Beth yw'r Eisteddfod
Canllaw bras i Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cynhaliwyd Eisteddfod 2008 ar Gaeau Pontcanna yng ngahnol dinas Caerdydd rhwng Awst 2 - 9. Dyma oedd y tro cyntaf i'r brifwyl ymweld â'r brifddinas mewn deg mlynedd ar hugain. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau, rhwng 1 - 8 Awst, 2009 yn Y Bala.
Gŵyl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, yn y de a'r gogledd bob yn ail yw'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig.
Gellir ei disgrifio fel gŵyl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn rhan o'r ŵyl, cynhelir cyngherddau nosweithiol, ac yn perfformio yn 2008 oedd sêr fel Bryn Terfel, Connie Fisher a Cerys Matthews. Cynhelir gigs amrywiol bob nos, dramâu, comedi ac arddangosfeydd o gwmpas yr Eisteddfod ac oddi ar y maes swyddogol.
Pryd mae'n digwydd?
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau, rhwng 1 - 8 Awst, 2009 yn Y Bala. Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch o 2 - 9 Awst, 2008. Cynhaliwyd y cyngerdd agoriadol yn y pafiliwn ar y Maes, nos Wener, 1af o Awst.
Croeso i bawb
Mae croeso i bawb i'r Maes, o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu yn y Ganolfan Groeso wrth gyrraedd y Maes.
Beth i ddisgwyl?
Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd dros 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos (154,944 oedd nifer ymwelwyr yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug yn 2007 a 156,697 yng Nghaerdydd yn 2008). Y pafiliwn mawr pinc yw canolbwynt yr ŵyl - yno mae'r cystadlu'n digwydd o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio. Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremonïau yn gallu cymryd eu lle ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener.
Pris mynediad?
(Prisiau 2008) Tocyn Diwrnod i'r Maes yn £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr, plant yn £8 (12-18 oed) a £3 (dan 12 oed). Gweler .
O gwmpas y Maes a thu hwnt
Os nad y cystadlu sy'n mynd â'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r pafiliwn pinc, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld â nhw. Theatr y Maes, arddangosfeydd celf a chrefft, y Babell Lên, Maes D (pabell y Dysgwyr) yn ogystal â stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau a nwyddau o bob math. Mae nifer o stondinau bwyd o gwmpas y maes hefyd. Ac am y bedwaredd flwyddyn yn 2008, mae yna far yn gwerthu alcohol.
Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas y dref neu'r ddinas y cynhelir yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dramâu, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos.
Maes D - Mae 'D' yn sefyll am 'Dysgwyr' - dyma babell i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yma yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadleuthau.