Βι¶ΉΤΌΕΔ

Diwrnod Pethau Bychain

Logo Pethau Bychain

Wyddech chi fod yna ddiwrnod newydd yn y calendr Cymreig wedi ei neilltuo i ddefnyddio'r Gymraeg ar y we?

Sefydlwyd ymgyrch yn 2010 i wneud Medi'r 3ydd yn ddiwrnod y Pethau Bychain - sef diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

Roedd y criw y tu Γ΄l i'r ymgyrch yn annog pobl i wneud unrhyw weithgaredd digidol ar y we yn Gymraeg ar y diwrnod hwn er mwyn "chwarae rhan allweddol mewn llusgo'r Gymraeg mewn i'r byd digidol."

Roedden nhw'n gofyn i bobl gymryd rhan drwy wneud rywbeth mor fach ΓΆ newid eu statws ar Facebook i roi fideo ar y we - cyhyd ΓΆ'i fod yn Gymraeg!

Ymysg yr awgrymiadau eraill oedd gan ymgyrch Pethau Bychain roedd creu cofnod blog, uwchlwytho darn o gerddoriaeth, creu rhywbeth yn Photoshop, tudalen Wikipedia, erthgyl academaidd, rhoi eich papur bro arlein, adolygu ffilm, creu e-farddoniaeth, gwneud defnydd creadigol o fapiau Google neu greu tudalen gwe am eich hobi neu gymdeithas.

Nod yr ymgyrch, sy'n cymryd ei enw o ddyfyniad enwog , yw creu "diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn tyfu a ffynnu."

"Rydyn ni yn orddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae'r we yn gyfle i ni ffurfio ein sianeli, ein gorsafoedd a'n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni," meddent.

Daeth y syniad gan griw o Gymry Cymraeg oedd yn meddwl beth i'w wneud ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace, mathemategydd sy'n cael ei hystyried fel y rhaglennydd cyfrifiadurol cyntaf. Mae ei diwrnod ar Mawrth 24 yn dathlu llwyddiannau menywod mewn technoleg a gwyddoniaeth.

Y syniad gwreiddiol oedd cael rhywbeth tebyg i ddathlu datblygiad yr iaith Gymraeg ar y we, a datblygodd hyn yn ddiwrnod Pethau Bychain.

Gallwch weld syniadau pobl a gymerodd ran ar y dudalen ar eu gwefan

Cysylltiadau:

  • Gwefan:
  • Facebook:
  • Twitter:

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.