Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Robat Jones, Pryderi ap Rhisiart, Margaret Griffith a Wyn Williams yn astudio map o'r Lôn Goed gyda Tony Vowell Adfer y 'to plethedig'
Ionawr 2007
Os ydych chwi yn berchen tir y mae'r enwog Lôn Goed yn rhedeg trwyddo mae'n siŵr eich bod bellach wedi cyfarfod Robat Jones, Warden Cefn Gwlad yr ardal hon neu Wyn Williams yr Uwch Swyddog Gweithredu Gwledig.
Y maent hwy, ynghyd â Tony Vowell, Swyddog Coed ardal Dwyfor a Pryderi ap Rhisiart y Swyddog Adfywio Bro wedi bod wrthi'n ddiweddar yn ymdrechu i gael arian o wahanol gronfeydd er mwyn gallu sicrhau y bydd y Lôn Goed yma am flynyddoedd eto i ddod gobeithio.

O'r diwedd ymddengys bod eu gwaith yn dwyn ffrwyth gan i Gyngor Chwaraeon Cymru yn ddiweddar roi'r cymhorthdal llawn o £20,000 i gychwyn ar y gwaith.

Yn ôl y Cynghorydd Margaret Griffith yr oedd y Cyngor Chwaraeon yn sylweddoli gwerth y Lôn o ran y posibiliadau yr oedd yn eu cynnig ar gyfer hyrwyddo cymunedau iach.

Wrth gwrs, yn y dyddiau sydd ohoni fydd £20,000 ddim yn mynd yn eithriadol o bell ond gobeithir y bydd yn ddigon i ddechrau ar y gwaith o roi wyneb newydd ar ambell ran o'r Lôn, sicrhau y bydd gatiau yn agor yn rhwydd, gwella terfynau ac yn y blaen.

Y mae Pryderi hefyd wedi cyflwyno cais i'r Loteri Dreftadaeth gan obeithio cael mwy o gyfraniad at y gwaith.

Yn y cyfamser y mae trafodaethau yn cael eu cynnal gyda pherchnogion y tir oherwydd y mae'n bwysig cofio, er ein hod yn tueddu i feddwl am y Lôn Goed fel rhyw adnodd cenedlaethol, mewn gwirionedd ffordd ydyw sydd yn rhedeg trwy ganol tir preifat.

Yn ôl y swyddogion y mae pawb y buont mewn cysylltiad a hwy wedi dangos diddordeb mawr yn y cynlluniau; ambell un wedi awgrymu syniadau da iawn a phawb yn unfryd fod gwerth mawr mewn cadw'r Lôn ar gyfer yr oesoedd a ddel.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý