Â鶹ԼÅÄ

Seremonïau'r wythnos

Enillydd cadair 2010

Rhestr o brif seremonïau ac enillwyr 2010, 2009 a 2008.

Dydd Llun

Seremoni Coroni'r Bardd
16.30 Pafiliwn Tasg: Casgliad o gerddi heb fod dros 200 llinell: Newid

  • 2010: Glenys Mair Glyn Roberts o Lantrisant. ;
  • 2009: Ceri Wyn Jones o Aberteifi
  • 2008: Hywel Griffiths enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Dydd Mawrth

Seremoni Medal Syr T. H. Parry - Williams er clod
12.10pm
Pafiliwn

  • 2010: Leah Owen
  • 2009: Haf Morris enillodd y fedal hon yn Y Bala.
  • Yn Eisteddfod Caerdydd 2008 dyfarnwyd y Fedal i Mair Penri Jones, Y Bala

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
17.00
Pafiliwn
Tasg: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

  • 2010: Grace Roberts o'r Felinheli. ;
  • 2009: Fflur Dafydd enillodd yn Y Bala gyda'i nofel 'Y Llyfrgell'

  • 2008: Ifan Morgan Jones oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Dydd Mercher

Seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaith a Chroesawu Cyfeillion o Wledydd Tramor
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Adfywiad.

  • 2010: Jerry Hunter. ;
  • 2009: Enillwyd y Fedal gan Siân Melangell Dafydd

  • 2008: Mererid Hopwood o Gaerfyrddin enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd gan ddod y tro cyntaf i ferch ennill tair prif wobr lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol, y Gadair, y Goron a'r Fedael Ryddiaith.

Nos Fercher

Seremoni Tlws y Cerddor
19.15
Pafiliwn
Cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o un llais a dau offeryn mewn unrhyw arddull addas. Caniateir mwy nag un symudiad heb fod yn hwy nag 8 munud.

  • 2010: Christopher Painter o'r Barri. ;
  • 2009: Doedd neb yn deilwng o'r tlws
  • 2008: Eilir Owen Griffiths enillodd y Tlws yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Dydd Iau

Cyflwyno enillydd Dysgwr y Flwyddyn
11.30
Pafiliwn

  • 2010: Julia Hawkins. ;
  • 2009: Meggan Prys, yn wreiddiol o Ohio yn America enillodd y teitl
  • 2008: Madison Tazu oedd enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn

Cyflwyno Enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
11.35
Pafiliwn
Am gyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • 2010: H. Gareth F. Roberts o Fangor
  • 2009: Dafydd Dafis o Randirmwyn oedd yr enilllydd
  • 2008: Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Seremoni Cyflwyno enillydd y Fedal Ddrama
16:00
Pafiliwn

  • 2010: Neb yn deilwng.
  • Am yr ail dro'n olynol enillodd Dyfed Edwards y Fedal Ddrama yn 2009 ar ôl ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008

Dydd Gwener

Seremoni Cadeirio'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Awdl mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell: Ennill tir.

  • 2010: Tudur Hallam o Foelsgastell.
  • 2009: Doedd neb yn deilwng o'r Gadair

  • Gwyliwch glip o seremoni'r Gadair wag (ar wefan 2009)
  • 2008: Hilma Lloyd Edwards o Bontnewydd, Caernarfon oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Eisteddfod Glynebwy 1958

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â Glynebwy oedd yn 1958 pan oedd William Morris yn Archdderwydd, T Llew Jones yn ennill y Gadair , Llewelyn Jones y Goron ac E Cynolwyn Pugh y Fedal Ryddiaith.

Gwybodaeth ychwanegol

Tua awr o hyd yw pob un o'r prif seremonïau (y Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio). Mae angen i bawb fod yn eu seddau erbyn 16.15. Ni agorir y drysau wedyn tan bod y seremoni wedi gorffen am tua 17.30 o'r gloch.

Darllenwch am holl seremonïau Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009, Caerdydd 2008 ac Eisteddfod Y Fflint 2007 trwy glicio ar y dolenni ar y dde.


Straeon o'r Maes

Tudur Hallam

Edrych nôl

Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.