Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Arglwyddes Llanofer ( o wefan Gwenynen Gwent) Gwenynen Gwent
Roedd Arglwyddes Llanofer yn un o Gymry hynotaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'r wisg Gymreig draddodiadol.
Er o dras Seisnig â'i gwreiddiau yn Swydd Nottingham, fe'i ganwyd yn ferch i ddyn busnes ariannog yn Nhŷ Uchaf, Llanofer ger Y Fenni a dysgodd Gymraeg a gwneud popeth nid yn unig i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ond y wisg Gymreig draddodiadol. Yr oedd hefyd yn selog dros ddawnsio gwerin Cymreig.

Pan oedd hi'n Arglwyddes Llanofer gorchmynnodd weision a morynion yr ystad i wisgo dillad traddodiadol o frethyn Cymreig.

Byddai'r Arglwyddes hithau yn gwisgo'r wisg hon hefyd a'r hetiau uchel hynny a gysylltir â'r cyfnod hwnnw.

Fe'i hysyriwyd yn wladgarol gan rai ond yn esentrig gan eraill - ond nid oedd neb na fyddai'n cydnabod maint ei brwdfrydedd heintus.

Ennill gwobr
Nid yn unig byddai'r Arglwyddes yn cynnal gweithgareddau diwylliannol Cymreig ar ei hystad ond byddai'n cystadlu ei hun mewn eisteddfodau.

Ar ôl ennill gwobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd mabwysiadodd yr enw Gwenynen Gwent ac ni fu i neb erioed ddadlau â'r disgrifiad hwnnw ohoni gan ei fod yn adlewyrchu'n llwyr ei phrysurdeb dihafal ynglyn â'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.

Gwenynen Gwent
Sefydlwyd Cymdeithas Gwenynen Gwent yn 2003 gan athrawes wedi ymddeol a anwyd ym Mhenygraig, Rhondda, Helen Forder, i gydfynd â deucanmlwyddiant geni'r Arglwyddes ym 1802.

Gwobr Mamgu
Meddai Helen: "Fe ddechreuodd fy ymchwiliadau rhyw chwe blynedd yn ôl wrth imi geisio canfod ym mha Eisteddfod y bu fy nain yn fuddugol ar ganu'r delyn deires ym 1886.

"Yr oedd yr wyrion i gyd yn gwybod fod Mamgu yn un o delynorion Llanofer a dyna'r cyfan ond ar ôl cael yr wybodaeth o Swyddfa Archifau Gwent mi gydiodd yr holl beth ynof ac mi ddechreuais i ffoli ar weithgarwch Arglwyddes Llanofer ei hun.

"Pan sylweddolais i ein bod ar drothwy dau canmlwyddiant ei geni mi ddechreuais i annog pobol 'i wneud rhywbeth' ac fe fu yna gymaint o ddiddordeb mewn arddangosfa a darlithoedd yn Y Fenni fe deimlais i y byddai'n syniad da sefydlu cymdeithas i ddod â rhai â ymddiddorai yn Arglwyddes Llanofer at ei gilydd ."

Dywedodd mai'r cam nesaf oedd gofyn i or, gor, gor wyres yr Arglwyddes, Mrs Elizabeth Murray, i fod yn llywydd.

Bu'r cyfarfod cyntaf yn NhÅ· Uchaf, Llanofer, gyda'r delynores, Ann Griffiths, yn gadeirydd, Elonwy Wright yn drysorydd a Helen yn ysgrifennydd.

Gweddill y pwyllgor ydi Ross Murray, Brian Forder, Rachael Rogers, curadur Amgueddfa'r Fenni, Luned Davies a Frances Younson, o Archifdy Gwent, Robin Davies, golygydd Newyddion Gwent a chynrychiolwyr Cymdeithas Carnhuanawc.

O Aberystwyth i Lanofer
Yn gynnar yn yr 1880au yr oedd hen daid Helen, wedi symud o Aberystwyth gyda'i deulu i weithio ar yr ystad a dyna fan cychwyn ei diddordeb hi yn yr ystad mewn gwirionedd.

Yr oedd Augusta Waddington Hall yn briod â Benjamin Hall - yr enwyd cloch Big Ben ar ei ôl yng nghloc y senedd - gan mai ef oedd y Minister of Works a'i comisiynodd.

Yng Nghymru bu'n ymgyrchydd blaellaw dros hawl y werin Gymraeg i gael gwasanaethau crefyddol yn ei hiaith ei hun ac ef oedd y diwydiannwr cyntaf i ddatgysylltu â'r eglwys sefydledig.

Pan yn aelod seneddol dros Sir Fynwy bu'n gyfrifol am ddwyn y Ddeddf Trwco gerbron y senedd yn 1831 mewn ymgais i ddileu y system drwco a oedd wrth wraidd Gwrthryfel Merthyr.

I'w feddiant ef â'i wraig y daeth Llawysgrifau Llanofer a luniwyd yn bennaf gan Iolo Morganwg ac yn cynnwys llawer o'i bapurau. Maen nhw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Annog mamau
Ym 1834 enillodd Gwenynen Gwent ddeg gini yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd am draethawd yn trafod manteision diogelu'r iaith Gymraeg a'r wisg Gymreig.

Yn Y Gymraes, bum mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd yn annog mamau Cymru i siarad Cymraeg a'u plant gan ddweud mai oddi wrth eu mamau yn hytrach na'u tadau y mae plant yn dysgu'r iaith.

Yr oedd yn wraig egnïol a phenderfynol a fyddai'n mynnu ei ffordd ei hun yn hyrwyddo'r diwylliant a garai gymaint.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý