd fel afalau, ceirch, moron a chennin eu cyflwyno i Gymru. Yn y filâu hyn roedd baddonau, gwres canolog a brithweithiau Rhufeinig nodweddiadol.

Diwydiant

Bu'r Rhufeiniaid yn datblygu adnoddau mwyngloddio Cymru hefyd: copr ym Mynydd Parys a Phen-y-gogarth; plwm, sinc, glo ac arian; ac aur yn Nolau Cothi, lle cafodd dulliau hydrolig hynod soffistigedig, yn seiliedig ar gario dŵr dros 7 milltir o'r afon gyfagos, eu sefydlu.

Y Rhufeiniaid yn gadael

Ail gread o fyddin Rufeinig
Milwyr Rhufeinig

Yn raddol yr ymadawodd y Rhufeiniaid â Chymru a Phrydain. Yn ystod y bedwaredd ganrif câi'r ymerodraeth ei bygwth o bob cyfeiriad gan ymosodiadau gelynion o'r tu allan. Câi milwyr eu symud o Gymru i ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr yn Ewrop. Un o'r rhain oedd gwrthryfel Magnus Maximus (Macsen Wledig), yn erbyn yr Ymerawdwr Gratian yn OC383. Yn ôl traddodiad, syrthiodd Magnus mewn cariad ag Elen o Wynedd a dyma thema'r chwedl 'Breuddwyd Macsen Wledig' yn y Mabinogi.

Mae'n debyg fod y Rhufeiniaid wedi ymadael â Phrydain erbyn OC410.

Gwaddol y Rhufeiniaid

  • Mae nifer o eiriau Lladin wedi dod i'r iaith Gymraeg, e.e. fossa (ffos), candela (cannwyll), liber (llyfr), ecclesia (eglwys) a stabellum (ystafell).
  • Mae'n debyg mai'r Rhufeiniaid gyflwynodd Gristnogaeth i'r wlad. Cafwyd hyd i blât piwter ag arno'r symbol Cristnogol chi-rho yng Nghaer-went.
  • Cafwyd hyd i lawer o drysorau Rhufeinig, fel yr addurn aur a fu unwaith yn arwydd milwrol - signum, yng Nghaerllion, yn 1928.
  • Rhwydwaith o ffyrdd syth, gwych.

Heddiw, mae llawer o'r safleoedd Rhufeinig ar agor i'r cyhoedd ac mae cymdeithas yr Ermine Street Guard yn creu arddangosfeydd hanes byw o fywyd yn y cyfnod hwn.


About this page

This is a history page for schools about the arrival of the Romans in Britain in AD43 and their legacy in Wales. The Romans built forts and roads throughout Wales and left behind elements of their culture, religion and language. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y Â鶹ԼÅÄ am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.