Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adloniant
Ryan Davies © Â鶹ԼÅÄ
Ryan Davies

Ganwyd: 22 Ionawr, 1937

Magwyd: Glanaman, Sir Gaerfyrddin

Addysg: Coleg Normal Bangor a Central School of Speech and Drama yn Llundain


Actor, canwr a diddanwr o Sir Gaerfyrddin

Ganwyd Ryan Davies yng Nglanaman Sir Gaerfyrddin ar Ionawr 22, 1937.

Fe ddechreuodd yr actor, y canwr a'r ysgrifennwr Ryan Davies ei yrfa fel athro. Fe ddilynodd gwrs dysgu yng Ngholeg Normal Bangor yn 1957 cyn dilyn blwyddyn o gwrs yn Central School of Speech and Drama yn Llundain.

Yn ystod y 1960au fe ddysgodd am chwe mlynedd mewn ysgol uwchradd yn Croydon ond yn perfformio ar yr un pryd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ymddangos yn aml mewn nifer o raglenni teledu ar gyfer y Â鶹ԼÅÄ a'r TWW. Fe briododd Irene Williams yn 1961 gan adael y proffesiwn dysgu yn 1966.

Fe ymddangosodd fel actor proffesiynol am y tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn y ddrama Pros Kairon. Yn 1968, gafodd y brif ran yn Y Drwmwr y ddrama deledu gyntaf yn y Gymraeg i gael ei darlledu gydag is-deitlau.

Gofynnwyd iddo wneud y rhaglen deledu Gymraeg - Ryan a Ronnie a bu'r rhaglen yn llwyddiant ysgubol a gofynnwyd i'r ddau wneud cyfres byr o'r enw The Good Old Days yn Blackpool. Ryan a Ronnie oedd un o'r deuawdau mwya' talentog yng Nghymru - ac roedd y berthynas hon rhwng y ddau yn cael ei hymdebygu i Morecambe and Wise yn y Saesneg.

Yn y cyfamser, fe gyhoeddwyd mai ef a fyddai'n chwarae ail-lais i Richard Burton yn y ffilm, Under Milk Wood .

Cafodd Ryan a Ronnie peth llwyddiant yn gwneud pantomeimiau - Cinderella a Dick Whittington , ond fe benderfynasant rannu. Yn dilyn y rhannu, yn 1975 ymddangosodd Ryan mewn sioe bantomeim Mother Goose ar ei ben ei hun. Fe gafodd flwyddyn brysur iawn yn 1976 pan ymddangosodd yng nghomedi The Sunshine Boys yng Nghaerdydd a dwy ddrama Gymraeg, Welsh Not a Merthyr Riots . Y flwyddyn ganlynol fe actiodd yn Jack and the Beanstalk a wedyn yn Babes in the Wood.

Ymddangosodd wedyn yn y raglen deledu Ryan, a alluogodd iddo ddangos ei dalentau amrywiol, yn ogystal â rhaglen deyrnged i Saunders Lewis ar HTV, sef A Necessary Figure . Roedd yn bosibl ei glywed hefyd ar y radio yn The Breakers. Fe chwaraeodd nifer o gymeriadau yn cynnwys twrist Americanaidd yn rhaglen deledu Â鶹ԼÅÄ Cymru, How Green Was My Father ac ymddangosodd yn Poems and Pints ar Â鶹ԼÅÄ2.

Bu farw pan oedd ond yn 40 oed yn Buffalo, Yr Amerig ar Ebrill 22, 1977 wedi cael pwl mawr o asthma.

Erbyn hyn, mae ei fab, Arwyn Davies, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn chwarae rhan Mark Jones yn yr opera sebon Pobol y Cwm ar S4C. Mae hefyd yn gerddor a chanwr dawnus, yn dilyn ôl troed ei dad.


Cyfrannwch

Rhys, Bangor
Dwi ond yn ugain oed felly does gen i ddim atgofion melys o watsiad ryan yn fyw, ond oedd gen mamgu dap vcr o'r enw "ryan" gyda darnau gora teledu ryan, ac oeddwn i arfer watsiad o pan o ni'n hogyn bach. wir i chi mae o dal i neud i fi chwerthin. Di'r hiwmor ddim wedi dyddio ac mae'r caneuon yn wefreiddiol. Dwi a fy mand yn mynd i wneud "cyfyr" o "yn y bore" ar uned 5 yn fuan felly watsiwch allan! Hir oes i'r brenin ryan
Thu Jan 17 00:47:24 2008

Tanya Edmonds, Gaerdydd
Dwi'n cofio gweld Ryan ddim yn hir cyn iddo farw (yn Abertawe) - roeddwn yn 6 mlwydd oed. Roedd Ryan weni creu gymaint o argraff arna i dwi'n cofio Taid yn mynd a fi i osod blodau ar ei fedd. Rydw i nawr yn 36 ac yn gweithio fel consultant niwroseicolegydd glinigol - yn y swydd yma dwi'n gweld pethau drist iawn ac yn gwrando ar 'Ryan at the Rank' yn y car i codi fy iselder. Priodais yn Castell Ruthin a cerdded lawr i'r gan 'Blodwen a Mary' !!!! Marwolaeth Ryan mor ifanc yn golled enfawr - fyddai'n meddwl amdana fe efo gymaint o barch am gweddill fy oes.
Fri May 11 20:44:57 2007

Willaims -Ynys Mon
Heb os y talent mwyaf unigryw ac anhygoel y welwyd yr iaith Gymraeg.Wrth feddwl am y talentau sydd wedi dod ag adloniant i gymaint ohonym yng Nghymru, credaf bod Ryan yn sefyll ar frig y rhestr! Dawn naturiol a berffeithwyd yn y groth! Ni welwir ei fath eto. Adlonwr o'r radd flaenoraf!
Sat Jan 27 09:52:33 2007

Iwan Llewelyn Jones o Borth-y-Gest
Er 'mod i wedi cyfrannu dau sylw cadarnhaol yn barod, carwn awgrymu mai da o beth fyddai dangos pennod/au arall/eraill bellach o Fo a Fe yn hytrach nag un y Nadolig, er mor glyfar ydi hi.
Fri Jan 5 20:47:25 2007

Iwan Llewelyn Jones o Borth-y-Gest ger Porthmadog
'Roedd Ryan yn gymeriad cyflawn ac amlochrog. 'Roedd o hefyd yn ddyn call ac mae angen dyn call iawn i chwarae rhan dyn gwirion. Yn fanna yn rhywle yr oedd cyfrinach Ryan.
Wed Dec 27 23:10:22 2006

Iwan Llewelyn Jones o Borth-y-Gest, Porthmadog
Mi gofia'i'r diwrnod yn iawn yn 1977 pan ddaeth y newyddion trist am farwolaeth Ryan. Hogyn ysgol 13 oed oeddwn i ar y pryd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Oherwydd ei aml-ddoniau a'i ddoniolwch, fe barodd i minnau, hogyn 13, gael fy syfrdanu. Seren wib yn ffurfafen Cymru oedd o ac fe'i cipiwyd oddi wrthym yn rhy gynnar. Ond diolch bod ei ganeuon yn dal yn fyw i ni'r Cymry heddiw.
Sat Dec 23 22:39:22 2006

Joseph Evans (Llundain)
Er iddo farw cyn i mi cael fy ngeni, fe roeddwn ac mi fyddaf am byth yn un o gefnogwyr mwyaf Ryan. Fi dal heb ddod ar draws unrhyw un mor dalentog. Fi wastad yn gwrando ar Ryan at the Rank ar y ffordd adre pan ddoi nôl i Gymru, a ma fe wastad yn anfon fi i chwerthin. Ryan yw'r Brenin.
Wed Oct 18 16:29:45 2006

Marc, Reading (o Fôn)
O ble gest ti'r ddawn? Dwi'n meddwl am Ryan yn amal iawn, es I weld y ddrama a sgwrsiais efo Meic yn ddiweddar ond me un peth yn dod nol I mi bob tro, Pam? Pam fu farw Ryan mor ifanc, Pam fod y byd heb weld y dalent enfawr hon, ond y pam fwyaf oedd, pam fi, yn gymro pur, pam fi, yn heuddu mwynhau y canwr, actiwr, digrifwr ar ysgrifenwr gorau erioed. Dwi wedi bod yn lwcus Iawn, Iawn. Oddiwrth un or Fo's!
Sun Apr 16 22:49:09 2006

Adam Jones o Dyffryn aman
Wel amser wn'i yn Ysgol Gynradd Glanamman estalwm yr oeddent yn cael cyngherddau i dathlu Ryan Davies achos fe aeth Ryan i fy ysgol gynradd i. Mae ei wraig Eirin dal yn byw pen top Tircoed, rwyn ei hadnabod yn dda felly i wybod bod rhywun fel Ryan yn dod o fy mhentre bach i, rwyn teimlo balchder yn fy nghalon.
Wed Mar 15 20:12:28 2006

Ffion Davies, Caerfyrddin
Rydym ni fel cenedl wedi bod mor ffodus i gael rhywun mor ddawnus a mor ddoniol a Ryan! Ffantastic! Nid dim ond ei ddoniolwch sydd yn wefreiddiol ond ei ddoniau oll. Ac os byddai byth yn 'bord' neu'n teimlo'n isel, 'na gyd sydd angen yw i roi fidio Ryan yn y vcr i mhigo i fyny ac i wneud i mi chwerthin!! Mae'n donic a hanner! Diolch Ryan x
Wed Feb 22 10:13:06 2006

Arwyn Davies
On i'n potshian ar y compiwter ac am rhyw rheswm nes i teipo enw dad mewn ar google a ddath y safle we lan ymysg rhai eraill. diolch am drafferthu.Hwyl, Arwyn.
Thu May 19 01:46:15 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý