Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llythyrau'r Wladfa

Eluned Morgan Dyma lythyr gan Eluned Morgan, merch Plas Hedd, at beth rydym yn cymryd roedd ei chariad hi, John y Bedol. Ganed Eluned ar fwrdd llong y Myfanwy ar y ffordd i Batagonia. Roedd ei thad o Gaernarfon yn wreiddiol.

Roedd John ar fin mynd i Gymru am ei addysg ac roedd hi'n poeni beth fyse fo'n meddwl ohoni wrth ddod 'nôl. Ddaru hi sgwennu lot o lythyrau a'i rhoi i gyd mewn llyfryn bach fel bod ganddo rywbeth i atgoffa fo ohoni yng Nghymru.

Ynddo, mae hi'n dweud bod ganddi anrheg iddo- ysgrifbin - fel hint iddo sgwennu 'nol ati!

Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd rhyngddi hi a John, dim ond bod y ddau wedi aros yn ddi-briod.

Mae Eluned yn enwog am sgwennu llythyrau at ddynion. Ysgrifennodd am gyfnod maith at O M Edwards a William Lloyd George, brawd David. Roedd hi'n ddynes a phersonoliaeth gref a dwi'n meddwl ei bod hi wedi dychryn sawl dyn. Ond mae ei llythyrau hi'n fendigedig i'w ddarllen. Mae ei harddull mor hyfryd, mae'n bechod peidio â rhannu nhw efo pawb, er ei bod hi'n dweud mewn un lle ei bod hi'n poeni y gall llygad y byd eu gweld.

Fy hoff John,
Nos Wener
(...)Gyda'r llythyr hwn yr wyf yn rhoddi anrheg fechan i chwi, i gofio am danaf pan fydd perygl i chwi fy anghofio; a phob tro yr edrychwch arni bydd yn "hint" i chwi fod eisiau ysgrifennu at Eluned, ni fydd eisieu i chwi fynd ir drafferth i chwilio am inc, canys yn yr anrheg wele benholder ai lond o inc, ac ysgrifenna am fisoedd heb i chwi symud ei flaen mewn inc, yr wyf fi wrthi yn ysgrifennu ag ef yn awr...[darn ar goll].

Hoffwn yn fawr pe gallai fy narlun eich helpu a'ch cysuro, fel y gwnâi Eluned, pe yn eich cyrraedd, ond bydd yn goffadwriaeth i chwi sut wyneb fydd yn plygu uwch ben y llythyrau fydd yn llithro dros y Werydd; byddaf yn disgwyl eich darlun chwi yn mhen rhyw dri mis ar ôl i chwi lanio draw, cofiwch fynd at arlunydd da, mae'n rhatach yn y diwedd; a pheidiwch tynnu eich llun yn eich hyd, ond hyd yr ysgwyddau yn unig. Dyna fi wedi rhoddi cyfarwyddiadau ddigon buan onide? (...)

John anwyl, beth sydd i ddod o'r croud sydd yn brysur fynd yn Indiaid: nid ydym ni ond megis dyferyn yn y môr, ond na ddigalonnwn. Bu hen Gymru yn cysgu am ganrifoedd, ond mae'n deffro'n awr. Cael nap mae'r Wladfa, a rhaid i ninau fod yn gryf ac eofn i chwythu cyrn gwybodaeth a choethder i'w deffro. (...)

Nid oes ond mis eto ar y goreu, na fydd fy mrawd yn bell, bell Oddi wrthyf, ac Ow'r unigrwydd hwnnw, pwy ai gwyr! (...)

CYFROL 1 (1865-1945) Ffarwel fy mrawd anwyl i, And God bless thee. Ever your own Sister Eluned.

Mari Emlyn yn sôn am lythyr o fewn ei llyfr, Llythyrau'r Wladfa.

Llyfr Llythyrau o'r Wladfa.
Llythyr yn dathlu cyrhaeddiad y Mimosa.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý