Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Abertawe
Criw Gym-Gym Caerdydd Golwg ar yr Eisteddfod Ryng-gol o Gaerdydd
Mawrth 2009
Huw Alun Foulkes o Brifysgol Caerdydd sy'n hel atgofion am Eisteddfod Ryng-golegol 2009.

"Ddydd Sadwrn, y seithfed o Fawrth am naw y bore a thros gant o fyfyrwyr brwd Prifysgol Caerdydd yn gwneud eu ffordd am Abertawe. Digwyddiad - yr Eisteddfod Ryng-Golegol.

Fel myfyriwr MA sydd bellach ar ei bedwaredd flwyddyn yn y Brifysgol, yr oedd yna ryw ddyhead i gipio'r tlws eleni ar ôl dod yn ail am dair blynedd yn olynol.

Dyma gyrraedd Abertawe a'r criw i gyd yn ein crysau pinc Bybl-Gym-Gymiog yn barod i ganu, dawnsio, llefaru a golchi'r cyfan lawr yng ngwir draddodiad yr Eisteddfod Ryng-Golegol ag ambell joch o'r ddiod gadarn! Mae'n rhyfeddol sut y mae safon y perfformiadau yn codi'n sylweddol erbyn ddiwedd y prynhawn a hynny wedi sawl peint!

Fe ddechreuodd yr Eisteddfod yn weddol barchus gyda'r unawdau a'r ensembles gyda Chaerdydd yn cipio'r rhan fwyaf o'r gwobrau cyntaf. Ymhen hir a hwyr, daeth hi'n amser i wobrwyo llenorion yr Eisteddfod gyda'r ddwy brif wobr sef y Gadair a'r Goron yn llwybreiddio eu ffordd nôl i'r brifddinas. Anni Llyn gipiodd y Goron am stori fer ar y testun 'Goleudy' a Llyr Gwyn Lewis gipiodd ei ail gadair Ryng-Golegol am awdl ar y testun 'Libart'. Cipiodd Gwilym Dwyfor y Fedal Ddrama am yr ail flwyddyn o'r bron a hynny'n sicrhau mai Caerdydd oedd ar y brig wrth ystyried y cystadlaethau gwaith cartref yn unig.

Yn ôl at y cystadlaethau llwyfan ac roedd Bangor yn dal i fyny ar y pwyntiau gydag Aberystwyth, Abertawe a'r Drindod yn gwneud eu gorau glas i atal Caerdydd rhag mynd â hi!

Uchafbwynt yr Eisteddfod bob blwyddyn imi ydi'r corau ac nid oherwydd y cystadlu ond oherwydd y cyd-dynnu a'r cydweithio sy'n digwydd rhwng y gwahanol golegau. Braf oedd gweld hogia'r holl golegau yn ymuno â Phrifysgol Abertawe i ganu 'Hafan Gobaith' a hynny i ddatgan ein diolch ni fel myfyrwyr Cymru i dim bach o'r Brifysgol honno a weithiodd mor galed i sicrhau llwyddiant ysgubol Eisteddfod Ryng-Golegol 2009. Ie, Caerdydd aeth â hi a does dim angen cyhoeddi y bu cryn dipyn o ddathlu wedi hynny!

Lawr â ni i Wind Street tra roedd y neuadd yn cael ei thrawsnewid ar gyfer y gig i barhau â'r antics blynyddol! Afraid dweud fod lein-yp y gig eleni yn wirioneddol wych gyda rhai o fandiau mwyaf cyffrous y sin roc Gymraeg yn barod i'n diddanu.

Ymgasglodd torf deilwng yn yr Undeb i fwynhau perfformiadau caboledig gan artistiaid megis Gwibdaith Hen Fran a Fflur Dafydd a'r Barf. Uchafbwynt y noson imi oedd perfformiad Derwyddon Dr Gonzo ac mae'n rhaid dweud mod i'n dangos tuedd gan fod fy mrawd, Dewi, yn chwarae'r bas! Fodd bynnag, fe lwyddon nhw i danio'r parti ymhellach a chan fod nifer ohonynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, pa ffordd well i gloi diwrnod llwyddiannus na chael ambell un o griw y coleg buddugol yn rocio ar y llwyfan!

Ar ran holl golegau Cymru felly, diolch anferthol i bwyllgor Gym Gym Abertawe am eu gwaith diffuant a didwyll dros y flwyddyn ddiwethaf yn paratoi a threfnu. Fel un sydd wedi mynychu pedair Eisteddfod Ryng-Golegol, gallaf ddweud yn ddi-flewyn ar dafod mai'r un olaf fu'r orau!"



Bws Â鶹ԼÅÄ Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý