Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Butetown a Bae Caerdydd
Bae Caerdydd © Â鶹ԼÅÄ Somaliaid Butetown
Datblygodd ardal dociau Caerdydd, i'r de o ganol y ddinas, i fod yn un o'r porthladdoedd prysuraf yn anterth ei hanes ym 1913, yn allforio glo stêm trwy'r Ymerodraeth.
Arferai cwmnïau llongau gyflogi morwyr lleol yn yr howldiau glo lle cedwid glo ar gyfer llongau yn teithio i'r Gorllewin Pell. Daeth llongwyr o bob cwr o'r byd i wybod bod digon o waith ar gael yn y porthladd Cymreig oedd yn dal i dyfu a byddai nifer yn dychwelyd i Gaerdydd dro ar ôl tro, rhai yn ymgartrefu yno a phriodi menywod lleol, eraill yn dychwelyd i'w mamwlad a'u teuluoedd pan oedd hynny'n bosibl.

Erbyn y 1940au roedd mwy na 50 o genhedloedd yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr yn Butetown. Cafodd y boblogaeth yma - o ddynion a fewnfudodd yn bennaf, eu denu i Gaerdydd gan waith, ac fe ddaethon nhw â'u diwylliant, eu traddodiadau, eu crefydd a'u harferion gyda nhw.

Somalia - daearyddiaeth a gwleidyddiaeth y wlad
Mae Somalia'n ffurfio pen Horn Affrica yn Nwyrain Affrica. Caiff ei ffinio gan Kenya yn y de, Ethiopia yn y gorllewin, Djibouti yn y gogledd-orllewin, Gwlff Aden yn y gogledd a Chefnfor yr India yn y dwyrain. 22/04/1844 Dociau'r Dwyrain. © Â鶹ԼÅÄBHAC [Butetown History and Arts Centre]Yn yr 1880au roedd Prydain a'r Eidal yn meddiannu gwahanol rannau o Somalia, ac fe barhaodd o dan reolaeth drefedigol hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1950 roedd y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio dros ganiatáu annibyniaeth i Somalia, ac ym 1960 fe ffurfiwyd y Weriniaeth Somali.

Ar ôl dim ond naw mlynedd cafodd y llywodraeth sifil ei dymchwel gan Siad Barre mewn gwrthryfel militaraidd. Dechreuodd gwrthwynebiad arfog mewnol i'w lywodraeth yng ngogledd y wlad yn yr wythdegau hwyr, ac er iddo gael ei atal mewn modd creulon, ymunodd grwpiau eraill oedd â chefnogaeth y clan â'r ymdrech, gan yrru Siad Barre allan yn gynnar ym 1991.Ym 1972 cafodd yr iaith Somali, gyda llawysgrifen wedi ei seilio ar y wyddor Rhufeinig ei mabwysiadu fel iaith swyddogol y wlad gan gymryd lle'r ieithoedd trefedigol Saesneg ac Eidaleg mewn llywodraeth ac addysg.

Mae'r bobl Somali wedi eu rhannu i nifer o lwythau, grwpiau sy'n olrhain eu llinach cyffredin yn ôl i un tad. Mae'r llwythau hyn, sydd, yn eu tro, wedi eu isrannu'n nifer o is-lwythau, yn uno ar lefel uwch i ffurfio teuluoedd-llwythau. Mae'r diwylliant Somali, gyda thraddodiad crwydrol gaiff ei arfer gan tua hanner y boblogaeth, yn annog teithio.

Mae yna ddihareb Somali sy'n dweud, "Nid oes gan y person sydd heb deithio lygaid i weld". (Abdi Agli, Caerdydd)

Somaliaid Caerdydd
Y gymuned Somali yng Nghaerdydd sydd â'r nifer uchaf yn y DU o Somalïaid a aned ym Mhrydain. Cawsant eu denu i Gaerdydd yn wreiddiol fel morwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn fuan wedi agor camlas Suez, i weithio yn y dociau llewyrchus. Daeth y dynion ifanc yma fel morwyr, nid fel ffoaduriaid na gweision, wedi eu gyrru gan yr awydd i ennill arian i brynu mwy o dda byw nôl yn Somalia.

Ymgartrefodd rhai ohonyn nhw yma a phriodi gwragedd lleol, er i eraill ddychwelyd adref o bryd i'w gilydd i ymweld â'u teuluoedd, gan fyw mewn lletyau yn ystod eu hamser ar y tir. Câi'r lletyau yma'u rhedeg gan Somaliaid ac roedden nhw'n cynnig i'r morwyr ar ymweliad hwylustod iaith ac arferion cyfarwydd.

Oherwydd presenoldeb trefedigol Prydain yn Somalia roedd yn bosibl i forwyr weithio a byw yn y DU. Fel arfer roedd digon o waith ar gael ar gyfer y morwyr yn y dociau, ac yn fwy diweddar yn y diwydiant dur, er eu bod yn aml yn llenwi swyddi nad oedd gweithwyr gwyn eu heisiau, unai ar yr agerfadau crwydrol lle roedd amodau gwaith yn galed, neu yn y llynges fasnach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd y morwyr Prydeinig eu symud i'r Llynges Frenhinol.

Trychinebau
Nid oedd yn fywyd hawdd, a gallai cyfnodau o argyfwng economaidd olygu trychineb: gwelodd y Dirwasgiad Mawr gannoedd o forwyr Somali'n marw o newyn oherwydd prinder gwaith. Gyda chychwyn y rhyfel cartref yn Somalia yn y 1980au, cafodd morwyr o'r gymuned sefydledig hon ganiatâd i ddod â'u teuluoedd draw.

Mae cymunedau Somali mawr hefyd yn Llundain a Manceinion ond yr un yng Nghaerdydd yw'r hynaf - 'fel ail gartref i'r bobl yma' yn ôl Adbi Sugulle, "mae yna ddihareb Somali sy'n dweud 'Caerdydd yw fy nghartref'".

Crefydd
Mae crefydd yn rhan hanfodol o fywyd Somali. Does dim lle i gyfaddawdu yn y grefydd moslem suni, er bod ambell wrthdrawiad rhwng crefydd a diwylliant - mae'r boblogaeth Somali yn y DU yn fwy tebygol o ddathlu penblwyddi, sydd ddim fel arfer yn digwydd yn Islam. Mae gweddïo ar ddydd Gwener yn bwysig iawn.

Mae nifer o bobl ifanc a theuluoedd yn mynd i'r Mosg Al-Noor; cafodd yr adeilad hwn ei adeiladu ar safle Mosg Stryd Peel. Cafodd Mosg Stryd Peel ei adeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond fe'i chwalwyd fel rhan o ailddatblygiad Trebiwt ym 1988.Khat;/Quadd - dail gwyrdd sy'n cael eu cnoi'n ffres - caiff ei ddefnyddio fel 'defnydd adloniadol'; mae hwn yn arferiad traddodiadol sy'n tanlinellu'r gwahaniaeth rhwng crefydd a diwylliant yn Somalia.

Mae Islam yn dweud na chewch gymryd unrhyw beth sy'n pylu'r meddwl, ond mae cnoi Quadd yn draddodiad diwylliannol. Mae dadl yn cael ei chynnal ar hyn o bryd ynglŷn â'r arferiad gan y gall y defnydd o'r cyfnerthwr naturiol hwn gael effeithiau niweidiol ar fywyd teuluol a chymunedol.

Stori Abdi Sugulle
Bae Caerdydd © Â鶹ԼÅÄDaeth Abdi Sugulle, a aned yn Somalia, i'r DU ym 1990 yn 10 oed. Ymsefydlodd ei deulu ym Manceinion lle roedd ei chwaer eisoes yn byw. Roedd ganddo naw brawd a chwaer - teulu mawr hyd yn oed yn ôl safonau Somali, gan mai pump neu chwech o blant oedd yn arferol. Mae nawr yn byw gyda'i wraig sy'n un o Somaliaid Caerdydd ac mae'n gweithio yn y Red House.

Pan gyrhaeddodd Abdi y DU am y tro cyntaf doedd e ddim yn siarad Saesneg ac mae'n credu ei bod wedi cymryd rhyw bum mlynedd i ddysgu'r iaith yn iawn. Mae'n cydnabod pan mae'n gweithio ei fod yn ysgrifennu yn Saesneg ond mae'n dal i feddwl mewn Somali, er bod nifer o eiriau na ellir eu cyfieithu'n llythrennol. Mae nifer o Somaliaid yn parhau i deithio nôl ac ymlaen i Somalia, yn enwedig y genhedlaeth hŷn a'r plant, sy'n gallu cymryd mantais o'r gwyliau haf hir, ond nid yw Abdi wedi bod yn ôl ers iddo gyrraedd Prydain.

Am y 'Red Sea House'
Abdi Sugulle © Â鶹ԼÅÄMae Abdi'n gweithio fel Rheolwr Cynllun yn 'Red Sea House', cynllun tai gwarchodedig ar gyfer hynafiaid Somali gaiff ei reoli gan Gymdeithas Tai Taf. Cafodd ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, a'r Cyngor Cydraddoldeb Hiliol. Cafodd 'Red Sea House' ei gwblhau ym Mis Medi 2002, ac mae'n cynnig cartref parhaol i 15 o forwyr Somali sydd wedi ymddeol mewn unedau hunangynhaliol.

Roedd rhai ohonyn nhw wedi bod yn gwasanaethu yn y Llynges Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu nifer yn ymladd ochr yn ochr gyda'r milwyr o Brydain ac fe'u gwobrwywyd â medalau am eu gwasanaeth. Cafodd y cyfadeilad ei enwi ar ôl y Môr Coch, sydd yn union i'r gogledd o Somalia, gan Mr Ahmed Mohammed, morwr a ddaeth i Gaerdydd pan oedd yn 19 ac sydd nawr yn byw yno.

Cafodd 'Red Sea House' ei adeiladu i gymryd lle'r lletyau a gynigiwyd yn Stryd Angelina am genedlaethau ac a chwalwyd yn ystod ailddatblygiad yr ardal gan Gyngor Caerdydd. Câi'r lletyau eu rhedeg gan Somalïaid, ac roedden nhw'n cynnig lle cartrefol i nifer o westeion. Mae'r genhedlaeth hŷn o forwyr wedi eu cydgysylltu â ffydd a chyfeillgarwch - pan gyrhaeddon nhw Gaerdydd, yr unig beth oedd ganddyn nhw oedd ei gilydd. Erbyn hyn mae gan Somalïaid Caerdydd ffrindiau a theulu yn ymestyn dros nifer o genedlaethau.

Gwybodaeth ychwanegol:
Mahmood Mattan
Y gŵr olaf i gael ei ddienyddio yng ngharchar Caerdydd oedd morwr o Somalia -Mahmood Mattan, a grogwyd ym 1952. Wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, cafodd faddeuant yn 1998 wedi i'r cyhuddiad gael ei wyrdroi wedi iddi ddod yn amlwg na chafodd brawf teg.

Yn y pen draw derbyniodd ei deulu iawndal, y tro cyntaf i'r Swyddfa Gartref wneud taliad i deulu person a gafodd ei grogi ar gam. Delwedd o Mahmood Mattan ac eraill yn yfed coffi yn 'Berlin's Milk Bar' 1952 gan Bert Hardy yn dilyn cais i David Knight - nid yw wedi cadarnhau ei fod wedi ei ddarganfod.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Caerdydd
Cynulliad Cenedlawthol Cymru


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý