Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pobol y Cwm Pobol y Cwm yn dathlu yn eu milltir sgwâr
Mae Emyr Wyn, yr actor sy'n portreadu Dai 'Sgaffalde'Ashurst yn Pobol y Cwm yn byw yng nghalon yr ardal y mae'r gyfres sebon wedi ei lleoli ynddo, sef Cwm Gwendraeth yn Sir Gâr.

Ac mae ar flaen y gad i ddarparu tipyn o hwyl ac adloniant yn ystod cyfnod dathlu pen-blwydd yr opera sebon yn 30 oed wrth iddo drefnu penwythnos o ddigwyddiadau "Dewch i Boblo" rhwng 8-10 Hydref fel y gall pobol yr ardal uno yn yr hwyl.

"Mae'n gyfle i' ni gwrdd â'r gynulleidfa ac i'r gynulleidfa gwrdd â ni, yn enwedig yn yr ardal lle mae Pobol y Cwm, wedi ei gwreiddio," meddai Emyr, a ymunodd â'r cast am y tro cyntaf yn 1978 cyn gadael am fwlch o ddeunaw mlynedd a dychwelyd yn 2001.

Bydd y penwythnos o weithgareddau yn cynnwys cyngerdd yn y Gerddi Botaneg yn Llanarthe yng nghwmni aelodau o'r cast a'r grŵp Mynediad am Ddim. Cynhelir gweithdai drama gan gast a chriw cynhyrchu y sebon ar y prynhawn Sadwrn, ynghyd â nifer o weithgareddau yn ystod y gêm rhwng y Scarlets a Conacht a fydd i'w darlledu'n fyw ar S4C.

"Mae yna gysylltiadau cryf wedi bod rhwng Pobol y Cwm a thîm Scarlets Llanelli dros y blynyddoedd," eglura. "Mae rhai o feibion enwocaf y clwb, Ray Gravell, Jonathan Davies, Ieuan Evans a Delme Thomas wedi ymddangos ar y gyfres. Rwy' inne'n aelod o Fwrdd Rheoli y Sgarlets ac mae Gwyn Elfyn (Denzil) hefyd â chysylltiadau cryf a'i ddau fab yn chwarae i'r tîm ieuenctid.

Mae Andrew Teilo (Hywel) yn frawd i un o gyn-chwaraewyr y tîm, Simon Davies, Debbie Moon (Rhian Haf) wedi priodi Rupert wrth gwrs, a Sarra Elgan, un o gyn-aelodau Pobol y Cwm wedi dyweddïo â Simon Easterby."

Daeth cymeriad Dai i'r cwm gyntaf yn 1978 fel rhyw fath o adeiladwr neu Siôn bob-swydd cyn sefydlu busnes gyda'i frawd Dic Deryn. Tyfodd y ddau yn eu tro i fod yn gymeriadau mor lliwgar â'i gilydd gyda'r ddau yn rai am y merched. Ond erbyn hyn mae Dai yn briod â Sabrina, ac wedi dechrau sigledig, maent erbyn hyn yn hapus eu byd.

"Dwi wrth fy modd hefo'r cymeriad ac mor gyfforddus yn ei chwarae. Ry'n ni i gyd yn adnabod pobol fel fe - mae'n colli ei dymer ac yn angerddol am ei rygbi. A phan mae e a Denzil a Derek mewn golygfa, ry'n ni'n cael dipyn o hwyl!" chwardda.


Cyfrannwch

llyr jones
dwi yn love io pobol y cwm


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý