Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Butetown a Bae Caerdydd
Mr Grahame Davies uwch-gynhyrchydd Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd yn dangos Â鶹ԼÅÄ Vocab Saesneg Somalieg ar fws Â鶹ԼÅÄ Cymru yn Butetown Yn syml - yn Somalieg
Mae'r ddyfais gyfrifiadurol Â鶹ԼÅÄ Vocab, a grewyd i gynorthwyo dysgwyr Cymraeg, bellach yn helpu pobl gyda'r iaith Somalieg hefyd.
Datblygwyd VOCAB gan adran Cyfryngau Newydd Â鶹ԼÅÄ Cymru er mwyn galluogi defnyddwyr Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd - gwefan fwya'r iaith Gymraeg - i gyfieithu geiriau unigol i'r Saesneg drwy ddal y llygoden dros y gair dan sylw.

Mae'r ddyfais yn golygu bod unrhyw un sydd angen cymorth gyda geirfa'r Gymraeg yn gallu cael hynny ar flaenau eu bysedd heb orfod defnyddio geiriadur arlein na chwaith un papur.

Mae wedi cael croeso brwd gan ddysgwyr yn arbennig, a hynny nid yn unig yng Nghymru ond mewn sawl man yn y byd.

Hefyd, mae llawer o bobl wedi nodi pa mor ddefnyddiol y gallai'r rhaglen fod ar gyfer ieithoedd eraill.

Felly, fel y cam cyntaf tuag at ehangu Vocab ar gyfer ieithoedd eraill, ac fel rhan o strategaeth gymunedol Â鶹ԼÅÄ Cymru yn Butetown ym Mae Caerdydd, fe lansiwyd gwasanaeth Vocab i gyfieithu rhwng y Saesneg a'r iaith Somalieg.

Mae rhyw 8,000 o bobl Somali yng Nghaerdydd, lle maen nhw'n ffurfio un o gymunedau Moslemaidd hynaf, os nad yr hynaf, ym Mhrydain.

Dechreuodd y gymuned Somali yng Nghaerdydd wrth i forwyr o Somalia ymgartrefu yng Nghymru fel gweithwyr yn y dociau ddiwedd y 19eg Ganrif, yn fuan ar ôl agor Camlas Suez.

Atgyfnerthwyd y gymuned yn yr 80au pan ddaeth llawer o ffoaduriaid i Gaerdydd i osgoi rhyfel cartref yn Somalia, ac mae cysylltiadau cyson rhwng Somaliaid Caerdydd ag Affrica.

Bellach, mae modd i'r gymuned yng Nghaerdydd ddarllen newyddion am dde ddwyrain Cymru gyda chymorth Â鶹ԼÅÄ Vocab, sydd yn cyfieithu rhwng y Saesneg a'r Somalieg. Cliciwch yma i weld.

Grahame Davies gyda Mr Said Dualeh o gymuned Somali Caerdydd, ac ymwelydd o gymuned Somali LlundainMae'r gwasanaeth hwn yn gymorth i bobl sydd yn dysgu'r Saesneg, ac i rai sydd wrthi yn dysgu Somalieg. Gwnaethpwyd y cyfieithiadau Somalieg gan Mr Mohamed Dualeh, aelod o gymuned Somali Caerdydd. Ei frawd, Said, sydd yn y llun ar y tudalen hwn.

Amcangyfrifir bod oddeutu 15m o siaradwyr Somalieg yn Affrica ac yn rhannau eraill o'r byd. Un o ieithoedd cryfaf Affrica yw hi, gyda siaradwyr yn Somalia, yn Somaliland - a dorrodd i ffwrdd o Somalia yn 1991 - yn Djibouti, Kenya, ac Ethiopia.

Ers 1972, mae'r iaith wedi cael ffurf ysgrifenedig, yn defnyddio'r wyddor Ladin. Cyn hynny, diwylliant llafar oedd hi, ond gyda chyfoeth o straeon a cherddi traddodiadol.

"Cafodd VOCAB ei ddyfeisio er mwyn cyfieithu rhwng ieithoedd o bob math," meddai Grahame Davies, uwch-gynhyrchydd Cymru'r Byd. "Heblaw am Somali, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o ddarparu'r gwasanaeth yng Ngaeleg yr Alban, yn y Wyddeleg, ac mewn ieithoedd lleiafrifoedd ethnig ym Mhrydain."

"Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chymorth Bwrth yr Iaith Gymraeg i ehangu ac i wella'r system Vocab Cymraeg," ychwanegodd.

  • Cliciwch yma i weld Â鶹ԼÅÄ Vocab, sydd yn cyfieithu rhwng y Saesneg a'r Somalieg.

  • Cliciwch yma i weld Â鶹ԼÅÄ Vocab sydd yn cyfieithu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý