Mae Dic Evans wedi bod yn arwr i bobl Moelfre a thu hwnt ers tro a'r llynedd cafodd cerflun efydd ohono ei ddadorchuddio yn ei bentref genedigol. Roedd Dic Evans yn o'r ychydig sydd wedi ennill medal aur gan fudiad y badau achub (RNLI) am ei ddewrder ar y môr fel arweinydd bad achub Moelfre. Yr artist a ddewiswyd i'w anfarwoli ydy'r cerflunydd Sam Holland. Er mai ar gwch ar yr afon Medway yn ne Lleogr mae hi'n byw bellach, mae ganddi gysylltiadau cryf gyda Moelfre a thraddodiad morwrol y pentref. "Roedd fy nhaid yn ffrindiau mawr gyda Dic Evans ac fe wnes i ei gyfarfod sawl gwaith tra ro'n i ar wyliau ym Moelfre fel plentyn," meddai Sam. "Felly pan es i am y cyfweliad am y gwaith o greu'r cerflun, ro'n i'n gallu dangos mod i'n gwybod dipyn amdano a pha fath o ddyn oedd o. Ro'n i wrth fy modd yn cael y cyfle i greu cerflun o Dic Evans." Yn ôl Sam Holland, fe gymerodd yr holl broses ychydig dros flwyddyn i'w gwblhau. Ychwanegodd ei fod yn ddarn mawr - trydydd ran yn fwy na maint dynol go iawn. "Fe ddechreuais drwy chwilio am hen luniau o Dic, ond doedd hi ddim yn hawdd cael darlun o'i wir gymeriad o hen luniau gan eu bod i gyd wedi eu tynnu mewn digwyddiadau swyddogol fel priodasau ac angladdau, lle mae pawb yn edrych yn stiff! Fe ofynnais i fy mab fodelu fel mod i'n gallu cael yr ystum yn iawn. "Yn y cerflun, mae Dic yn pwyso i mewn i'r gwynt, yn brwydro i gadw ar ei draed ar ddec llong mewn storm. Darn mawr o graig wedi ei osod ar ongl yw'r plinth sy'n dal y cerflun ac fe fydd yn wynebu allan tuag at y môr. "Dwi'n gobeithio y bydd pobl Moelfre yn ei hoffi. Mae pawb wedi bod yn help mawr ac yn gadarnhaol iawn hyd yma. Rydw i'n gobeithio fy mod wedi dal cymeriad Dic ac y bydd yn gerflun coffa haeddianol iddo fo a'r holl waith da wnaeth o." Cafodd y cerflun 14 troedfedd o Dic Evans ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig gan y Tywysog Siarl ym Moelfre ar 23 Tachwedd, 2004.
|