Â鶹ԼÅÄ

Elvey MacDonald - yn ateb ein holiadur

Llun oddi ar glawr 'Llwch'

18 Medi 2009

    Enw:
    Elvey MacDonald.

  • Beth yw eich gwaith?
    Does gen i ddim swydd amser llawn, bellach. Ond mae 'nyddiau cyn llawned o waith nawr ag yr oedd cyn i mi ymddeol. Byddaf yn trefnu teithiau i Batagonia a mannau eraill yn Ne'r Amerig; ymchwilio i hanes y Wladfa; mynychu nifer o bwyllgorau; a chynrychioli Cymdeithas Cymru-Ariannin ar banel Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Bûm yn drefnydd cynorthwyol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn swyddfa'r de ac yna'n Bennaeth Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru. Cyn hynny, bûm yn gweithio mewn banc yn Nhrelew.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Rwy'n frodor o'r Wladfa. Ganed fi yn Nhrelew a chefais fy magu yn y Gaiman.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Mae nghartref presennol yn Llanrhystud, nid nepell o Aberystwyth.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Ar adegau.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf llwch? - dwedwch ychydig amdano.
    Cael fy mherswadio gan bobl a gredai bod gen i stori 'wahanol' i'w hadrodd. Manteisiais ar y cyfle i geisio ddisgrifio'r Wladfa fel ag yr oedd yn ystod fy mhlentyndod a'm llencyndod, ac i egluro sut roedd yr amgylchiadau gwleidyddol yn yr Ariannin yn effeithio ar y bobl gyffredin ac ar ein Cymreictod.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Yr Hirdaith, sy'n adrodd hanes sefydlu'r Wladfa gan ganolbwyntio ar fywyd un o'i phrif sylfaenwyr, Edwin Cynrig Roberts. Hefyd, ar gais Llyfrgell Genedlaethol Cymru, golygais ddyddiadur y gwladfawr ifanc o Abergele, Joseph Seth Jones, a gyhoeddwyd dan y teitl Dyddiadur Mimosa.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Talfyriad o Le Comte de Monte-cristo, nofel enwog A Dumas. Wrth i mi dyfu, deuthum ar draws y fersiwn gyflawn a gwelais fwy nag un ffilm a chyfres deledu yn seiliedig arni - a'u mwynhau er nad yw pob un yn ffyddlon i'r stori. Does dim dwywaith ei bod hi'n nofel fawr. Mae ynddi antur, cariad, eiddigedd, twyll, cynllwyn, anobaith, dial, perthynas dyn â chyfoeth a phŵer a'u dylanwad arno, gobaith, dadrithiad a rhychwant eang o destunau oesol eraill sy'n cyffwrdd â phob bod dynol i wahanol raddau.


  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    Cefais gopi o argraffiad Saesneg newydd sbon yn anrheg pen-blwydd eleni. Nid wyf wedi cael amser i'w daclo hyd yn hyn ond edrychaf ymlaen at gael wythnos o wyliau cyn diwedd y flwyddyn i fynd drwy'r bron i 1,200 tudalen sydd ynddo.


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Rwy'n hoff o nifer o awduron megis Ciro Alegría, Gabriel García Márquez a Pedro Vargas Llosa (yn y Sbaeneg), a Daniel Owen ac Islwyn Ffowc Elis. Mwynheais Teulu Lord Bach (Geraint V. Jones) yn aruthrol ac edrychaf ymlaen at gael darllen Petrograd (William O. Roberts) nesaf.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    El mundo es ancho y ajeno (Ciro Alegría), a ddarllenais gyntaf pan oedddwn i tua pymtheg oed, a throeon wedyn. Nofel sy'n trafod yr ormes a ddioddefodd un llwyth arbennig o frodorion Perú a'u hymgais aflwyddiannus i oresgyn trachwant ac anghyfiawnder y goresgynwyr. Stori digon cyfarwydd yn Ne'r Amerig ond sydd wedi cael ei hadrodd yn rymus iawn gan Alegría.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Unwaith eto, mae'n rhaid i mi enwi fwy nag un. Mae R. Williams-Parry siŵr o fod yn agos at y brig (ac rwy'n hynod siomedig fod llinell olaf Y Llwynog wedi'i cham-ddyfynnu yn Llwch).
    Dic Jones a'i ddwy awdl fawr, wedyn, ac rwy'n hoff iawn o awdl R. Bryn Williams 'Patagonia. Ac fe allwn enwi sawl un o'r to presennol o feirdd a thalyrnwyr.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Gweler uchod.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    Fy Ngwlad, Gerallt Lloyd Owen yw'r gerdd sy'n llwyddo bob tro i wneud i'r gwaed gyflymu yn fy ngwythiennau - yn enwedig y cwpled cyntaf.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Ffilm (o nofel enwog Harper Lee): To Kill a Mocking Bird, lle mae'r cyfreithiwr Atticus Finch (Gregory Peck) yn amddiffyn gŵr croenddu a gyhuddwyd ar gam o dreisio merch wen.
    Rhaglen: Fo a Fe a C'mon Mid-ffild!


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Hoff: Atticus Finch.
    Cas: Capten Trefor, efallai, oherwydd ei fod yn cyfoethogi ar draul pobl eraill (er bod portread ardderchog Arwel Gruffydd yn Y Dreflan, ar S4C, wedi'i droi yn ffigwr llawer anos i'w gasáu).


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Gan y gwirion ceir y gwir.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Gwynfyd


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    ±Ê±ð°ù²õ·Éâ»å.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Gwryw,
    cringoch,
    hen.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Fy anallu i wrthod cais.


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
    Nelson Mandela a Gwynfor Evans, am eu dewrder a'u dyfalbarhad.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Yr ymgyrch i sefydlu'r Wladfa.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    Edwin Cynrig Roberts: Ymhle mae'r aur?


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Gyrru adref. Er mwyn cael bod yno.


  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    Unrhyw beth a gaf pan ddaw'r teulu cyfan at ei gilydd o gwmpas y bwrdd.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Beth yw hamdden?


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Gwyrdd.


  • Pa liw yw eich byd?
    Glas a melyn (lliwiau Boca Juniors).


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Hunan-lywodraeth gyflawn i Gymru.


  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
    Gwell i mi aros i weld beth fydd yr ymateb i Llwch.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Dyma'r diwedd!

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.