Â鶹ԼÅÄ

Coroni Iwan Llwyd, 1990

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Coroni'r diweddar Iwan Llwyd yn Eisteddfod Cwm Rhymni 1990 am ei 'gampwaith'.

Roedd Iwan Llwyd yn 33 mlwydd oed pan enillodd y Goron yng Nghwm Rhymni am gasgliad o gerddi y disgrifiodd y beirniad Alan Llwyd nhw fel 'campwaith' sy'n 'ychwanegiad sylweddol at gyfoeth ein barddoniaeth gyfoes'.

Roedd Alan Llwyd yn traddodi yn y seremoni ar ran ei gydfeirniaid, Geraint Bowen a T. James Jones.

Testun y gystadleuaeth oedd casgliad o gerddi ar y testun 'Gwreichion' ac meddai Alan Llwyd amdanynt: "Mae Iwan Llwyd yn mynd â ni yn ôl i flasu eto y chwerwder a'r siom a brofwyd un mlynedd ar ddeg ynghynt wedi i Gymru droi ei chefn ar Ddatganoli.

"Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd. Yn y cerddi hyn y mae Iwan Llwyd yn ceisio canu'r genedl yn ôl i'w bodolaeth. 'Roedd angen cenedl newydd arnom ar ôl claddu'r hen genedl yng nghynhebrwng y cynllun o blaid Datganoli."

Dafydd Rowlands sy'n cyfarch y bardd coronog yn rymus ar ddiwedd y seremoni yn y clip hwn.

Y tu ôl i Iwan Llwyd yr oedd Robin Llwyd ab Owain ac Einir Jones.

Bu yn 52 oed ym mis Mai 2010.

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Cwm Rhymni 1990, ewch i .

Cafodd barn Iwan Llwyd ei hystyried wrth feirniadu cerddi'r Goron eleni.


Sylwadau

Mynedfa'r Eisteddfod

O'r we

Yr wythnos drwy lygaid Eisteddfodwyr Twitter a blogiau'r Â鶹ԼÅÄ.

Canllaw

Cynan, Aneurin Bevan a Paul Robeson yn y Gymanfa Ganu ym Mhafiliwn yr Eisteddfod.

Hanes

Beth yw'r Eisteddfod, hanes yr ŵyl a hanes '58 yng Nglyn Ebwy.

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

C2

Fideos, cyfweliadau, setiau byw, lluniau a mwy o gigs Glynebwy.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.