Â鶹ԼÅÄ

Cartrefi'r Celtiaid

top
/cymru/hanes/safle/themau/celtiaid/Pen%20y%20Gaer

Ewch yn ôl mewn amser i Oes yr Haearn pan oedd Celtiaid Cymru yn byw mewn bryngaearau a thai crwn. Yma cewch hanes olion Celtaidd Pen%20y%20Gaer, Garn Boduan a Thŷ Mawr, Caergybi.

Pen%20y%20Gaer, Llanbedr y Cennin

/cymru/hanes/safle/themau/celtiaid/Pen%20y%20Gaer
Pen%20y%20Gaer

Mae'n werth ymweld â'r gaer hon o waliau carreg sy'n manteisio ar ei lleoliad ar fryn amddiffynnol naturiol yn Llanbedr y Cennin i'r de o Gonwy. Mae'n safle arbennig o ddiddorol sy'n cynnwys adfeilion dau ragfur carreg. Yn ogystal â'r rhagfuriau, mae cyfres o gerrig byr chevaux de frise yn sefyll - sy'n cyfateb i'r 'dannedd draig' a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i atal tanciau ayb. Tybir eu bod yn amddiffynfa ychwanegol yn erbyn ymosodiad gan filwyr troed a milwyr ar geffyl ac maent yn werth eu gweld am eu bod yn brin iawn ym Mhrydain.

Hefyd, mae'n werth mynd i weld olion y tai y tu mewn i'r gaer; mae modd gweld sylfeini 12 o gytiau ac ar yr ochr ddeheuol, mae llwyfannau cylchog wedi'u lefelu lle roedd tai pren yn arfer sefyll.

Mae ochrau gorllewinol a deheuol y bryn wedi'u hamgylchynu gan hyd at dri rhagfur. Mae'r rhagfur mewnol wedi'i wneud o garreg tra bod yr un canol wedi'i wneud yn rhannol o garreg ond yn troi'n glawdd o bridd ar yr ochr ddeheuol. Hefyd mae clawdd a ffos allanol ar yr ochr ddeheuol. Mae haneswyr yn awgrymu fod cymhlethdod yr amddiffynfeydd yn dangos bod gan y gaer hanes hir o gael ei defnyddio a'i bod wedi ei thrawsnewid fwy nag unwaith yn ystod y cyfnod yma.

Mae'n safle amddiffynnol naturiol gyda golygfeydd anhygoel ac mae'n dal i fod yn weddol rhwydd mynd yno gan nad yw'n rhy serth i'w ddringo.

Garn Boduan

Garn Boduan
Garn Boduan

Mae Garn Boduan yn un o gyfres o fryniau folcanig sy'n ffurfio asgwrn cefn Pen LlÅ·n. Mae caer bentir 10ha ar y mynydd lle gellir gweld lle roedd llinellau tair wal amddiffynnol.

Mae'n werth mynd yno ar ymweliad gan fod dros 100 o strwythurau wal garreg, tai crwn ac adeiladau crwn a phetryal yn dal i'w gweld hyd heddiw. Mae olion 170 o gytiau crwn i'w gweld yno fel cylchoedd carreg sydd wedi dymchwel.

Nid oedd angen amddiffynfeydd mawreddog yma - roedd lleoliad naturiol Garn Boduan ar fryn serth anghysbell yn ei wneud yn safle amddiffynnol da. Mae peth tystiolaeth o ddyblygu amddiffynfeydd i'w gweld i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Y rhagfur garreg isaf yw'r amddiffynfa wreiddiol, tra bod y rhagfur uchaf wedi'i hadeiladu'n well ac yn fwy. Gall fod y waliau amddiffynnol mewnol wedi'u hadeiladu yn y canrifoedd yn syth ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Ai hwn oedd 'castell' Buan, sy'n cael ei ystyried yn ffigwr pwysig yn 600OC?

Mae'r brif fynedfa yn y gornel ogledd-ddwyreiniol. Gallai'r gaer fechan, neu gaer ddinesig, yn un pen y safle, fod yn hŷn. Yn ogystal, mae dwy ffynnon dŵr croyw ar y safle, oedd yn rhoi dŵr i drigolion y gaer drwy'r flwyddyn.

TÅ· Mawr, Caergybi

TÅ· Mawr, Caergybi
TÅ· Mawr, Caergybi

Anheddiad o Oes yr Haearn wrth droed Mynydd Caergybi ger Ynys Lawd. Mae'n werth ei weld gan fod olion 20 o'r 50 cwt crwn gwreiddiol wedi goroesi. Maent yn cynnwys olion 10 cwt crwn mawr o garreg sydd wedi eu gwasgaru ar hyd ochr y mynydd, yn ogystal â nifer o adeiladau llai, petryal, a oedd, o bosib, yn cael eu defnyddio fel gweithdai. Mae tystiolaeth o weithio metel wedi ei darganfod yn yr adeiladau yma.

Yn rhan ddwyreiniol y safle mae grŵp arall o gytiau. Mae'r cytiau crwn tua 7m mewn diamedr gyda waliau trwchus, isel. Fe fyddai to uchel, conigol, wedi ei ddal gan gylch o bolion, wedi bod arnyn nhw ac fe fydden nhw wedi cael eu toi gan wellt neu frwyn. Mae tystiolaeth fod pobl wedi byw yma dros gyfnod hir o ganol Oes y Cerrig i'r Oes Neolithig, yr Oes Efydd ac i mewn i Oes yr Haearn. Mae'n cael ei gynnal gan Cadw.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.