Â鶹ԼÅÄ

Bro Ogwr

top
Castell Newydd, Pen-y-Bont ar Ogwr

Ardal sy'n llawn o hanes a straeon diddorol yw Bro Ogwr. Dyma gyfle i ddod i adnabod rhai o'r pethau hynod am y fro hanesyddol hon.

Mae Bro Ogwr yn gorwedd rhwng dwy ddinas sef Abertawe a Chaerdydd. Mae'r fro yn rhan o'r hen Sir Forgannwg.

Yn ystod y canrifoedd diwethaf mae'r gymdeithas wedi newid yn llwyr. Erbyn heddiw mae'r cymoedd glofaol wedi hen ddiflannu a nifer o'r capeli Cymraeg wedi cau. Yn eu lle mae'r cwmnïau rhyngwladol mawrion a'r stadau diwydiant ysgafn, a thraffordd yr M4, nid y pyllau glo, sy'n ganolbwynt i fywyd yr ardal erbyn hyn.

Hanes y fro


Mae i fro Ogwr dipyn o hanes. Ganrifoedd yn ôl roedd y rhan hon o Forgannwg yn bwysig yn hanes Cristnogaeth ym Mhrydain.

Eglwys Sant IlltydYn Llanilltud Fawr yr oedd un o'r mynachlogydd cynharaf ym Morgannwg. Yno tua'r flwyddyn 500 trodd Illtud y pentref yn ganolfan dysg. Yn ôl yr hanes, bu Gildas a Dewi Sant yn ddisgyblion iddo. Yn eglwys Llanilltud Fawr heddiw mae casgliad o hen feini.

Mae hen feini a chroesau i'w gweld ym mynwentydd amryw o eglwysi eraill yr ardal hefyd. Ymysg y rhain mae Sain Dunwyd, Llangan ac Eglwys Fair y Mynydd. Dywedir fod Llangan wedi bod yn gyrchfan i bererinion ar hyd y canrifoedd wrth iddyn nhw deithio i Dyddewi.

Cestyll


Mewn cyfnod diweddarach, cyfnod y Normaniaid, adeiladwyd amryw o gestyll yn yr ardal er mwyn gwarchod y tir rhag ymosodiadau'r Cymry. Tua'r flwyddyn 1093 gorchfygwyd Morgannwg gan Robert Fizhamon ac adeiladwyd tri chastell i warchod y mannau hynny lle'r oedd modd croesi'r afonydd.

Adeiladwyd Castell Ogwr i ddiogelu afonydd Ewenni ac Ogwr. Mae'r adfeilion yn dal i'w gweld ar y safle heddiw ac mae modd croesi'r afon at y castell drwy gamu ar gerrig sy'n codi uwch llif yr afon.

Adeiladwyd y Castell Newydd wedyn i ddiogelu Pen-y-bont. Adeiladwyd y castell ar fryn lle gellid gwylio'r afon a'r dref. Mae adfeilion y castell i'w gweld yma heddiw yn ogystal â'r addurn sydd wedi ei gerfio ar y Porth Deheuol.

Castell CoetyCafodd Castell Coety wedyn ei godi er mwyn gwarchod yr ardal rhag ymosodiadau o'r gogledd. Dyma gastell Normanaidd a gafodd ei ail-adeiladu yn y 14eg ganrif. Mae olion y castell i'w gweld o hyd gan gynnwys y ty porth, y waliau a rhai o'r muriau.

Castell arall yn yr ardal yw Castell Cynffig, castell Normanaidd a sefydlwyd gan Robert Iarll Caerloyw yn ystod hanner cyntaf y 12fed ganrif. Ond o'r 13eg ganrif ymlaen llyncwyd y castell yn raddol gan y tywod.

Mae'n bosib ymweld ag adfeilion Castell Tregawnlo hefyd. Mae'r castell hwn wedi ei amgylchynu gan dwyni tywod Merthyr Mawr. Nid castell ydyw mewn gwirionedd ond plasty caerog. Cafodd ei adeiladu yn y 15fed ganrif a hyd y 19eg ganrif bu'n gartref i deulu pwerus de Cantelupe.

Saif y castell ger pentref Merthyr Mawr, un o bentrefi prydferthaf ardal Ogwr. Mae'r tai to gwellt i'w gweld yma o hyd ac yn amgylchynu eglwys y pentref.

Pentref diddorol arall yn y fro yw Ewenni. Adeiladwyd priordy Ewenni ym 1141 a bu hwn yn gymorth hefyd i warchod yr ardal rhag ymosodiadau.

Dyma safle grefyddol gydag amddiffynfeydd cadarn. Mae'r priordy yn enghraifft wych o fynachlog gaerog fel oedd i'w gweld ym Mhrydain yn y cyfnod. Mae'r priordy yn cael ei ystyried yn un o'r adeiladau caerog gorau a cheinaf ym Mhrydain. Yn ystod cyfnod y Normaniaid anfonwyd nifer o filwyr oddi yma i'r cestyll eraill er mwyn eu gwarchod.

Crochendai


Mae Ewenni hefyd yn enwog am ei grochendai. Mae Crochendy Ewenni wedi ei leoli ar gyrion y pentref. Dyma grochendy bach sy'n dal i weithio heddiw. Y teulu Jenkins sy'n ei redeg ac mae'r teulu wedi bod yma ers saith cenhedlaeth.

Mae'r diwydiant wedi bodoli yn yr ardal ers y Canol Oesoedd. Ar adegau gwahanol yn ystod y 18fed ganrif bu pymtheg crochendy yma.

Nid oedd y rhain yn ddiwydiannau mawr fel crochendai swydd Stafford yn Lloegr gan nad oedd ganddyn nhw resi anferth o odynau potel fel oedd i'w gweld yn y crochendai hynny. Busnesau bach teuluol oedd ym mro Ogwr gydag ond un neu ddau yn gweithio ymhob un.

Roedd y gweithwyr yn cloddio'r clai yn lleol ac yn ei ddefnyddio i greu priddwaith gwydrog ar gyfer defnydd pob dydd. Roedd yr holl ddeunyddiau crai ar gael yn lleol a defnyddiwyd gwyr lleol i adeiladau'r crochendai. Seiri maen lleol oedd yn adeiladu'r odynau, â'r gofaint wedyn yn gwneud troellau'r crochenwyr.

Roedd y gweithwyr yn defnyddio ceffylau i ddarparu ynni i falu'r clai ac i dynnu'r wagen fyddai'n cludo'r cynnyrch gorffenedig. Yng nghrochendy Ewenni heddiw trydan sy'n cael ei ddefnyddio i roi pŵer i'r odyn ac mae'r defnyddiau yn cael eu mewnforio o bob cwr o'r byd. Ond mae'r llestri yn dal i gael eu cynhyrchu yn y dull traddodiadol, drwy ddefnyddio'r droell. Yn Ewenni hefyd mae crochendy Claypits, sydd yn cynhyrchu crochenwaith caled.

Roedd crochendy ym Mhencoed hefyd ar ddiwedd y 18fed ganrif, ond daeth y cynhyrchu i ben yma ym 1841. Dim ond un darn o jwg sy'n adnabyddus fel darn o grochenwaith Pencoed, ac mae hwnnw, sef jwg arbennig, yn cael ei gadw yn yr Amgueddfa Brydeinig heddiw.

Pentref Llangynwyd


Pentref arall sy'n werth ei grybwyll yw Llangynwyd, pentre'r Fari Lwyd. Yn yr Hen DÅ· yn y pentref hwn y cynhaliwyd cyfarfodydd beirdd Tir Iarll ac yn nhafarn y Corner House y cynhaliwyd ysgolion Gruffudd Jones Llanddowror.

Ar y sgwâr saif cofeb i rai o bobol ddawnus y plwyf ac yno y claddwyd nifer helaeth o enwogion yr ardal gan gynnwys Ann Thomas, y ferch o Gefn Ydfa. Roedd teulu Ann am iddi briodi Anthony Maddocks, cyfreithiwr lleol. Ond roedd hithau mewn cariad â Wil Hopcyn, bardd lleol. Cafodd ei gwahardd gan ei rhieni rhag gweld Wil ac aeth ef i ffwrdd i Fryste, ond daeth yn ôl i'w gweld pan oedd ar ei gwely angau.

Yn ôl traddodiad, Wil Hopcyn a gyfansoddodd y gerdd Bugeilio'r Gwenith Gwyn er y bu llawer o ddadlau am hyn. Mae carreg goffa i Wil Hopcyn o dan y goeden ywen ym mynwent y pentref.

Dyna rai o bentrefi diddorol y fro felly ond mae yn y fro hefyd drefi sy'n wahanol iawn i'w gilydd yn nhermau hanes, diwydiant ac economi.

Dechreuwn gyda Maesteg, tref yng ngogledd yr ardal ac yng nghanol cwm Llynfi. Cwm glofaol oedd Cwm Llynfi ers talwm ond diwydiannau ysgafn ar raddfa fach sydd yma heddiw.

Datblygodd y diwydiant glo yng Nghwm Llynfi yn gynnar yn y 17eg ganrif, yn arbennig pan agorwyd tramffordd oedd yn cysylltu'r cwm â'r harbwr ym Mhorthcawl. Yn y 1820au agorwyd Gweithfeydd Haearn Maesteg a thyfodd poblogaeth yr ardal yn sylweddol wedi hynny.

Yna rhwng 1839 a 1885 agorodd Gweithfeydd Haearn Llynfi oedd yn ddiwydiant pwysicach na gweithfeydd Maesteg. Mae olion y gweithfeydd i'w gweld yn yr ardal heddiw.

Yn ystod yr 1980au adnewyddwyd yr adeilad lle'r oedd y peiriannau a chafodd ei ymgorffori yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg. Ond y dystiolaeth amlycaf o'r hen orffennol diwydiannol yw'r tai a adeiladwyd yn wreiddiol i'r gweithwyr yn y 1840au a sydd i'w gweld o hyd ym Maesteg.

Porthladd Porthcawl


Porthcawl © Bwrdd Croeso CymruRhan bwysig o orffennol diwydiannol yr ardal oedd porthladd Porthcawl. Datblygodd porthladd yma er mwyn allforio glo o'r cymoedd cyfagos.

Datblygodd y porthladd wedi adeiladu'r dramffordd o Gwm Llynfi i Borthcawl rhwng 1825 a 1860. Ym 1850 wedyn disodlwyd y dramffordd gan reilffordd Llynfi ac Ogwr. Ond er hyn ni fu porthladd Porthcawl erioed yn llwyddiant.

Mae'r dref glan môr wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus yn denu ymwelwyr.

Dyma lle y deuai glowyr y cymoedd a'u teuluoedd i dreulio eu gwyliau yn awyr y môr ymhell o lwch y pyllau glo. Roedden nhw yn aros mewn maes carafannau mawr ym Mae Trecco a dyma lle y cynhaliwyd Eisteddfod y Glowyr am flynyddoedd.

Un o brif nodweddion y dref yw'r promenâd lle y cerdda'r ymwelwyr gan edmygu'r olygfa braf dros y môr i gyfeiriad bae Abertawe neu i Wlad yr Haf.

Ym Mhorthcawl yr oedd cartref y diweddar barchedig W. Rhys Nicholas, un o emynwyr amlycaf Cymru yn ail hanner y ganrif ddiwethaf ac awdur yr emyn enwog 'Tydi a wnaeth y wyrth' a genir i'r dôn Pantyfedwen.

Pen-y-bont ar Ogwr


Stryd Pen-y-bont ar OgwrTua'r dwyrain wedyn mae prif ganolfan bro Ogwr sef Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r dref mewn man canolog hanner ffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd. Saif ar lan ogleddol afon Ogwr.

Mae'r dref wedi ei henwi ar ôl y bont sydd yng nghanol y dref ac mae tipyn o hanes i bontydd Pen-y-bont.

Hen bont Pen-y-bont ar OgwrAdeiladwyd y bont gyntaf ym 1425. Pont gerrig dros yr afon Ogwr oedd hon, y bont sylweddol gyntaf ym Mhen-y-bont. Ond cafodd rhan o'r bont ei dymchwel ym 1775 gan lifogydd a golchwyd dau fwa i ffwrdd gyda'r llif. Wedi hynny codwyd un bwa hir yn eu lle.

Ond roedd yr hen bont serth a chul yn annigonol wrth i'r dref dyfu ac felly ym 1821 adeiladwyd pont letach o dri bwa carreg ar y safle. Ond gydag amser daeth y bont newydd yn rhy fach i allu ymdopi â'r traffig cynyddol ac felly cafodd ei disodli gan bont goncrid un-bwa ym 1912.

Daeth oes y bont honno i ben wedyn ym 1997 pan godwyd Pont y Bragdy ymhellach i fyny'r afon fel rhan o'r ffordd gyswllt ar draws y cwm a disodlwyd hi flwyddyn yn ddiweddarach gan y bont droed bresennol.

Diwydiant


Yn nechrau'r 19eg ganrif datblygodd y diwydiannau glo a haearn yn yr ardal. Ond roedd Pen-y-bont yn gorwedd y tu hwnt i ffin ddeheuol y maes glo. O ganlyniad arhosodd y dref yn farchnad amaethyddol i'r ardal. Yn raddol datblygodd y dref yn ganolfan siopa a busnes i gymoedd glofaol y fro.

Yn ystod yr 20fed ganrif wedyn datblygodd Pen-y-bont yn gyflym fel tref farchnad a oedd yn dibynnu ar yr ardal amaethyddol o'i chwmpas a'r cymoedd glofaol i'r gogledd oedd yn dod â busnes i'r dref.

Ond yn ail hanner y ganrif newidiodd cymeriad Pen-y-bont. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd adeiladwyd ffatri arfau fawr ar gyrion y dref. Wedi'r rhyfel cafodd y ffatri ei throi yn stâd ddiwydiannol. Erbyn heddiw mae'r stâd yn cynnwys ffatrïoedd gan gwmnïau mawrion fel Sony.

Bu datblygiadau diwydiannol eraill yn yr ardal yn y cyfnod hwn hefyd fel sefydlu ffatri cwmni Ford a'r Parc Gwyddoniaeth lle mae nifer o gwmnïau rhyngwladol wedi sefydlu.

Y Bont-faen


Stryd Y BontfaenTref arall bwysig ond sy'n dipyn llai na Phen-y-bont ac wedi llwyddo i gadw'i chymeriad hanesyddol yw'r Bont-faen. Mae'r Bont-faen i'r dwyrain o Ben-y-bont yng nghanol Bro Morgannwg.

Mae'r Bont-faen yn dref ag iddi lawer o hanes. Cafodd ei sefydlu ym 1254 gan Arglwydd Morgannwg. Mae'r eglwys a waliau'r dref yn dyddio o'r cyfnod hwn. Dros y blynyddoedd datblygodd Y Bont-faen fel tref farchnad i Fro Morgannwg. Yn ogystal datblygodd yn ganolfan addysgol, gweinyddol a chymdeithasol i'r ardal.

Fel yr awgryma enwau rhai o'r strydoedd yn y dref, roedd yma unwaith bedwar porth oedd yn rhan o furiau'r dref. Prif bwrpas y pyrth oedd casglu tollau oddi wrth deithwyr a ddeuai yma i'r farchnad.

Dymchwelwyd rhai o'r pyrth hyn yn y 18fed ganrif gan eu bod yn rhwystr wrth i fwy o drafnidiaeth deithio ar y ffordd drwy'r dref. Ond mae'r porth deheuol i'w weld hyd heddiw ac mae mewn cyflwr rhyfeddol.

Gerllaw'r porth deheuol mae'r hen ysgol ramadeg a gafodd ei sefydlu ym 1608. Coleg yr Iesu, Rhydychen, oedd yn berchen ar yr ysgol o 1685 hyd 1918.

Eglwys y Bont-faenAdeilad pwysig arall wrth gwrs yw'r eglwys. Roedd eglwys y Bont-faen yn cael ei hadnabod fel 'Eglwys Gadeiriol Bro Morgannwg'. Rhoddwyd allor ddeheuol yr eglwys yn rhodd gan wraig Rhisiart III.

Ar y stryd fawr mae adeiladau hardd sy'n wych eu pensaernïaeth. Dyma'r tai a adeiladwyd gan deuluoedd cyfoethog Bro Morgannwg yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Heddiw mae'r Bont-faen yn dref fechan lewyrchus sydd yn enwog am ei dai bwyta da, siopau dillad drud, siopau hen bethau a'r adeiladau gwych o'r 18fed a'r 19fed ganrif.

Yno ar y stryd fawr yr arferai Iolo Morgannwg (Edward Williams) gadw siop lyfrau. Gosodwyd carreg ar wal y siop ym 1926 i gofio amdano.

Roedd Iolo Morgannwg yn fardd pwysig arall a sicrhaodd le pwysig i Forgannwg yn hanes llenyddiaeth a diwylliant Cymru (Edward Williams). Cyflawnodd y gamp anhygoel o droi Morgannwg o fod yn ardal ddibwys o ran llenyddiaeth a diwylliant i gael ei hystyried fel ardal bwysig yn y maes hwnnw.

Cafodd ei eni ym 1747 ac ymgartrefodd yn Nhrefflemin. Saer maen ydoedd wrth ei grefft ond daeth i gysylltiad â beirdd Blaenau Morgannwg yn gynnar yn ei fywyd. Yn ddiweddarach daeth i gysylltiad â Chymry llengar Llundain. Roedd Iolo Morgannwg yn ŵr amryddawn a chanddo ddiddordeb mewn amryw o feysydd.

Beirdd


Yn Y Bont-faen hefyd mae bedd Lewis Morgannwg, ffigwr pwysig arall yn y gyfundrefn farddol yng Nghymru.

Pencerdd yn y 16eg ganrif oedd Lewis Morgannwg ac ef oedd athro Gwilym Hiraethog. Ar un adeg roedd yn byw yn Llanilltud Fawr ond roedd yn ystyried ei hun yn un o feirdd Tir Iarll.

Mae beirdd Tir Iarll yn rhan bwysig o draddodiad llenyddol Morgannwg. Tir Iarll oedd y tiroedd hynny a ddaeth i feddiant Iarll Caerloyw ar ôl Goresgyniad y Normaniaid, ardal sy'n cynnwys plwyfi Llangynwyd, Betws, Cynffig a Margam. Disgynyddion Rhys Fychan o Dir Iarll oedd y teulu enwocaf o benceirddiaid a fu ym Morgannwg erioed.


Cerdded

Canolfan y Mileniwm

Bae Caerdydd

Lleoliadau Doctor Who a Torchwood, adeiladau'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Diwydiant

Heddlu a streiciwr

Streic y Glowyr

Hanes y streic chwerw a rwygodd gymunedau glofaol Cymru am byth.

Arferion yr Wyl

Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd

Un o draddodiadau hynotaf yr hen Nadolig a'r Calan Cymreig ydy'r Fari Lwyd.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.