Â鶹ԼÅÄ

Invictus

Morgan Freeman fel Mandela

10 Chwefror 2010

12ATair   seren

  • Y Sêr: Morgan Freeman, Matt Damon, Julian Lewis-Jones.
  • Cyfarwyddo: Clint Eastwood.
  • Sgrifennu: Addasiad Sgript Anthony Peckham o'r astudiaeth Playing the Enemy: Nelson Mandela and the Game that Made a Nation gan John Carlin.
  • Hyd: 134 munud

Y Gêm Fawr - siom o'r mwyaf

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae paratoi i sgwennu adolygiad beirniadol o'r ffilm Invictus yn teimlo fel boddi ci bach - a hwnnw'n un cloff a hanner dall.

Ga i yn gyntaf, felly, achub y blaen a sefydlu nad lladd ar ymgyrch bersonol Nelson Mandela i uno un genedl trwy bencampwriaeth rygbi ryngwladol ydw i yma, ond yn datgan fy siom - fel un o ffans mwya'r cyfarwyddwr Clint Eastwood - yn y ffaith iddo gyflwyno cynhyrchiad mor llafurus ac ystrydebol.

Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar fisoedd cynharaf arlywyddiaeth Mandela, wrth iddo geisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwireddu delfrydau'r duon a lleddfu ofnau'r gwynion a sylweddoli y gallai Pencampwriaethau Rygbi'r Byd 1995, flwyddyn yn ddiweddarach, gynnig llwyfan rhyngwladol i un o'r ymgyrchoedd PR gorau yn hanes gwleidyddiaeth a chwaraeon rhyngwladol.

Yr unig broblem?
Ar y pryd, roedd y tîm rygbi cenedlaethol, y Springboks, nid yn unig yn adlais o oes Apartheid ond hefyd yn dipyn o jôc ar y maes rygbi rhyngwladol.

Sut goblyn allai Mandela annog y wlad gyfan i'w cefnogi - yn enwedig y mwyafrif croenddu oedd, fel eu harweinydd 'slawer dydd, yn arfer ymhyfrydu yn llwyddiant eu gwrthwynebwyr?

Ysbrydoli Eastwood

Dyma'r benbleth aruthrol sy'n ganolbwynt y ffilm ac, yn amlwg, yr hyn a ysbrydolodd Eastwood yn y lle cyntaf.

A phe na byddwn i'n gwybod dim am rygbi, a chanlyniad y pencampwriaethau hyn, na chwaith yn rhy gyfarwydd â chefndir Mandela, na Maori mawr o'r enw Jonah Lomu, sy'n chwarae rhan amlwg yn yr ugain munud olaf - hynny yw, efallai'n Americanwr cyffredin sy'n joio trip i'r sinema o bryd i'w gilydd - mae'n bosib y buasai modd ystyried Invictus fel sports flick â thinc ysbrydol iddi.

Hynny yw, y math o ffilm sydd wastad yn taro deuddeg yr ochr arall i'r Iwerydd.

Yn anffodus i Eastwood, nid yw rygbi yn golygu fawr ddim i'r rhan fwyaf o Americanwyr ac o'r herwydd methodd y ffilm â gwneud llawer o argraff ar eu box-office bondigrybwyll hyd yn hyn.

Ac yn anffodus i'r rhai hynny ohonom sydd yn mwynhau rygbi ac yn gwerthfawrogi stori arwrol am ffigurau ysbrydoledig, mae hi'n syrthio'n siomedig rhwng dwy stôl.

Hynny, oherwydd ar y naill llaw, dydy'r dehongliad o'r gêm rygbi dyngedfennol rhwng Seland Newydd a De Affrica - sy'n llenwi hanner awr ola'r ffilm - ddim yn ddigon credadwy na chyffrous i gystadlu â'r wefr o weld gêm fyw.

Mwy o sant na dyn

Ac mae'r arwr yn debycach i sant na dyn - er i'r ffilm fynnu pwysleisio mewn un olygfa mai dyn yw Mandela ac nid Sant!

Mae Invictus yn ffilm heb ddrama na 'dihiryn'; a heb y ffactorau hanfodol hyn mae ar brydiau'n ffilm ddiflas tu hwnt mae gen i ofn gyda sgript sy'n gorbwysleisio pob pwynt hyd syrffed.

Mae'n wir i ddagrau bowlio i lawr fy ngruddiau am ran helaeth ohoni - ac i rai, mae hynny'n arwydd o ffilm wych - ond mae na wahaniaeth mawr rhwng dagrau naturiol a dagrau sy'n disgyn i gynllun pendant.

Does na ddim gronyn o gynildeb yn perthyn i'r cynhyrchiad ac o ganlyniad gadewir y gwyliwr yn teimlo'n euog am beidio â chyffroi'n llwyr ar gyfer ei diweddglo "gorfoleddus".

Dim bai

Does dim bai ar na Morgan Freeman na Matt Damon fel Mandela a chapten y Springboks, Francois Pienaar. Mae'r ddau yn gredadwy iawn ac yn haeddu eu henwebiadau Oscar am yr Actor ac Actor Cynorthwyol Gorau.

Julian Lewis Jones

A chwarae teg hefyd i Julian Lewis Jones o Sir Fôn, yma'n chwarae un o warcheidwyr gwynion Mandela, gydag acen Afrikaans berffaith - hyd y gwn i - ac yn rhan o is stori sy'n feicrocosm o'r frwydr ehangach i ddod a'r genedl ynghyd.

Fel hysbyseb

Fy mhroblem fwyaf gydag Invictus ydy bod y folawd hon yn ymboeni cymaint â phlesio Mandela'r sant nes ei bod yn debycach i hysbyseb bwrdd twristiaeth De Affrica wedi'i chroesi a chwrs cryno mewn seicoleg chwaraeon.

Piti garw. Haedda'r dyn well na chael ei wyngalchu yn y fath fodd.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.