Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Arloeswyr
Dic Evans
Dic Evans

Ganwyd: 19 Ionawr, 1905

Magwyd: Moelfre

Addysg: Ysgol Moelfre


Llywiwr bad achub Moelfre a enillodd ddwy fedal aur yr RNLI am ei wrhydri

"Nid eich bywyd chi ydy o ond bywyd y criw. Pan oeddwn i'n meddwl y gallwn i wneud rhywbeth mawr ond peryglus, roedd rhaid imi gofio fy mod i'n peryglu bywydau pobl eraill hefyd."

Mae Dic Evans, cyn lywiwr bad achub Moelfre, yn un o'r ychydig i ennill medal aur y RNLI - Sefydliad Brenhinol y Badau Achub - am wrhydri, ddwywaith.

Ganwyd Richard (Dic) mewn bwthyn bach yn edrych dros y môr ym Moelfre ar Ynys Môn. Roedd ei dad, William Evans, yn gapten llong ac yn aelod o griw bad achub Moelfre. Ymhlith y criw hefyd roedd ei ewythr, a'i ddau daid.

Gadawodd Dic y pentref yn 14 oed ac ymuno â chriw llong lannau gan godi i fod yn llongwr profiadol. Dychweloddd i Foelfre i redeg siop gigydd a phriodi merch fferm leol, Nansi.

Ym 1954 gofynnwyd i Dic fod yn llywiwr ar fad achub y Moelfre ar ôl i'w ewythr, John Mathews, ymddeol. Roedd o ei hun wedi ennill medal arian yr RNLI.

Derbyniodd Dic Evans ei fedal aur gyntaf am wrhydri gan yr RNLI ar ôl helpu i achub yr Hindlea ar 27 Hydref 1959. Mewn corwynt a'r gwynt yn codi i 104 milltir yr awr, achubodd Dic a'i ddynion griw yr Hindlea er bod y bad achub yn cael ei hyrddio gan donnau 48 troedfedd.

Enillodd ei ail fedal yn 61 oed am helpu i achub y llong o wlad Groeg, Nafsiporod, oedd wedi colli pwer ynghanol seiclon ac oedd yn arnofio'n beryglus tuag at ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar arfordir Caergybi. Gyda'i griw, Jurley Francis, Hugh Owen, Evan Owen, Huw Jones, William Maynard Davies, Capten Davied Jeavons a'i fab ei hun, David, achubwyd y criw oddi ar y llong er gwaetha'r difrod mawr oedd wedi'i wneud i'r bad achub.

Fis Tachwedd 2004 dadorchuddiwyd cerflun efydd o Dic Evans gan y Tywysog Siarl y tu allan i ganolfan yr Wylfan ym mhentref Moelfre. Wedi ei greu gan yr arlunydd Sam Holland, mae'n gerflun maint llawn sy'n dangos Dic Evans yn cydio'n dynn wrth lyw cwch mewn storm. Mwy am y cerflun.


Cyfrannwch

Margaret Roberts Ynys Mon
Yr oeddwn yn adnabod holl griw y bad achub ym Moelfre o dri degau y ganrif diwethaf ac hefyd yn adnabod Margaret Roth o Mission Texas pan oeddem yn tyfu i fynnu ym Moelfre. Yr oedd Hugh Owen yn gefnder i Dick Evans, y ddwy fam yn chwiorydd. Ennillodd Hugh Owen fedal gyda tad Margaret Roth am achub criw yr Excell yn y 2ddegau ac wedyn yr Hindlea a'r Nafsiporos. Gwyr dewr iawn! Mae'r cerflun o Dick Evans yn y pentref yn ardderchog a dylai wneud yn glir mai wyres i Thomas Jones, Gwelfor, Moelfre ac wedyn Cranford yw y cynllunydd ei thaid wedi tyfu i fynnu efo Dick Evans.

Margaret Roth, Las Vegas, NV, USA
I knew Dick Evans very well. Mainly I knew him as our butcher and his small shop was always spotlessly clean. I knew him also, as the coxwain of the lifeboat and all his crew. My father would volunteer on the lifeboat as many village people of Moelfre. I remember seeing and talking with him, for the last time, in March 1987 on my visit to Moelfre and introduced him to my husband, Frank. Roeddwn yn adnabod Dick Evans yn dda, fel y cigydd lleol – roedd ei siop wastad yn lân iawn. Roeddwn hefyd yn ei adnabod fel llywiwr y bad achub, a hefyd gweddill ei griw. Byddai fy nhad yn gwirfoddoli i weithio ar y bad achub fel lot o bobl pentref Moelfre. Dwi’n cofio siarad efo Dick am y tro olaf yn 1987, pan ddes ar fy ngwyliau i Moelfre, a’i gyflwyno i fy ngwr, Frank.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý