Â鶹ԼÅÄ

Julian Lewis Jones: yn sgwrsio am ei ran yn 'Invictus'

Julian Lewis Jones

24 Chwefror 2010

Ei holi ar 'Stiwdio' gan Kate Crockett

Mae'r actor o Gymru, Julian Lewis Jones, wedi derbyn cryn ganomliaeth yn dilyn ei ymddangosiad yn y ffilm Invictus 2010.

Ar y rhaglen Stiwdio ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, nos Iau Chwefror 4, 2010, bu'n sôn wrth Kate Crockett am y ffilm a sut cafodd ran capten y gwarchodwyr gwynion sy'n cydweithio â'r gwarchodwyr duon i edrych ar ôl Mandela..

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Nôl yn Nhachwedd 2008 ar adeg pan oedd yn ffilmio ar gyfer cyfres S4C, Caerdydd, a dwy bennod o'r Bill y derbyniodd wahoddiad i glyweliad.

O dÅ· tamp ym Mhenarth

"Mi roeddwn i'n ffilmio yn y tÅ· eithaf tamp ma ym Mhenarth pan gefais i alwad yn dweud fod gynnai gyfweliad i ffilm newydd Clint Eastwood a'i bod yn rhan Dde Affrig ac y buasai raid imi wneud yr acen a gweithio'n eithaf caled i gael hynna'n iawn ac os baswn i'n cael y rhan bod y ffilmio draw yn Ne Affrica yn y gwanwyn," meddai.

"Felly, fe es i ffwrdd a gweithio ar yr acen ac mi gefais i'r clyweliad ma ac mi aeth hi'n dda a tri mis wedyn, wythnos gyntaf mis Chwefror, ges i alwad yn dweud mod i ar y rhestr fer a pum diwrnod wedyn ces i wybod bod yr hen Clint Eastwood wedi mhigo i. Roeddwn i'n hapus iawn," ychwanegodd.

Gyda Morgan Freeman

Bu'n sôn hefyd am weithio gyda Morgan Freeman.

"Yn ddyn tal iawn. Mi ges i dipyn o sioc. Mae'n dalach na Clint Eastwood a minnau. Roedd lot fawr ar ei 'sgwydda fo i chwarae rhan Mandela. Lot fawr o bwysau ond mae o'n gwneud job wych ac yn wir ar ôl pum munud ti'n anghofio mai Morgan Freeman ydi o; ti rili yn credu dy fod ti'n gwatsiad Nelson Mandela. Mae'n anhygoel," meddai.

Matt Damon

Am Matt Damon dywedodd iddo ddatgelu mai'r unig a wyddai am rygbi oedd trwy fachgen yn rhannu stafell ag ef yn y coleg yn dod nôl a'i drwyn wedi torri ac yn mynd allan am beintyn wedyn!

"Ond nath o daflu'i hun i mewn i'r rhan ac wedi gwneud yr ymarfer a'r hyfforddi efo Chester Williams cyn asgellwr De Affrica," meddai.

"Mae o'n actor sydd jyst yn gweithio'n galed iawn. Mae o'n hen foi iawn. Y math o foi y cei di beint efo fo nos Sul. Ac er yn un o sêr mwyaf y byd mor down to earth."

Caerfyrddin

Fel actor dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi rhannu ei fywyd rhwng premier gyda Clint Eastwood a bywyd yng Nghaerfyrddin lle mae'n awr yn byw:

"Faswn i'n methu byw yn y byd yna trwy'r amser. Mae'n neis dŵad adref ond mae cael yr enw Clint Eastwood ar dy CV . . ."


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.