Â鶹ԼÅÄ

Cofio Trychineb Senghenydd 1913

top

Yng nglofa'r Universal ym mhentref Senghenydd yn 1913 y digwyddodd y drychineb fwyaf yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru.

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Ar fore Mawrth, Hydref 14 y flwyddyn honno cafwyd ffrwydriad difrifol yn y pwll glo a lladdwyd 439 o weithwyr, yn ddynion a bechgyn.

Roedd tanchwa arall eisoes wedi lladd 83 o lowyr yno yn 1901 ond er bod y peryglon ym mhwll yr Universal yn hysbys ers hynny, ni chafodd dim ei wneud i wella'r amodau gweithio.

Roedd y pentref yng Nghaerffili wedi tyfu o gwmpas y pwll a gadawodd y danchwa graith enfawr ar y gymuned: gadawyd 205 o wragedd heb wÅ·r, 62 o rieni heb feibion a thros 500 o blant heb dad.

Cafodd rheolwr y pwll eu gorchmyn i dalu dirwy o £24 a chafodd y perchenog, ar ôl apêl, ddirwy o £10 a chostau o £5 5s.

Un o'r rhai a gollodd berthynas yn y danchwa oedd Dafydd Parry sydd yn y clip uchod - bu'n dweud yr hanes wrth Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru adeg nodi 90 mlwyddiant y drychineb.

Parhawyd i weithio'r pwll tan 1928. Codwyd cofeb i'r rhai a gollwyd tan 1981.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.