Â鶹ԼÅÄ

Llun Y Bardd Olaf a fu'n rhan o weithgarwch yr Amgueddfa Genedlaethol ar Faes Eisteddfod yr Urdd 2008 yn Llandudno

Cyfle i fod yn arwr

Y Bardd Olaf, Dr William Price neu Blodeuwedd?

Bydd cyfle i chi fod yn Flodeuwedd, Dr William Price Llantrisant, Arglwyddes Llanofer neu'n löwr yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

A diolch i dynnwr lluniau, Roger Lougher, fe fydd gennych gofnod o'r digwyddiad.

Gydol yr wythnos bydd gan Roger fwth ar faes y Brifwyl lle bydd yn tynnu lluniau o eisteddfodwyr wedi eu gwisgo fel rhai o gymeriadau "eiconig" hanes Cymru - yn eu plith y bardd olaf yn y llun adnabyddus a beintiwyd yn 1774 gan Thomas Jones (1742-1803).

Hefyd, Blodeuwedd, Dr William Price ac Arglwyddes Llanofer.

Bydd hefyd, yn cyhoeddi yn ystod yr wythnos lyfr o luniau meini'r orsedd o bob rhan o Gymru.

Dywedodd Roger, 49, sy'n dod o Fasaleg ger Casnewydd ond sy'n awr yn byw ym Mhenarth iddo gael y syniad am y bwth o sioeau yr hen Orllewin gwyllt yn yr Unol Daleithiau lle'r oedd bythau o'r fath yn boblogaidd iawn yn nyddiau cynnar ffotograffiaeth.

"Fel un sy'n dysgu Cymraeg fe ddechreuais i feddwl beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry a phwy yw'r Cymry eiconig," meddai.

Mae llun cefndir pwrpasol yn cael ei beintio ar gyfer y bwth gan James Charlton a bydd yn bosibl i eisteddfodwyr brynu copïau o'r lluniau am £5 a gellir tynnu lluniau gyda theleffon poced hefyd. Dywed iddo gael help Edwina Williams Jones, o Marigold Costumes a chwmni Script to Screen gyda'r dillad.

Mae gan Roger, radd MA mewn ffotograffiaeth ddogfennol o Brifysgol Cymru, Casnewydd, a bydd ganddo hefyd arddangosfa o bortreadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Rhwng popeth bydd hon yn eisteddfod brysur iddo gan y bydd hefyd yn cyhoeddi casgliad o 60 o luniau o feini'r Orsedd o bob rhan o Gymru; Rhai o'r holl Feini/ Some of all the Stones.

"Dyma'r tro cyntaf i'r lluniau hyn fod ar gael gyda'i gilydd," meddai gan ychwanegu i rai gael eu prynu gan y Llyfrgell Genedlaethol.

"Fel dysgwr mae gen i ddiddordeb mawr yn y modd y mae'r iaith Gymraeg yn newid y tirwedd ac mae meini'r Orsedd i mi yn arwyddion gweladwy o'r iaith a'r diwylliant," meddai.

Yn costio £60 bydd y llyfr 130 dalen yn cael ei lansio heddiw, dydd Sadwrn, ar y Maes.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.