Â鶹ԼÅÄ

Cwrw Chips a Darlith Deg

Gwydion Rhys

01 Hydref 2010

Sioe un dyn i enillydd Richard Burton

Bydd enillydd gwobr Goffa Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ddwy flynedd yn ôl yn chwarae ei ran broffesiynol gyntaf yng nghynhyrchiad newydd cwmni Arad Goch.

Cipiodd Gwydion Rhys o Faenclochog y wobr y tro cyntaf erioed iddo gystadlu ac yn awr, flwyddyn yn ddiweddarach mae'n ymddangos mewn comedi un dyn Cwrw, Chips a Darlith Deg gan Arad Goch.

Bydd taith y ddrama yn cychwyn o amgylch Cymru Hydref 8 gyda pherfformiad yn Aberystwyth.

Ers yn grwt bu Gwydion yn cystadlu mewn steddfodau ond ar ganu yn fwy nag actio - ond wedi iddo ennill y 'Richard Burton' dechreuodd ystyried y posibilrwydd o fynd ymhellach gyda'r actio.

"Dwi'n credu bod ca'l cydnabyddiaeth am eich actio ac am eich steil o actio yn beth neis iawn i ga'l, achos fod cyment o wahanol chwaeth gyda gwahanol bobol, ac roedd ennill y wobr wedi rhoi hyder i fi," meddai.

Enillodd ei ran gydag Arad Goch mewn clyweliadau agored ac fel unrhyw sioe un dyn bydd hon yn her arbennig iddo - neu fel y dywed ef;.

"Bach yn scary i weud y lleiaf. Dod mas o'r coleg a ca'l rhan yn y cynhyrchiad a'r baich o drosglwyddo'r stori i'r gynulleidfa i gyd ar yn ysgwydde' i.

"Ond wedi gweud 'na, dwi'n eithriadol o lwcus i ga'l y siawns i ga'l fy nannedd miwn i gymeriad fydd yn cynnig lot o sgôp."

Nid dynwared

Mae'n chwarae rhan myfyriwr o'r enw Gary Jones yn y gomedi gan Sian Summers a bydd o fantais iddo, siwr o fod, bod ei gyfnod yn fyfyriwr yn dal yn ffres yn ei gof ac yntau ond newydd raddio.

"Er bydd lot o'r profiade'n bwydo miwn i'r cymeriad, fyddai'n trial osgoi ail greu sefyllfa dwi' wedi bod ynddi a dynwared fel o ni'n y coleg ond creu rhywbeth newydd gyda'r cymeriad," meddai.

Dywed Gwydion i'r tair blynedd a dreuliodd yn astudio Theatr, Cerdd a'r Cyfyngau yng Ngholeg y Drindod yn brofiad "amhrisiadwy" ac yn gyfle i arbrofi a herio ei ffiniau fel actor.

Y daith

Dyma fanylion y daith:

  • Hydref 8 & 9* Canolfan Arad Goch 7.30pm 01970 617998(*Noson Disgownt Umca)
  • Hydref 11 Clwyd Theatr Cymru 7.45pm 0845 330 3565)
  • Hydref 13 Theatr Y Gromlech, Crymych 7.30pm 01239 831 455 )
  • Hydref 15 Neuadd Talybont, Aberystwyth 7.30pm 01970 823560 (Falyri Jenkins) )
  • Hydref 18 Ysgol Gyfun Ystalyfera 6pm 01792 864949 (Menter Nedd Port Talbot) )
  • Hydref 20 Neuadd Y Ddraig Goch 7.30pm 01239 712934 (Menter Gorllewin Sir Gâr) )
  • Hydref 21 Pafiliwn Bont 7.30pm 01974 831 635)
  • Hydref 22 Neuadd Pontgarreg 7.30pm 01239 654594 (Ian Ap Dewi) 01970 617998 (Carys Roberts) )
  • Hydref 27 Theatr John Ambrose 7.30pm 01824 702 575 (Siop Elfair) )
  • Hydref 28 Canolfan Glantwymyn 7.30pm 07743575017 (Elin Vaughan Crowley) **Dyddiad Newydd**)
  • Tachwedd 2 Neuadd Dwyfor, Pwllheli 7.30pm 01758 704 088
  • Tachwedd 3 Ysgol Y Creuddyn, Llandudno 7.30pm 01492 642 357 (Menter Iaith Conwy) **Dyddiad Newydd**
  • Tachwedd 8 Ysgol Tre-Gib 7.30pm 01267 235 044 (Siop Y Pentan) **Lleoliad Gwahanol**
  • Tachwedd 10 Pafiliwn Porthcawl 1.00pm 01656 732 200 (Menter Bro Ogwr )
  • Tachwedd 11 Y Stiwdio, Coleg Y Drindod 7.30pm 01267 676640
  • Tachwedd 12.11.10 Neuadd Llanofer 7.30pm 02920 689 888 (Menter Caerdydd) **Dyddiad Newydd**
  • Tachwedd 16 Ysgol Gyfun Cymer Rhondda 7.30pm 01443 680800
  • Tachwedd 17 Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe 7.30pm 01792 560600
  • Tachwedd 18 Glan Yr Afon (Riverfront) Casnewydd 7.30pm 01633 656 757
  • Tachwedd 19** & 20 Canolfan Arad Goch 7.30pm 01970 617998 (**Cyflwyniad i ddysgwyr gyntaf.

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.