Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Antur enbyd

Argraffydd o Ddinbych yn mentro i fyd a bywyd newydd

Dydd Iau, Rhagfyr 19, 2002

Dyddiadur Mimosa - El diario del Mimosa gan Joseph Seth Jones. Golygydd, Elvey MacDonald. Cyfres Dyddiaduron Cymru. Gwasg Carreg Gwalch. Β£3.50.
Pedair seren

Pryd bach blasus ydi Dyddiadur Mimosa yn hytrach na gwledd - a dyna, wrth gwrs, y bwriad gyda'r gyfres newydd hon gan un o'r prysuraf o weisg Cymru.

Cyfres sydd, o ran diwyg, oddeutu hanner arwynebedd llyfr clawr meddal arferol yn mesur ond 10cm efo 15.

Er yn 117 tudalen dim ond 60 dalen o waith darllen sydd yna gan fod yr ail hanner yn fersiwn Sbaeneg o'r dyddiadur.

I Batagonia

Go brin fod angen egluro mai'r llong a gludodd y gwladfawyr cyntaf i Batagonia oedd y Mimosa yn hwylio o Lerpwl ym Mai 1865 ar fenter na all rhywun ond dychmygu pa mor enbyd oedd hi y dyddiau hynny.

"Ymhlith y gwroniaid a fentrodd ar fwrdd y Mimosa gwelir enw Joseph Seth Jones, argraffydd ugeinmlwydd yng Ngwasg Gee, Dinbych," meddai Elvey MacDonald mewn cyflwyniad sy'n egluro sut y bu i'r argraffydd ifanc ymgymryd a'r fath antur a beth oedd ymateb ei gyfeillion a'i deulu i hynny.

Deunydd addas?

Yn argraffydd wrth ei alwedigaeth nid oedd Joseph Seth Jones y tebycaf i ymgymryd ΓΆ'r fath antur fel y mae Elvey MacDonald yn cydnabod:

"Nid oes amau diffuantrwydd y gwr ifanc sensitif hwn. Ysgogwyd ef i ymuno ΓΆ'r mudiad gwladfaol gan ei ddelfrydau gwladgarol a Christnogol, ond gellir casglu oddi wrth ei ddyddiadur a'i lythyrau nad oedd ei hyfforddiant na'i gyflwr corfforol yn ei wneud yn ddeunydd addas ar gyfer cynllun mor uchelgeisiol, mor fentrus, ac mor anodd i'w weithredu ΓΆ gwladychu Patagonia."

Yn sicr doedd o ddim yn un o'r "amaethwyr profiadol" na "chrefftwyr" y galwodd Edwin Cynrig Roberts, un o'r arweinwyr amlycaf, amdanyn nhw.

Mynd gyda'r gwynt

Er mai pytiog a chryno yw'r dyddiadur - neu "Hanes fy mynediad i Patagonia" fel y galwodd y dyddiadurwr y gwaith - y mae'n cyfleu inni naws y fordaith enbyd a'r cyrraedd tir a oedd, mae'n siwr, yn llawer mwy diffaith na'r hyn oedd y gwladychwyr wedi ei ddisgwyl o gofio'r adroddiadau calonogol a gafwyd gan hyrwyddwyr y fenter.

Mae'n syndod, wrth gwrs, fod dyddiadur o gwbl wedi goroesi ac adroddir yn y gyfrol sut y cipiwyd rhai dalennau gan y gwynt a'u chwythu dros ochr y llong i'r mΓ΄r - ond y mae digon ar Γ΄l i'n argyhoeddi nad mordaith esmwyth mo hon mwy nag unrhyw fordaith debyg y dyddiau hynny.

Plant yn marw

Mae mwy nag un cyfeiriad at farwolaeth plant ac angladd ar y mΓ΄r.

"Diwrnod teg. Hwylio yn araf iawn. Yn hwyr heddyw bu plentyn (merch) oddeutu 2 flwydd oed i Robert Thomas a'i wraig, Bangor, farw," meddai gan ddisgrifio'r angladd y diwrnod wedyn:

"Claddu'r plentyn am 10 o'r gloch y boreu, trwy ei daflu i'r mΓ΄r mewn box a wnaed i'r pwrpas, a cherrig yn un pen iddo, i'r dyben o'i suddo o'r golwg. Am 10 o'r gloch bu plentyn (bachgen) arall farw plentyn i Aaron Jenkins, a'i briod, o Mountain Ash. Yr oedd yntau oddeutu yr un oed."

Ddiwrnod arall mae'n cwyno am salwch ei hun;

"Ni chodais trwy'r dydd heddyw. Yr oeddwn yn rhydd iawn trwy'r nos neithiwr, a pharheais felly trwy'r dydd heddyw, ac yr oedd genyf boen lled dost yn fy mol," meddai un Sul gan ychwanegu mai testun pregeth oedfa'r prynhawn oedd, "Rhaid gweddΓ―o yn wastad a heb ddiffygio."

Llawer mewn ychydig

Er yn gyfrol fechan , y mae hon yn cynnig llawer gan beri i unrhyw ddarllenydd ddeisyfu cael gwybod mwy am y fenter ryfeddol hon i greu Cymru Gymraeg, Gristnogol, newydd ar beithdir ym Mhatagonia.

Ac adroddir hefyd stori ryfeddol enwi bryncyn - sydd i'w weld ar y paith o'r ffordd fawr rhwng Porth Madryn a Threlew - ar Γ΄l y dyddiadurwr gan roi iddo anfarwoldeb pellach.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy