Â鶹ԼÅÄ

Ffilm Ryan a Ronnie ar daith

Ryan a Ronnie yn perfformio yn y Saithdegau

Yr oedden nhw yn eilunod adloniant Cymru gan wneud enw iddyn nhw'u hunain yn y Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg.

Ac mae Ryan a Ronnie ar daith o amgylch Cymru unwaith eto - ond nid gydag act gomedi ond yn wrthrych drama dreiddgar ac ysgytwol gan Meic Povey sy'n dilyn un diwrnod dramatig pan yw'r ddau yn wynebu gwahanu â'i gilydd.

Sioe lwyfan

Bu drama lwyfan eisoes ac y mae'n awr yn amheuthun cael ffilm sy'n darlunio'r tyndra rhwng dau gomedïwr enwocaf byd adloniant Cymraeg ac hefyd yn ail greu peth o'u diddanwch.

Chwaraeir rhan Ryan gan Aled Pugh a Ronnie gan Rhy ap Hywel.

Dangosir tristwch y ddau a oedd y tu ol i gymaint o rialtwch - Ryan yn weithiwr diarbed a Ronnie yn ymgodymu ag iselder a'r ddiod.

Mynd eu ffordd eu hunain fu hanes y ddau ond diwedd trist a fu i'w hanes gyda Ryan yn marw'n sydyn Ebrill 22, 1977, yn ddim ond 40 oed yn ystod ymweliad â'r Unol Daleithiau.

Ac er iddo adfer i gryn raddau ei yrfa fel actor bu farw Ronnie yntau trwy ei law ei hun ym 1997 yn 58 oed.

Arwyn Davies - Mark yn 'Pobol y Cwm' - sydd wedi paratoi'r gerddoriaeth.

Addaswyd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm gan Arwyn Davies, mab Ryan.

Dangoswyd y ffilm sy'n awr ar daith o gwmpas Cymru gyntaf yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y llynedd gydag ymateb ffafriol iawn iddi a phortread y ddau actor o'r ddau ddidanwr.

Mae'n ffilm fydd yn dwyn atgofion i lawer ac yn agoriad llygad i genhedlaeth iau na chafodd y fraint o weld y ddau gomedïwr ar waith.

Dechreuodd taith - hynod gynhwysfawr - y ffilm yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe, Abertawe - Mawrth 12 2009 gydag ymweliadau wedyn â:

Y daith

  • Canolfan yr Urdd, Bala - Mawrth 16
  • Theatr y Glowyr, Rhydaman - Mawrth 18 - 21
  • Neuadd y Ddrig Goch, Drefach Felindre, Llandysul - Mawrth 20
  • Theatr Twm O'r Nant, Dinbych - Mawrth 20 a 22
  • Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - Mawrth 26
  • Oriel Ynys Mon, Llangefni - Mawrth 27 a 28
  • Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Ebrill 2 a 3
  • Ty Tawe, Abertawe - Ebrill 3
  • Canolfan Gelfyddydau Gwy, Llanfair ym Muallt (i'w gadarnhau) - Ebrill 3 i 9 (heblaw am y 6ed)
  • Sefydliad Cwmaman - Ebrill 8
  • Canolfan Ucheldre, Caergybi Ebrill 8, 10 a 12
  • Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd - Ebrill 13 a 14
  • Sefydliad y Glowyr Coed Duon - Ebrill 14 i 17
  • Theatr Gwaun, Abergwaun - Ebrill 17
  • Theatr y Lyric , Caerfyrddin - Ebrill 16 a 17
  • Theatr Elli, Llanelli - Ebrill 16 a 17
  • Garth Olwg, Pentre'r Eglwys, Pontypridd - Ebrill 22
  • Theatr Colwyn, Bae Colwyn - Ebrill 22
  • Theatr Mwldan, Aberteifi - Mai 2, 4, 5, 7, 9
  • Sinema'r Scala, Prestatyn - Mai 2

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.