Â鶹ԼÅÄ

Cwrw, Chips a Darlith Deg - adolygiad

Gary Jones - myfyriwr

13 Hydref 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Cwrw Chips a Darlith Deg. Sioe un dyn Cwmni Arad Goch gyda Gwydion Rhys. Sgript gan Sian Summers, cyfarwyddo Angharad Lee. Perfformiad yn Clwyd Theatr Cymru, Hydref 11 2010

Mewn comedi awr a chwarter mae Gary Jones (Gwydion Rhys) yn edrych yn ôl drios ei dymor cyntaf mewn prifysgol sy'n swnio'n debyg iawn i Aberystwyth.

Er ein mwyn ni, y gynulleidfa, mae'n ail fyw mewn dull 'standyp' - tra'n disgwyl am i'w rieni ei nôl adref - olygfeydd allweddol ynglŷn â'i addysg uwch. O'r casglu canlyniadau safon uwch i'r arholiadau pentymor cyntaf.

Gyda chymaint o alw ar wahanol ddoniau yr oedd hon yn dipyn o her i unrhyw actor ac yn gymaint mwy i actor ifanc yn ei sioe gyntaf.

Heb unrhyw arwyddion ansicrwydd na nerfusrwydd aeth Gwydion Rhys - enillydd Gwobr Goffa Richard Burton yn Eistedddfod Genedlaethol 2009 yn Y Bala - ati gydag arddeliad, brwdfrydedd a mwynhad.

Syrthio o'i wely

Llofft fyw cwbl ystrydebol myfyriwr ystrydebol ydi'r olygfa a chyfarfyddwn Gary gyntaf pan yw'n llythrennol syrthio, ar ganiad larwm y bore, o'i wely a'i angen yn fawr am Alka Seltzer i'w stumog ac i liniaru'i ben.

Mewn cyfres o olygfeydd gwynt yn eich dwrn down i adnabod y bachgen o'r 'Cymoedd' - wrth gwrs - yn well wrth iddo neidio o wely i ben bwrdd fel rhywbeth wedi'i weindio.

Mae'n fab priodas gymysg lle mae'r tad di-Gymraeg a'r fam sy'n siarad Cymraeg wedi gwahanu ac yn byw ar wahân ond dal mewn rhyw gysylltiad bregus o'i herwydd ef.

Mae Gary ei hun yn dipyn o mixed up kid yn ceisio dygymod nid yn unig â'r elfennau teuluol hyn ond ddieithrwch bywyd colegol a rhannu ystafell a rhyw "Che Guevara Glannau Menai" milwriaethus o Sir Fôn a syrthio mewn cariad â'r fwyaf deniadol o ferched nad oes, megis mewn rhyw dywysoges hud Fabinogaidd, modd ei dal waeth faint ydych yn dyrnu ar ei hôl. Yn rhwystredig allan o'i gyrraedd yn barhaus.

Gwydion Rhys sy'n actio'r holl 'gymeriadau' yn nrama bywyd Gary a hynny mewn ffordd oedd yn fy atgoffa i, beth bynnag, o Lee Evans.

Teimlwn ei fod yn dehongli'n well y rhannau ffrenetig yn hytrach na'r rhai dwys ac yswn am sicrach gwrthgyferbyniad. Pryderwn weithiau y gallai'r ffin rhwng bod yn ddoniol a bod jyst yn wirion - silly - fod mewn peryg.

Doedd yna ddim amheuaeth fodd bynnag bod hwn yn berfformiwr y byddwn yn gweld llawer ohono yn y dyfodol.

'Andros o bwysau'

Yn rhaglen y sioe mae Sian Summers yn trafod yr argraff a ddeisyfa hi gan y cynhyrchiad:

"Y peth pwysicaf imi, ydi fod na ddealltwriaeth nad oes raid iti drio bod yn ddim byd ffals, yn ddim byd heblaw ti di hun. Dwi'n meddwl fod na andros o bwysau arnat ti pan ti'n mynd i'r coleg i greu persona neu i fod yn bwysig - ac mae na beryg dy fod ti mor brysur yn ymdrechu i wneud hynny fel dy fod ti'n colli'r cyfleon sy dan dy drwyn," meddai.

Nid bod myfyrwyr yn sbesial yn hynny o beth gan fod hwn yn gyfnod ansicr ym mywyd pawb ond bod pobl sy'n sgrifennu'r pethau hyn yn fwy cyfarwydd efallai â'r bywyd academaidd.

Ar un wedd byddai wedi bod yn anodd taro ar gyfnod gwell i gael cynhyrchiad am helbulon myfyrwyr ond mewn gwirionedd doedd ffioedd a'r hyn sy'n debyg o ddigwydd yn sgil Adroddiad Browne ddim yn bethau oedd yn cael eu cyffwrdd ac fe fyddai'n ddiddorol gweld a fyddant yn cael eu tynnu i mewn wrth i'r daith fynd rhagddi oherwydd y diddordeb arbennig.

Cafodd y perfformiad yn Clwyd Theatr Cymru dderbyniad derbyniol gan gynulleidfa dderbyniol o ran nifer ond heb lawer o frwmstan yn ei hymateb.

Wedi ei nodi'n sioe 13+ o ran oed tebyg mai'r ifancaf yn y gynulleidfa gafodd fwyaf o fwynhad. Doedd hi ddim, yn anffodus, yr orau i mi yn bersonol o sawl sioe ragorol a welais gan y cwmni gwerth chweil hwn dros y blynyddoedd. Cefais hi'n anodd cynhesu at Gary ond rwy'n barod i dderbyn bod hynny gymaint adlewyrchiad arnaf i ag o feirniadaeth ar y ddrama a fyddwn i ddim yn gomedd o gwbl hawl cwmni mor llwyddiannus i arbrofi gyda sioe fel hon.

Meddwi ar feddwon

Gwnaeth sawl golygfa argraff ond ac er cymaint y mae llawer o actorion yn mwynhau eu chwarae dydi meddwon, er enghraifft, mo'r ffynonellau doniolwch hawsaf ac angen eu chwarae gyda chynildeb mawr.

Yr oedd golygfeydd eraill, fodd bynnag, a gydiodd gan gynnwys y folawd ogleisiol i'r Å´yl Gerdd Dant a gallaf ddeall pam y dewisodd Sian Summers fe ei hoff linell yn y ddrama; "Crisps a phop i ddrygio'r plant / Rhag horror-mwfi'r Wyl Gerdd Dant".

Bydd adlais o'r cyfarwydd i sawl un, hefyd, yn y darlun o fod yr unig un allan o 30 mewn ystafell arholiad sydd ddim yn sgrifennu a hoffais y sylw bod yna rywbeth yn yr awyr am dri y bore sy'n gwneud i bob myfyriwr Cymraeg deimlo ei fod yn llenor!

Pob llwyddiant i'r daith.

Gweddill y daith

Dyma fanylion y daith:

  • Hydref 8 & 9* Canolfan Arad Goch 7.30pm 01970 617998(*Noson Disgownt Umca)
  • Hydref 11 Clwyd Theatr Cymru 7.45pm 0845 330 3565)
  • Hydref 13 Theatr Y Gromlech, Crymych 7.30pm 01239 831 455 )
  • Hydref 15 Neuadd Talybont, Aberystwyth 7.30pm 01970 823560 (Falyri Jenkins) )
  • Hydref 18 Ysgol Gyfun Ystalyfera 6pm 01792 864949 (Menter Nedd Port Talbot) )
  • Hydref 20 Neuadd Y Ddraig Goch 7.30pm 01239 712934 (Menter Gorllewin Sir Gâr) )
  • Hydref 21 Pafiliwn Bont 7.30pm 01974 831 635)
  • Hydref 22 Neuadd Pontgarreg 7.30pm 01239 654594 (Ian Ap Dewi) 01970 617998 (Carys Roberts) )
  • Hydref 27 Theatr John Ambrose 7.30pm 01824 702 575 (Siop Elfair) )
  • Hydref 28 Canolfan Glantwymyn 7.30pm 07743575017 (Elin Vaughan Crowley) **Dyddiad Newydd**)
  • Tachwedd 2 Neuadd Dwyfor, Pwllheli 7.30pm 01758 704 088
  • Tachwedd 3 Ysgol Y Creuddyn, Llandudno 7.30pm 01492 642 357 (Menter Iaith Conwy) **Dyddiad Newydd**
  • Tachwedd 8 Ysgol Tre-Gib 7.30pm 01267 235 044 (Siop Y Pentan) **Lleoliad Gwahanol**
  • Tachwedd 10 Pafiliwn Porthcawl 1.00pm 01656 732 200 (Menter Bro Ogwr )
  • Tachwedd 11 Y Stiwdio, Coleg Y Drindod 7.30pm 01267 676640
  • Tachwedd 12.11.10 Neuadd Llanofer 7.30pm 02920 689 888 (Menter Caerdydd) **Dyddiad Newydd**
  • Tachwedd 16 Ysgol Gyfun Cymer Rhondda 7.30pm 01443 680800
  • Tachwedd 17 Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe 7.30pm 01792 560600
  • Tachwedd 18 Glan Yr Afon (Riverfront) Casnewydd 7.30pm 01633 656 757
  • Tachwedd 19** & 20 Canolfan Arad Goch 7.30pm 01970 617998 (**Cyflwyniad i ddysgwyr gyntaf.

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.